Ewch i’r prif gynnwys

Staff Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn cipio pedair gwobr yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth 2022 Prifysgol Caerdydd

19 Rhagfyr 2022

Three Cardiff University staff members' portrait photos

Casglodd tri aelod o staff academaidd Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a chanolfan ymchwil wobrau yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth 2022 Prifysgol Caerdydd.

Cafodd Dr Sofia Vougioukalou, Dr Sophie Hallet, Abyd Quinn-Aziz ac Y Lab eu cydnabod am eu cyflawniadau priodol gyda'r brifysgol.

Gwnaethom sgwrsio â phob un ohonyn nhw i ddarganfod mwy.

A portrait photo of a Cardiff University academic.

Dr Sofia Vougioukalou
Cymrawd Ymchwil, Y Lab
🏆Rhagoriaeth mewn Cenhadaeth Ddinesig

1. Pam cawsoch eich enwebu?

Cefais fy enwebu am fy nghyfraniad i strategaeth cenhadaeth ddinesig Prifysgol Caerdydd ac ymgysylltu â sefydliadau allanol, pobl sy'n byw gyda dementia a gofalwyr ac ymgyrchwyr, gan greu saith stori ddigidol a thair ffilm i godi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau iechyd mewn gofal dementia.

2. Dywedwch wrthym am waith nodedig gennych chi...

Yn ddiweddar, rwyf wedi cynhyrchu chwe briff ymchwil ym maes y celfyddydau ac iechyd i lywio datblygiad y Fframwaith Cymru Gyfan ar Bresgripsiynu Cymdeithasol.

3. Beth sydd nesaf i chi o ran ymchwil/gwaith?

Rwy'n gweithio ar fy Nghymrodoriaeth Arloesedd newydd yr Academi Brydeinig o'r enw Heneiddio Creadigol a Phresgripsiynu Cymdeithasol: Pontio’r bwlch rhwng defnyddwyr gwasanaeth amrywiol, darparwyr gwasanaethau a llunwyr polisi yng Nghymru, a gynhelir mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru ac 13 sefydliad sy’n cydweithio.

Cyn bo hir, byddaf yn dechrau fy astudiaeth gwerth £1M a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).

4. Sut gallwn ni ddarganfod mwy amdanoch chi/eich gwaith (gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac ati)?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fy ngwaith drwy Y Lab.

A portrait photo of a Cardiff University academic.

Dr Sophie HallettUwch-ddarlithydd, Polisi Cymdeithasol
🏆 Seren Newydd – Academydd ar Ddechrau ei Yrfa

1. Pam cawsoch eich enwebu?

Gwnaeth Jamie Lewis yn SOCSI fy enwebu ar gyfer y wobr 'seren newydd – academydd ar ddechrau ei yrfa' oherwydd y newidiadau a'r dylanwad mae fy ngwaith wedi'i gael ar bolisi ac ymarfer proffesiynol yng Nghymru ac yn New South Wales yn Awstralia.

2. Dywedwch wrthym am waith nodedig gennych chi...

Mae fy ymchwil wedi edrych yn benodol ar gamfanteisio'n rhywiol ar blant, ac yn mynd i'r afael yn ehangach â materion sy’n ymwneud â phobl ifanc, gofal a systemau diogelu.

Yn flaenorol, roedd fy PhD yn archwilio camfanteisio'n rhywiol ar blant o safbwyntiau pobl ifanc sy'n profi'r gamdriniaeth hon ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gwahanol sy’n eu cefnogi.

Roedd fy ngwaith diweddarach, sef astudiaeth dull cymysg aml-haen fawr, yn adeiladu ar y canfyddiadau hynny ac yn herio syniadau o risg sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc a'u hymddygiad, yn ogystal â herio arferion sy'n atal risg sy'n hyrwyddo 'amddiffyniad' ar draul deall a mynd i'r afael ag anghenion gofal a chymorth pobl ifanc a'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae'r ffilm fer hon yn ceisio egluro hynny: https://www.checkyourthinking.org/materials/

3. Beth sydd nesaf i chi o ran ymchwil/gwaith?

Rwyf ar absenoldeb astudio ar hyn o bryd, yn canolbwyntio ar ysgrifennu a chyhoeddi fy ymchwil. Rwyf hefyd, gobeithio, ar fin dechrau secondiad 6 mis fel Darllenydd gyda'r Ganolfan Connect ar gyfer Trais Rhyngbersonol yn UCLAN, yn rheoli prosiect a ariennir gan y Swyddfa Gartref, yn gwneud rhywfaint o fentora ar gyfer eu ECR, yn enwedig ynghylch cyhoeddi a ffyrdd creadigol o rannu canfyddiadau ymchwil, a gweithio gyda'r Ganolfan i sefydlu eu grŵp cynghori o randdeiliaid sy’n oroeswyr.

4. Sut gallwn ni ddarganfod mwy amdanoch chi/eich gwaith (gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac ati)?

Gwnaeth Katie Bodinger yn y tîm cyfathrebu canolog yn garedig iawn gynhyrchu tudalen we am fy ngwaith ar gamfanteisio'n rhywiol ar blant fel enghraifft o effaith ymchwil yn y brifysgol.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru fy nghomisiynu i drosi canfyddiadau fy ymchwil a rhai o'r adnoddau a ddatblygais o'r gwaith hwnnw yn ganolfan adnoddau ar-lein ar gyfer ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol, gofalwyr maeth a rhieni sy'n cefnogi plant a phobl ifanc.

A portrait photo of a Cardiff University academic.

Abyd Quinn-Aziz
Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr y Rhaglen Gwaith Cymdeithasol (MA)
🏆 Rhagoriaeth mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

1. Pam cawsoch eich enwebu?

Rwy'n credu bod fy ysgol wedi gweld effaith fy ngwaith ar gydraddoldeb dros y blynyddoedd ac yn teimlo ei bod yn bryd fy enwebu.

2. Dywedwch wrthym am waith nodedig gennych chi...

Gwnes i helpu i sefydlu grŵp cydgynhyrchu MASW sy'n cynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau sy’n ymwneud â dewis myfyrwyr, addysgu ac ymchwil ar y rhaglen yn ogystal â bod yn bartneriaid wrth reoli ein rhaglenni.

3. Beth sydd nesaf i chi o ran eich ymchwil/gwaith?

Rwyf wedi golygu llyfr ar waith cymdeithasol yng Nghymru ar y cyd ac wedi cyd-ysgrifennu pennod ar ymarfer gwaith cymdeithasol gwrth-hiliol, i'w gyhoeddi yn barod ar gyfer blwyddyn academaidd 2023. Rwyf hefyd yn gweithio ar Grŵp Llywio Cydraddoldeb Hiliol Cymru.

4. Sut gallwn ni ddarganfod mwy amdanoch chi/eich gwaith (gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac ati)?

Gallwch ddilyn fy nghyfrif Twitter personol.

Llongyfarchiadau i bob un o'n henillwyr, rydyn ni mor falch ohonoch chi.

Rhannu’r stori hon