Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Mae trais dêtio a thrais mewn perthynas (DRV), gan gynnwys trais corfforol yn ogystal ag emosiynol, yn fater o bwys mawr ymysg pobl ifanc yng Nghymru, yn ôl academyddion.

Dadansoddodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ddata arolwg gan bron i 75,000 o ddisgyblion 11–16 oed, o 193 o ysgolion yng Nghymru.

Ymhlith y bobl ifanc â phrofiad o ddêtio, dywedodd 17% o fechgyn a 12% o ferched eu bod wedi profi trais corfforol gan bartner rhamantaidd o leiaf unwaith. O ran trais emosiynol, dywedodd 28% o ferched a fu mewn perthynas eu bod wedi profi erledigaeth, o'i gymharu ag 20% o fechgyn.

Canfu dadansoddiad o'r gorgyffyrddiad rhwng erledigaeth a chyflawni bod trais corfforol yn tueddu i fynd i un cyfeiriad, ac nad yw'r rhan fwyaf o'r rheiny sy'n dioddef trais yn rhoi gwybod am hynny. Roedd trais emosiynol, ar y llaw arall, yn codi'n fwy cyffredinol ar y ddwy ochr sydd efallai'n adlewyrchu tueddiad fod gwrthdaro emosiynol yn codi'n fwy ar y cyd o fewn perthnasoedd llawer o bobl ifanc.

Yn ôl Dr Honor Young o'r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): "Mae trais dêtio a thrais mewn perthynas yn bethau sy'n effeithio ar nifer o bobl ifanc yng Nghymru. Canfyddom nad yw profiad pobl ifanc o drais dêtio a thrais mewn perthynas yn wahanol ar draws gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol, sy'n awgrymu ei fod yn effeithio ar ystod eang o bobl ifanc ar draws Cymru. Mae'r tebygolrwydd o ddioddef DRV, neu o gyflawni DRV, neu'r ddau, yn cynyddu wrth i blant, yn enwedig merched, dyfu'n hŷn."

Daeth y data ar gyfer yr astudiaeth o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2017 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol. Mae'r arolwg – yr un mwyaf o'i fath – sy'n cael ei lenwi'n unigol gan gyfranogwyr, yn gofyn ystod o gwestiynau i ddisgyblion sy'n ymwneud â'u hiechyd a'u lles, yn cynnwys eu profiadau o ran perthnasoedd.

Mae tystiolaeth yn dod i'r fei bod profiad cynnar o DRV yn gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a beichiogrwydd yn yr arddegau, anhwylderau bwyta a phroblemau iechyd meddwl, yn hwyrach.

Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod mwy o debygolrwydd i ddisgyblion o gartrefi rhiant sengl neu lys-rheini, a'r rhai mewn gofal a grwpiau lleiafrifoedd ethnig penodol, brofi neu gyflawni DRV.

Ychwanegodd Dr Young: "Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod angen ymyrraeth gynnar fel nad yw nifer y bobl ifanc sy'n profi DRV yn cynyddu wrth dyfu'n oedolyn."

Mae'r arolwg, Dating and relationship violence victimization and perpetration among 11-16 year olds in Wales: a cross-sectional analysis of the School Health Research Network (SHRN), ar gael i'w ddarllen fan hyn.

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi rhannu ei gwaith ar addysg perthnasoedd a rhywioldeb gyda llunwyr polisïau yng Ngwlad yr Iâ.

Cafodd yr Athro Emma Renold ei gwahodd i seminar ym Mhrifysgol Gwlad yr Iâ i roi cipolwg ar ei hymchwil a’r adnodd AGENDA, sydd wedi llywio'r weledigaeth ar gyfer cwricwlwm addysg perthnasoedd a rhywioldeb holistig, creadigol, grymusol a chynhwysol newydd yng Nghymru.

Y llynedd, penododd Prif Weinidog Gwlad yr Iâ weithgor i ffurfio strategaeth ataliaeth newydd ar gyfer Gwlad yr Iâ, gyda'r nod o gael gwared ar drais a cham-drin rhywiol ac ar sail rhywedd. Bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar ysgolion a meithrinfeydd fel sefydliadau allweddol ar gyfer addysg ac ataliaeth.

Dywedodd yr Athro Renold, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae gan addysgeg greadigol, sy'n aml yn defnyddio'r celfyddydau mynegiannol, megis drama, celf weledol a barddoniaeth, y potensial o helpu plant a phobl ifanc i deimlo, meddwl, cwestiynu, ymgorffori a rhannu problemau sy'n aml yn sensitif neu'n anodd.

"Roedd yn wych cael y cyfle i rannu a thrafod y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru i drawsnewid addysg perthnasoedd a rhywioldeb. Mae cwricwlwm newydd Cymru'n brosiect uchelgeisiol sy'n hyrwyddo dysgu moesegol, gwybodus, creadigol a hyderus ym mhob agwedd ar addysg, gan gynnwys addysg perthnasoedd a rhywioldeb."

Meddai Halla Gunnarsdóttir, cadeirydd y gweithgor sydd â’r dasg o lunio strategaeth atal newydd Gwlad yr Iâ: “Braint oedd cael yr Athro Emma Renold yng Ngwlad yr Iâ yn rhannu ei harbenigedd. Mae ei chyfuniad o ymchwil academaidd a phrofiad ymarferol yn werthfawr dros ben i lunwyr polisïau a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd.”

Yr Athro Renold oedd Cadeirydd panel arbenigol y Gweinidog Addysg a fu'n ystyried 'Dyfodol y cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru', a daeth adroddiad yr Athro Renold i’r casgliad bod addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion yn rhy fiolegol ac yn rhy negyddol, ac nad oedd yn rhoi digon o sylw i hawliau, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, emosiynau a pherthnasoedd. Caiff cwricwlwm newydd o'r enw Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb (RSE) ei gyflwyno yn 2022.

Mae’r Athro Renold wedi gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru i gynhyrchu AGENDA: cefnogi plant a phobl ifanc i wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri, a ariannwyd yn wreiddiol gan Brifysgol Caerdydd, NSPCC Cymru, Cymorth i Ferched a Llywodraeth Cymru. Mae'r adnodd yn helpu athrawon i ddefnyddio gweithgareddau creadigol i gefnogi plant oedran cynradd ac uwchradd i ystyried amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys teimladau ac emosiynau; cyfeillgarwch a pherthnasau; delwedd corff; cydsyniad; cydraddoldeb a hawliau o ran rhywedd a rhywioldeb.

Yn ei ddwy flynedd gyntaf, cyrhaeddodd y pecyn gynulleidfaoedd rhyngwladol, o lansiad pecyn cymorth rhyngweithiol AGENDA yn America mewn partneriaeth â SPARK Movement yn Efrog Newydd, i ddulliau gweithredu Valentine Card yn y Ffindir. Mae’n cael ei gyflwyno i athrawon yn Lloegr ar hyn o bryd.

Dathlodd Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol amryw lwyddiannau yng ngwobrau diweddar Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd.

Mae’r gwobrau’n cydnabod perfformiad rhagorol cydweithwyr ar draws y Brifysgol gan ddathlu cyflawniadau unigolion, timau a gwaith cydweithredol. Eleni roedd 154 o enwebiadau ar draws 15 categori gwobrau.

Cafodd Dr Dawn Mannay wobr am Ragoriaeth mewn Cenhadaeth Ddinesig am ei gwaith wrth wella profiadau addysgol a chanlyniadau i blant a phobl ifanc mewn gofal.

Gan weithio’n wreiddiol i gasglu profiadau 65 o blant a gafodd brofiad o ofal, mae prosiect Dr Mannay ers hynny wedi cynhyrchu ffilmiau, prosiectau celf, dosbarthu cylchgronau i 15,000 o bobl ifanc a gofalwyr maeth yn y DU, creu posteri a thaflenni gwybodaeth a anfonwyd i 1,600 o ysgolion, a threfnu gweithdai a chynadleddau ledled y DU a gysylltodd â thros 1,000 o randdeiliaid allweddol.

Mae cyfraniad sylweddol Dr Mannay tuag at wella profiadau addysgol y 5,555 plentyn a pherson ifanc mewn gofal yng Nghymru yn dangos ei harloesedd a'i gallu i weithio a chynhyrchu ar y cyd.

Cydnabuwyd enillwyr y Wobr Rhagoriaeth mewn Ymchwil, y Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch, am eu gwaith rhagorol ac effeithiol mewn meysydd megis terfysgaeth, trosedd a diogelwch, a chuddwybodaeth genedlaethol.

Cafodd y Sefydliad ei gymeradwyo am ei ddull a ysgogir gan broblemau o ddatrys problemau penodol, a’i hanes o ddatblygu polisïau ac arfer effeithiol ar y lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Cafodd Yvonne Taylor, Rheolwr y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) Wobr Syr Herbert Duthie am Ddatblygu Staff.

Fel rheolwr canolfan sy’n tyfu’n gyflym, â thros 40 aelod o staff, mwy nag 20 prosiect, a dros £10m o gyllid ymchwil, cymeradwywyd Yvonne am ei brwdfrydedd i gadw busnes y ganolfan i fynd rhagddo’n ddidrafferth.

Roedd hefyd o foddhad mawr i’r Ysgol gael pedwar cydweithiwr arall ar rhestrau byr am wobrau:

- Dr Hannah Lillecott ar gyfer Gwobr Academaidd Seren Newydd - Gyrfa Gynnar
- Yr Athro Ian Rees Jones am y Wobr Rhagoriaeth mewn Arwain
- Dr Sophie Hallett am y Wobr Rhagoriaeth mewn Arloesi a Menter
- Dr Sara Jones am y Wobr Rhagoriaeth mewn Cyfraniad Gwirfoddol

Mae oriau gwaith hir, unigedd a chyfnodau estynedig oddi cartref yn cynyddu'r risg o iechyd meddwl gwael ymysg morwyr, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae'r astudiaeth, a ariennir gan y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH), yn annog cwmnïau llongau nwyddau i roi mwy o gefnogaeth i weithwyr, er mwyn helpu i atal cyflyrau fel gorbryder ac iselder. Mae hynny'n cynnwys cynnig cyfleusterau ar y llong fel mynediad i'r rhyngrwyd, llety gwell a gweithgareddau hamdden.

Llenwodd dros 1,500 o forwyr holiadur ynghylch eu profiadau ar gyfer yr ymchwil, tra cynhaliwyd cyfweliadau wyneb yn wyneb â grŵp bach o forwyr, cyflogwyr, elusennau morol a rhanddeiliaid eraill. Roedd diffyg mynediad at y rhyngrwyd, cyfnodau hir i ffwrdd o ffrindiau a theulu a llety a bwyd o ansawdd gwael ymysg y prif bethau oedd yn peri pryder i'r rheiny sy'n gweithio ar y môr.

Yn ôl yr Athro Helen Sampson, wnaeth arwain yr astudiaeth, mae tystiolaeth bod anhwylderau seicolegol sydd wedi dechrau'n ddiweddar yn cynyddu ymhlith morwyr presennol, ond eto i gyd dywedodd dros hanner (55%) y cyflogwyr nad oeddent wedi cyflwyno unrhyw bolisïau neu arferion i fynd i'r afael ag iechyd meddwl ers degawd.

Wrth gael ei holi mewn cyfweliad am ddioddef o afiechyd meddwl, dywedodd un morwr: "Rhwng pwysau, baich gwaith, dim dyddiau i ffwrdd o'r gwaith a'r ffaith eich bod filltiroedd maith o'ch cartref ac yn gyfyngedig iawn o ran cyfathrebu, beth ydych chi'n meddwl sy'n mynd i ddigwydd?" Yn ôl morwr arall: "Dyw tri mis ar y tir yn ddim byd. Dych chi ddim yn gallu gweld eich plant yn tyfu'n hŷn, dych chi ddim yn gallu gweld unrhyw beth. Rydych chi fel ewythr sy'n mynd a dod."

Yn ôl yr Athro Sampson, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Forwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi'i lleoli yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae'n dra rhwydd i forwyr sy'n gweithio yng nghanol y cefnforoedd fod yn anweledig i'r rheiny ar y tir. Mae'r pellter maith ac arunig yn golygu na fydd cam–drin yn cael ei weld. Weithiau bydd morwyr yn cael eu bwlio, ac fe aflonyddir arnynt gan weithwyr ar lefel uwch, neu gydweithwyr, ar y llong.  Fodd bynnag, mae llawer o gyflogwyr yn cam–drin morwyr hefyd drwy fethu cynnig amodau byw gweddus a dyngarol sy'n hyrwyddo lles meddyliol da."

Casgliad yr adroddiad yw y byddai cynnig mynediad yn rhad ac am ddim at y rhyngrwyd fyddai'r cyfraniad fwyaf sylweddol at wella iechyd meddwl a lles y rheiny sy'n gweithio ar longau. Ymhlith meysydd eraill i'w hystyried mae gwell telerau ac amodau gwaith, perthnasoedd gyda chydweithwyr ar y llong, llety a gweithgareddau hamdden.

Yn ôl Duncan Spencer, Pennaeth Cyngor ac Ymarfer yn IOSH: "Mae gweithwyr unigol, neu'r rheiny sy'n gweithio fel rhan o griw bychan mewn ardaloedd arunig yn aml yn gweithio heb ryngweithio'n agos â chydweithwyr eraill neu aelodau o'r teulu. Maen nhw'n wynebu cyfres o heriau unigryw ac yn arbennig o agored i niwed o ran eu hiechyd meddwl.

"Mae angen i sefydliadau sy'n cyflogi gweithwyr arunig newid eu hymagwedd er mwyn dilyn safonau tebyg sy'n cael eu rhoi ar waith mewn diwydiannau eraill. Mae arweinyddiaeth a diwylliant gwan o fewn y sefydliad, pwysau gormodol, bwlio ac aflonyddu yn ffactorau â'r potensial i gael effaith negyddol ar iechyd meddwl a lles gweithwyr. Mae'n hanfodol ystyried y pethau hynny mewn difrif, a mabwysiadu ymagwedd gymesur tuag atynt."

Mae'r canlynol ymhlith argymhellion penodol gan yr ymchwilwyr:

  • O leiaf un gweithgaredd ar y llong, fel pêl-fasged, sboncen neu nofio;
  • O leiaf pedwar gweithgaredd o blith tennis bwrdd, dartiau, barbeciws, karaoke, bingo, gemau cardiau a gemau bwrdd;
  • Campfa gydag o leiaf tri darn o gyfarpar;
  • O leiaf dau gyfleuster o blith sawna, llyfrgell llyfrau a DVD, teledu lloeren gyda chabanau a llyfrgell o gemau fideo rhyngweithiol;
  • Matresi cyffyrddus a dodrefn yn y cabanau;
  • Gwyliau ar y tir ar bob cyfle, i weithwyr ar bob lefel;
  • Bwyd amrywiol, o safon uchel.

At hynny, anogir sefydliadau i gynnig arweiniad hunangymorth ynghylch gwella gwydnwch meddyliol, cynnig contractau sy'n cydbwyso amser yn y gwaith ac ar wyliau, cefnogi a gorfodi polisïau gwrth–fwlio a gwrth–aflonyddu, hyfforddi swyddogion i greu naws gadarnhaol ar y llong a sefydlu gwasanaethau cwnsela cyfrinachol.

Gelir bwrw golwg ar yr adroddiad ymchwil yn www.iosh.com/seafarerswellbeing

Bydd ymchwil Prifysgol Caerdydd ym maes y gwyddorau cymdeithasol yn cael ei dathlu a’i thrafod yn ystod wythnos o ddigwyddiadau.

Eleni, hon fydd pedwaredd Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi'i threfnu mewn cysylltiad â'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Ei nod yw cyflwyno ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol a gynhelir ym mhrifysgolion y DU i'r cyhoedd.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn sbarduno’r Ŵyl gyda lansiad ddydd Gwener 1 Tachwedd 2019 yn y Cornerstone yng Nghaerdydd.

Cynhelir y digwyddiad o 2 tan 9 Tachwedd 2019, a bydd ymchwil mewn meysydd mor amrywiol ag iechyd meddwl a lles, y gyfraith a gwleidyddiaeth, cynaliadwyedd a diwygiadau addysgol yn cael eu rhannu ag ystod eang o gynulleidfaoedd ar draws de Cymru.

Mae’r 12 o ddigwyddiadau’n cynnwys taith y tu ôl i lenni archifdy Sain Ffagan, trafodaeth fydd yn gofyn ai rhentu nwyddau ail-law yw’r dyfodol o ran defnyddio nwyddau, a thrafodaeth am ddyfodol democratiaeth yng Nghymru.

Yn ôl yr Athro Gillian Bristow, Deon Ymchwil Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac Athro Daearyddiaeth Economaidd: “Mae’n bleser gennym gynnal Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC arall eleni.

“Mae’r digwyddiadau’n gyfle i bobl glywed am ystod ehangach ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol a gynhelir ar draws y Brifysgol a sut mae’n effeithio ar gymdeithas, ar ffyrdd o fyw a gweithio, ar bolisïau’r llywodraeth, ac ar iechyd, diogelwch a lles pobl.

Mae ymchwil celfyddydau, dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol y Brifysgol yn cynnwys meysydd fel y diwydiannau digidol, creadigol a diwylliannol; llywodraethiant datganoledig, trefol a rhanbarthol; teulu, rhywedd, hawliau dynol; iechyd, meddygaeth ac anabledd; cynaliadwyedd a'r amgylchedd; addysg; gwaith; data gwyddorau cymdeithasol; troseddu a diogelwch; a diwylliannau, credoau ac ieithoedd dynol.

Mae'r Brifysgol yn datblygu SPARK – parc ymchwil cyntaf y byd ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol. Mae SPARK ar Gampws Arloesedd Caerdydd, a bydd yn ganolfan ar gyfer ymchwil gwyddorau cymdeithasol ar draws y Brifysgol ac yn dod ag academyddion a sefydliadau polisïau ac arferion ynghyd i ddatblygu atebion newydd i heriau byd eang pwysig.

Mae'r digwyddiadau yn ystod yr wythnos yn rhad ac am ddim ond rhaid cadw lle. I weld yr amserlen lawn, ewch i: https://www.cardiff.ac.uk/cy/festival-of-social-sciences

https://youtu.be/AOae0Kv_Zlc

Mae arolwg yn dangos bod nifer y plant sy'n dioddef o ddiffyg maeth yng ngorllewin a chanolbarth Affrica wedi codi gan dair miliwn mewn cyfnod o bum mlynedd.

Yn ôl academyddion o Brifysgol Caerdydd, nid yw'r ymchwil – y cyntaf o'i math yn y rhanbarth – yn dangos unrhyw ostyngiad yn nifer y plant sy'n dioddef mathau lluosog o ddiffyg maeth a bod y baich lluosog hwn lawer yn fwy cyffredin na'r hyn a dybiwyd yn flaenorol. Maent yn rhestru tlodi parhaus, ansicrwydd eang o ran bwyd, twf cyflym dros ben yn y boblogaeth drefol ac amodau byw tlawd fel rhai o'r ffactorau sydd wedi cyfrannu at y cynnydd.

Yn ôl y prif awdur, Dr Marco Pomati, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Yn ôl ein dadansoddiad, prin iawn yw'r cynydd a wnaed er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa daer o ran diffyg maeth yng ngorllewin a chanolbarth Affrica. Mae'r dangosyddion presennol ar gyfer diffyg maeth ymhlith plant, sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin gan lywodraethau a sefydliadau amrywiol i olrhain y broblem, yn tangynrychioli i raddau helaeth beth yw hyd a lled diffyg maeth, a chyfuniadau o ddiffyg maeth ymhlith plant yn enwedig.

"Mae ambell gyfuniad o ddiffyg maeth yn gofyn am berygl uwch o farwolaeth a morbidrwydd ond eto, nid yw'r rhain yn cael eu monitro'n rheolaidd. Mae gwell dealltwriaeth o ffactorau cymdeithasol sy’n achosi diffyg maeth yn hanfodol er mwyn i lunwyr polisïau allu datblygu strategaethau gwybodus a gwydn i fynd i'r afael â'r prif ffactorau."

Gan ddefnyddio data arolygon demograffeg ac iechyd (DHS) ac Arolygon Clystyrau Dynodyddion Lluosog (MICS) UNICEF, dadansoddodd yr ymchwilwyr ddata ar draws 18 o wledydd yn y rhanbarth. Yn ôl eu canfyddiadau, roedd 21 miliwn o blant o dan bum mlwydd oed yn dangos un math neu ragor o ddiffyg maeth yn 2010, o'i gymharu â 18 miliwn yn 2005. Roedd ychydig dros naw miliwn o blant o dan bum mlwydd oed yn profi dau fath o ddiffyg maeth neu ragor.

Yn Nigeria, y wlad fwyaf poblog yn y rhanbarth, roedd dros hanner y plant (52%) yn dioddef o ddiffyg maeth a 22% ohonynt yn dangos arwyddion o ddiffyg maeth lluosog. Ghana oedd yr unig wlad lle gwelwyd gostyngiad clir yng nghyffredinrwydd yn ogystal â nifer y plant sy'n dioddef o ddiffyg maeth.

Yn 2015, ymrwymodd pob un o aelod-wledydd y Cenhedloedd Unedig ag Agenda 2030 er Datblygu Cynaliadwy, gan addo cymryd camau i ddileu tlodi a newyn fel rhan o gyfres ar Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Ychwanegodd y cyd-awdur, Dr Shailen Nandy: "Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod angen uwchraddio'r ymdrechion rhyngwladol i ostwng tlodi os oes unrhyw gyfle iddynt lwyddo.

"Does dim angen unrhyw dechnolegau newydd yn y frwydr yn erbyn diffyg maeth, dim ond yr ewyllys gwleidyddol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd. Yn absenoldeb hynny, dyheadau'n unig fydd targedau rhyngwladol fel Nodau Datblygu Cynaliadwy."

Mae Assessing Progress towards SDG2: Trends and Patterns of Multiple Malnutrition in Young Children in West and Central Africa wedi'i gyhoeddi yn Child Indicators Research ac ar gael yma.

Mae SAGE Research Methods Foundations, un o'r adnoddau mwyaf cynhwysfawr erioed a ysgrifennwyd ar ddulliau ymchwil gwyddor gymdeithasol, wedi'i lansio gan Sage Publishing.

Mae Dr Sara Delamont a'r Athro Paul Atkinson, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, wedi treulio sawl blwyddyn yn gweithio i goladu a golygu cofnodion ar ddulliau ansoddol.

Mae gan y cyhoeddiad rhwng tri a phedwar miliwn o eiriau, ac mae’n cynnwys cofnodion ar dros 200 o ddulliau ymchwil gwyddor gymdeithasol, ynghyd â chysyniadau allweddol, astudiaethau ymchwil allweddol, a bywgraffiadau beirniadol o ysgolheigion a luniodd ddatblygiadau ym maes ymchwil gymdeithasol a methodoleg.

Mae arbenigwyr ledled y byd wedi cyfrannu cannoedd o gofnodion sydd wedi'u cynllunio i helpu ymchwilwyr ifanc i archwilio a darganfod cysyniadau, gan gyflwyno'r hanes, y datblygiad a'r dadleuon ynghylch pynciau pwysig ym maes dulliau ymchwil.

Yn ogystal â rheiny, mae'r gwyddoniadur yn cynnwys cofnodion bywgraffyddol, gan werthuso cyfraniadau parhaol ffigurau clasurol ac ymchwilwyr llai adnabyddus nad yw eu gwaith wedi cael ei gydnabod yn y gorffennol, gan gynnwys ysgolheigion benywaidd a rhai lliw.

Un arloeswr o'r fath yw Florence Nightingale, a gafodd ei chynnwys oherwydd ei defnydd o ymchwil a chyflwyno data a arweiniodd at well amodau i gleifion.

Daeth cyfraniadau i'r prosiect gan nifer o gydweithwyr yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, gan gynnwys Dr Robin Smith, yr Athro Malcolm Williams, Dr Carina Girvan a'r Athro Bella Dicks.

Dywedodd Dr Sara Delamont am y prosiect: "Rydym wedi recriwtio arbenigwyr hynod nodedig sy'n arwain y byd i ysgrifennu'r cofnodion, ac rydym yn falch iawn ohonynt. Mae cyfraniadau gan ymchwilwyr gyrfa gynnar, athrawon profiadol a phob math o swydd arall, yn ogystal â nifer o'n cydweithwyr yma yng Nghaerdydd.

"Mae'r prosiect hwn yn seiliedig i raddau helaeth ar Gaerdydd, yn enwedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae gan yr Ysgol enw da fel canolfan rhagoriaeth mewn dulliau ymchwil, wedi sefydlu'r cyfnodolyn Qualitative Research, ynghyd ag ysgrifennu llawer o lawlyfrau a gwerslyfrau ar gyfer SAGE yn y gorffennol.

"Rwy'n credu mai'r sgìl fwyaf defnyddiol y mae Paul Atkinson a minnau wedi gallu dod â hi i'r prosiect hwn oedd profiad hynod o hir o oruchwylio myfyrwyr doethurol. Mae gennym ddealltwriaeth dda o'r mathau o gwestiynau y mae ar fyfyrwyr doethurol atebion iddyn nhw, ac rwy'n gobeithio y bydd yr offeryn hwn yn ddefnyddiol iddyn nhw."

Meddai Monika Lee, cyhoeddwr SAGE Research Methods: "Rydyn ni wrth ein boddau i ddod â Foundations i swît Sage Research Methods. Mae Foundations yn fan cychwyn i ddefnyddwyr sy'n newydd i ymchwil yn gyffredinol neu i ddull penodol.

Mae SAGE Research Methods Foundations ar gael ar-lein oddi wrth Sage Publishing. Mae cofnodion ansoddol ar gael nawr. Bydd cofnodion meintiol yn dilyn erbyn haf 2020, gan gwblhau'r adnodd.

Cafodd adroddiad sy’n dogfennu lefelau tlodi plant ac amddifadedd yn Uganda ei lansio’n ddiweddar yn Kampala. Drwy ddefnyddio data o Arolwg Cenedlaethol Cartrefi Uganda 2016/17, mae’r adroddiad yn amlinellu ehangder a natur y tlodi amlddimensiynol ymysg plant Uganda.

Canfuwyd bod dros hanner (56%) o blant Uganda yn ddifreintiedig o ran pedwar neu fwy o ‘bethau angenrheidiol yn nhyb y gymdeithas’, gan eu bod heb eitemau neu ddim yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau y mae’r rhan fwyaf o bobl Uganda yn credu eu bod yn angenrheidiol i blant gael bywyd o safon dderbyniol. Roedd hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, cael tri phryd o fwyd y dydd, gallu ymweld â chyfleuster iechyd pan maent yn sâl a fforddio meddyginiaeth a ragnodir, ac o leiaf dau bâr o esgidiau sy’n ffitio’n iawn.

Roedd plant gwledig ar eu colled yn arbennig, fel yr oedd y plant yng ngogledd a gorllewin y wlad.  Mae’r adroddiad yn dangos nad yw un o bob dau o blant yn cael tri phryd y dydd, nid oedd tri chwarter yn berchen ar eu gwely eu hun, ac nid oes gan bron traean sebon neu’r adnoddau golchi sydd eu hangen i gadw’n lân.

Dr Doreen Mulenga of UNICEF Uganda

Wrth archwilio anghenion addysgiadol, canfu’r adroddiad nad oedd 43% o’r holl blant yn gallu darllen neu ysgrifennu, gyda’r ffigur mor uchel ag 84% mewn rhai ardaloedd. Ymhlith y rhai hynny a gafodd eu nodi fel plant sy’n dlawd mewn mwy nag un dimensiwn, ni allai 73% fforddio lifrau ysgol ac roedd diffyg teganau neu gemau addysgiadol neu rywle i astudio yn eu cartrefi ar 89%.

Mae’r adroddiad yn ganlyniad i brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Ystadegaeth Uganda (UBoS), Prifysgol Caerdydd, UNICEF Uganda, Sefydliad Tlodi Bryste a’r Ganolfan Ymchwil Polisi Economaidd.

Nododd Dr Shailen Nandy o Brifysgol Caerdydd, ac un o gyd-awduron yr adroddiad: “Mae’r gwaith hwn gydag UBoS, UNICEF Uganda ac eraill yn dangos bod gormod o lawer o blant yn parhau i brofi amddifadedd difrifol rhag eu hanghenion mwyaf sylfaenol; mae’r amddifadedd hwn yn tarfu ar eu hiawnderau cymdeithasol ac economaidd, sydd wedi’u hamlinellu’n glir yng Nghyfansoddiad Uganda. Mae’r defnydd o fethodoleg arloesol, y Dull Cydsyniol, wedi arwain at ddiffiniad democratig a mesur o dlodi, y dylai llunwyr polisïau fod yn ymwybodol ohono. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canlyniadau o’r astudiaeth fwyaf erioed mewn un wlad sydd wedi defnyddio’r Dull Cydsyniol, ac mae’n dangos sut mae Uganda’n arwain y ffordd o ran defnyddio dulliau newydd i asesu tlodi amlddimensiynol a mynd i’r afael ag e.”

Nododd Dr Pomati, sydd hefyd yn un o'r cyd-awduron: "O ystyried yr ymrwymiad presennol i dargedau tlodi Nodau Datblygu Cynaliadwy, rydym yn dadlau y dylid rhoi sylw i sut y gellir sicrhau consensws ynghylch cyfreithlondeb dangosyddion tlodi, yn hytrach na chanolbwyntio'n llwyr ar gyfuno'r rhain mewn ffigwr pennawd.”

Yn ôl astudiaeth, mae cynnydd mewn mynegi casineb ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at fwy o droseddau yn erbyn lleiafrifoedd mewn bywyd go iawn.

Mae academyddion o brosiect LabordyGwrthGasineb Prifysgol Caerdydd wedi casglu data troseddu a gofnodwyd yn Llundain dros gyfnod o wyth mis i ddadansoddi p'un a oedd cyswllt sylweddol rhyngddynt.

Mae eu canlyniadau yn dangos wrth i nifer y "trydariadau o gasineb" – sy'n cael eu hystyried yn atgas o ran hil, ethnigrwydd neu grefydd - o un lleoliad gynyddu, mae nifer y troseddau yn cynyddu hefyd – a oedd yn cynnwys trais, aflonyddu a difrod troseddol.

Ychwanegodd ymchwilwyr y gallai algorithm yn seiliedig ar eu dulliau helpu'r heddlu i ragweld ac atal pigynnau mewn troseddau yn erbyn lleiafrifoedd drwy ddyrannu mwy o adnoddau i ardaloedd penodol.

Dywedodd Matthew Williams, Cyfarwyddwr y LabordyGwrthGasineb: "Dyma astudiaeth gyntaf y DU i ddangos cysylltiad cyson rhwng casineb a fynegir ar Twitter sy'n targedu hil a chrefydd, a thramgwyddau ar sail hil a chrefydd sy'n digwydd all-lein.

"Mae ymchwil flaenorol eisoes wedi dod i'r casgliad bod digwyddiadau mawr yn gallu sbarduno gweithredoedd o gasineb. Ond mae ein dadansoddiad yn cadarnhau bod y cysylltiad yn bodoli hyd yn oed yn absenoldeb digwyddiadau o'r fath.

"Mae'r ymchwil yn dangos bod annhegwch casineb ar-lein yn rhan o broses ehangach o niwed sy'n gallu dechrau ar y cyfryngau cymdeithasol a throsglwyddo i'r byd go iawn."

Datblygodd gwyddonwyr cyfrifiadurol ddeallusrwydd artiffisial i ganfod 294,361 o negeseuon "casineb" ar Twitter yn ystod cyfnod o wyth mis rhwng Awst 2013 ac Awst 2014. Hidlwyd cyfanswm o 6,572 o droseddau hiliol a chrefyddol o ddata'r heddlu hefyd. Rhoddwyd y ffigurau hyn, yn ogystal â data'r cyfrifiad, mewn i un o 4,720 o ardaloedd daearyddol Llundain i alluogi ymchwilwyr i ddod o hyd i dueddiadau.

Ychwanegodd yr Athro Williams, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Tan yn ddiweddar, nid yw difrifoldeb mynegiadau o gasineb ar-lein wedi'i gydnabod yn llawn. Mae'r ystadegau hyn yn profi na ddylid anwybyddu gweithgareddau sy'n mynd rhagddynt yn y byd rhithwir.

"Casglwyd y data a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon cyn i fawrion y cyfryngau cymdeithasol gyflwyno polisïau mynegi casineb llym. Ond yn hytrach na diflannu, byddem yn disgwyl i fynegiadau o gasineb symud i blatfformau cudd. Mewn amser, bydd ein hatebion gwyddor data yn ein galluogi i ddilyn y casineb lle bynnag mae'n mynd."

Mae'r LabordyGwrthGasineb yn ganolfan fyd-eang ar gyfer data a gwybodaeth am fynegi casineb a throseddau casineb. Gan ddefnyddio dulliau gwyddor data, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) moesegol, cafodd y fenter ei sefydlu er mwyn mesur ac atal casineb ar-lein ac all-lein.

Mae'r Dangosfwrdd Mynegi Casineb Ar-lein wedi'i ddatblygu gan academyddion gyda phartneriaid polisi er mwyn achub y blaen ar achosion o droseddau casineb ar y strydoedd. Mae wedi'i sefydlu gydag arian gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn ogystal ag Adran Cyfiawnder yr Unol Daleithiau. Mae wedi cael cyfanswm o £1,726,841 o gyllid dros bum prosiect parhaus.

Mae Hate in the Machine:  Anti-Black and Anti-Muslim Social Media Posts as Predictors of Offline Racially and Religiously Aggravated Crime wedi'i gyhoeddi yn y British Journal of Criminology ac ar gael yma.

Mae dau ym mhob pump (41%) o bobl rhwng 11 ac 16 oed wedi dweud eu bod wedi gamblo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl astudiaeth.

Mae dadansoddiad gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd, y mwyaf o'i fath yn y DU, yn datgelu mai peiriannau mewn arcêd, tafarn neu glwb oedd y mathau mwyaf poblogaidd o gamblo, o flaen chwarae cardiau am arian gyda ffrindiau, a phrynu cardiau crafu. Roedd taro bet breifat rhwng ffrindiau a phrynu tocynnau loteri hefyd ymhlith y prif weithgareddau gamblo.

O'r rheiny a ddywedodd eu bod wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf, dywedodd 16% eu bod yn teimlo'n ddrwg o ganlyniad. Roedd bechgyn yn gamblo'n fwy rheolaidd na merched. Roedd pobl ifanc o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, a myfyrwyr a deimlai nad oeddent yn perthyn i'w hysgol, hefyd yn fwy tebygol o gamblo a theimlo'n ddrwg am y profiad.

Yn ôl ymchwilwyr, mae'r canlyniadau'n dangos bod angen gwneud rhagor i godi ymwybyddiaeth ynghylch peryglon gamblo, ac maent yn argymell rhoi mwy o ystyriaeth i gyfrifoldebau diwydiant a llywodraeth, ysgolion a theuluoedd, wrth o ran cadw cysylltiad pobl ifanc â gamblo ar ei isaf.

Dywedodd Dr Graham Moore, o'r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), lle cafodd yr ymchwil ei chynnal: "Er bod llawer o ymddygiadau sy'n risg i bobl ifanc, fel ysmygu ac yfed alcohol, wedi tyfu'n llai cyffredin dros oddeutu'r 20 mlynedd ddiwethaf, rydym yn gweld ymddygiadau newydd sy'n peri risg yn dod i'r amlwg yn y gymdeithas sydd ohoni. Mae ein hymchwil yn awgrymu efallai bod gamblo yn dod i'r amlwg fel problem iechyd cyhoeddus.

"Mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl sy'n gamblo yn ystod cyfnod cynnar yn eu bywydau yn fwy tebygol o fod yn gamblwyr â phroblem pan maent yn oedolion. Mae'n ffaith bod cyfle eang i gamblo, a phrin iawn yw'r addysg ynghylch y peryglon sy'n gysylltiedig â hynny, sy'n golygu bod pobl ifanc yn arbennig o agored i gael eu niweidio ganddo. Mae angen gwneud rhagor o waith gyda llunwyr polisïau, ysgolion, teuluoedd a phobl ifanc, i ddeall sut y gellir gostwng y graddau y daw pobl ifanc i gysylltiad â gamblo."

Cafodd data ar gyfer yr astudiaeth ei gasglu gan dros 37,000 o fyfyrwyr wnaeth ateb cwestiynau ynghylch gamblo, fel rhan o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, sy'n cynrychioli 193 o ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Gofynnwyd ystod o gwestiynau i ymatebwyr am gamblo, yn cynnwys a oeddent wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf, pa mor aml oeddent wedi teimlo'n ddrwg am gamblo a pha fathau o weithgareddau gamblo y buon nhw'n rhan ohonynt.

Yn y DU, mae gamblo masnachol ond yn gyfreithiol ar gyfer y rheiny sy'n 18 oed a hŷn, gyda dau eithriad. Gall pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed brynu cynhyrchion y Loteri Genedlaethol yn ôl y Gyfraith, yn cynnwys gemau lle dewisir rhifau, cardiau crafu a chyfleoedd i ennill ar unwaith ar-lein. Nid oes cyfyngiadau oedran ar beiriannau gemau categori D, sy'n cynnwys peiriannau 'ffrwythau.'

Yn ôl y prif awdur, yr Athro G.J. Melendez-Torres, a gynhaliodd yr ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ac sydd bellach ym Mhrifysgol Caerwysg: "Mae gamblo sy'n broblem yn gysylltiedig â hunan-barch is, perfformiad gwannach yn yr ysgol, a risg uwch ar gyfer mathau eraill o ddibyniaeth, yn ogystal â theimladau o euogrwydd, cywilydd a hunan-gasáu.

"Mae ein canfyddiadau'n dangos pa mor bwysig yw addysgu pobl ifanc a rhieni am y niweidiau posibl o ganlyniad i gamblo, ac yn cefnogi argymhellion polisi ar gyfer ysgolion a'r sector addysg i godi ymwybyddiaeth ynghylch y materion hynny."

Mae’r ymchwil wedi’i chyhoeddi yn The Europe Journal of Public Health ac mae ar gael i’w gweld yma.