Ceisiadau ar wahân i UCAS
Mae gennym nifer fechan o raglenni israddedig y mae angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i'r brifysgol i'w hastudio.
Os ydych yn gwneud cais am raglen gradd rhan amser, neu raglen lawn amser nad sydd yn arwain at gymhwyster gradd, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i'r brifysgol drwy ddefnyddio ein gwasanaeth geisiadau ar-lein.
Os ydych eisoes yn fyfyriwr yn y brifysgol neu os ydych wedi gwneud cais yn ddiweddar i astudio rhaglen arall yn y Brifysgol, defnyddiwch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair cyfredol i greu eich cais.
Cais ar-lein drwy ysgol academaidd
Dewiswch yr ysgol academaidd sy'n cynnig rhaglen yr hoffech ei hastudio o'r rhestr isod. Gallwch ddewis yr ysgol gywir drwy ddefnyddio'r chwiliwr cyrsiau os ydych yn ansicr:
- Pensaernïaeth
- Busnes
- Gwyddorau Gofal Iechyd
- Hanes Archaeoleg a Chrefydd
- Ieithoedd Modern
- Cymraeg
Mae ein holl raddau israddedig llawn amser yn cael eu hysbysebu drwy UCAS a gallwch wneud cais drwy wasanaeth geisiadau UCAS
Os ydych yn gwneud cais ar gyfer rhaglen Astudiaethau Achlysurol israddedig, defnyddiwch y ffurflen isod:

Occasional Studies Application (Welsh)
Ffurflen Astudiaethau Achlysurol Israddedig
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Darllenwch y canllawiau i’ch helpu chi i gwblhau'r ffurflen gais. Bydd rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen monitro cyfle cyfartal.