Amdanom ni
Rydym yn cynnig amgylchedd deinamig ac ymgysylltiol ym meysydd dysgu ac ymchwil i dros 160 o staff academaidd a thua 1,000 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni gradd yn y gwyddorau cymdeithasol, ac mae ein rhaglen portffolio yn elwa o arbenigedd academaidd mewn nifer o ddisgyblaethau, gan gynnwys cymdeithaseg, astudiaethau polisi, troseddeg, addysg a gwaith cymdeithasol.
Rydym yn gwerthfawrogi cymuned ein myfyrwyr ac yn ymrwymedig i wneud yn siŵr bod ein myfyrwyr yn mwynhau eu profiad gyda ni. Mae myfyrwyr yn cael dweud eu dweud am newidiadau mawr sy'n effeithio arnynt drwy ein Panel Staff-Myfyrwyr.
Mae gennym gymuned ymchwil ôl-raddedig sy’n ffynnu, ac rydym yn cynnig rhaglenni PhD a doethuriaeth broffesiynol. Rydym hefyd yn cyflwyno rhaglen broffesiynol mewn gwaith cymdeithasol. Mae ein myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio gydag ysgolheigion o’r radd flaenaf, a dysgu oddi wrthynt.
Rhagorwn mewn ymchwil ryngddisgyblaethol sydd â ffocws clir ar bolisi.