Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Mae astudiaeth newydd gan arbenigwyr tai yn y DU wedi canfod bod landlordiaid yn chwarae rhan sylweddol yng ngallu tenantiaid i deimlo ‘gartref’.

Mae'r adroddiad, a ysgrifennwyd ar y cyd â Dr Jenny Hoolachan o Brifysgol Caerdydd ac a arweinir gan Dr Kim McKee o Brifysgol Stirling, yn cynnwys saith argymhelliad y dylai landlordiaid ac asiantau gosod eu rhoi ar waith i gefnogi eu tenantiaid.

Ariannodd Ymddiriedolaeth Elusennol SafeDeposits Scotland yr ymchwil, sydd hefyd yn cynnwys canllawiau newydd ar gyfer y Sector Rhent Preifat. Mae'n dweud y dylai landlordiaid fuddsoddi yn ansawdd eiddo, gwneud atgyweiriadau yn gyflym ac yn dda, peidio â gwahaniaethu yn erbyn darpar rentwyr sy'n dibynnu ar fudd-daliadau, a bod yn agored i deuluoedd â phlant neu'r rhai ag anifeiliaid anwes.

Dywedodd Dr Jenny Hoolachan, sy’n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Er bod gan yr ymchwil hon ffocws yn yr Alban, mae’r negeseuon allweddol yn berthnasol iawn i’r sector rhentu preifat ledled gwledydd y DU.

“Yn yr hinsawdd sydd ohoni lle rydyn ni i gyd yn cael ein hannog i aros gartref, mae'n hanfodol bod tenantiaid yn gallu teimlo'n ddiogel ac yn gyffyrddus ac mae'r astudiaeth hon yn tynnu sylw at y rôl y mae'n rhaid i landlordiaid preifat ei chwarae wrth gefnogi lles eu tenantiaid."

Dywedodd Dr Kim McKee, Uwch Ddarlithydd mewn Tai a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Stirling: “Mae pandemig COVID-19 wedi dwyn sylw craff i’r angen i bawb gael nid yn unig to dros eu pennau, ond byw mewn eiddo sy’n teimlo’n gyffyrddus ac nad yw'n achosi straen. Ar ôl adolygu’r dystiolaeth ymchwil, gwnaethom ni lunio canllaw yn amlinellu’r saith peth pwysicaf y dylai landlordiaid feddwl amdanynt i helpu tenantiaid i ymgartrefu ac yn eu tro, cefnogi eu lles. ”

Cefnogodd Dr Steve Rolfe y prosiect ymchwil, 'Gwneud Tŷ yn Gartref yn y Sector Rhent Preifat' hefyd, o Brifysgol Stirling a Dr Tom Simcock a Julie Feather o Brifysgol Edge Hill. Adolygodd y tîm werth dau ddegawd o ymchwil yn ystod yr astudiaeth 10 mis.

Mae'r sector rhentu preifat yn yr Alban wedi tyfu'n sylweddol ers Argyfwng Ariannol Byd-eang 2007 ac erbyn hyn mae'n un o bob saith cartref. Mae'r sector hefyd wedi dod yn fwyfwy amrywiol, gyda mwy o aelwydydd incwm isel a theuluoedd â phlant yn rhentu'n breifat, tra bod tenantiaid hefyd yn rhentu'n breifat am gyfnodau hirach.

Dywedodd John Duff, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol SafeDeposits Scotland: “Rydym yn cydnabod pwysigrwydd i bawb fod tenantiaid yn gwneud eu tŷ dewisol yn gartref, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi cefnogi'r gwaith pwysig hwn gan Dr McKee ym Mhrifysgol Stirling a'i chydweithwyr."

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol SafeDeposits Scotland yn elusen rhoi grantiau wedi’u dylunio i hyrwyddo addysg, hyfforddiant ac arferion gorau yn sector rhentu preifat yr Alban - a lansiwyd yn 2016, ac sydd wedi darparu mwy na £640,000 o gyllid tuag at brosiectau yn yr Alban.

Roedd gan weithrediad cyfryngau cymdeithasol soffistigedig sy'n gysylltiedig â Tsieina ran allweddol wrth ledaenu gwybodaeth ffug yn ystod ac ar ôl etholiad yr UD, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.

Mae'r astudiaeth, gan y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch, yn dangos tystiolaeth bod gweithgareddau'r rhwydwaith wedi cyrraedd cynulleidfa eang. Un o’r enghreifftiau mwyaf llwyddiannus oedd fideo feirol sydd bellach wedi’i ddatgelu’n gelwydd, a rannwyd yn ddiweddarach gan Eric Trump, mab cyn-Arlywydd yr UD, Donald Trump. Roedd y fideo yn esgus dangos pleidleisiau'n cael eu llosgi ar ddiwrnod yr etholiad.

Daeth ymchwilwyr o hyd i dystiolaeth hefyd fod yr un rhwydwaith yn lledaenu propaganda gwrth-UDA a wnaeth annog trais cyn ac ar ôl terfysg y Capitol yn Washington ar 6 Ionawr 2021.

Dywedodd yr Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch, sy'n arwain tîm ymchwil Dadansoddi Cyfathrebiadau o Ffynonellau Agored (OSCAR): “Er mai dim ond Twitter all gadarnhau eu cysylltiad, mae ein dadansoddiad drwy ddefnyddio olion ffynhonnell agored yn awgrymu’n gryf bod yna nifer o gysylltiadau â Tsieina. Awgrymodd ein canfyddiadau cychwynnol nad oedd yr ymgyrch yn arbennig o gymhleth, ond gan ein bod wedi archwilio’r rhwydwaith yn fwy manwl, bu’n rhaid i ni newid ein barn gychwynnol yn sylweddol. Roedd y cyfrifon yn ymddangos yn soffistigedig a disgybledig, ac yn ôl pob golwg wedi'u cynllunio i fedru osgoi cael eu canfod gan wrth-fesurau Twitter. Mae o leiaf un enghraifft o'r cyfrifon hyn a helpodd i ledaenu gwybodaeth ffug a gafodd ei gweld dros filiwn o weithiau."

Ar ddiwrnod etholiad yr Unol Daleithiau (03/11/20), gwelwyd bod fideo camarweiniol o ddyn yn ffilmio’i hun yn llosgi pleidleisiau dros Trump ar Draeth Virginia yn cylchredeg ar draws sawl platfform. Yn ddiweddarach, daeth i’r amlwg mai samplau pleidleisio oeddynt, ond aeth y fideo’n wyllt yn gyflym pan rannodd tudalen Twitter swyddogol Eric Trump ddolen ati ddiwrnod yn ddiweddarach. Cafodd y fersiwn benodol hon ei gweld fwy na 1.2 miliwn o weithiau.

I ddechrau, tybiwyd yn eang bod y fideo yn tarddu o gyfrif sy'n gysylltiedig â QAnon, ond mae ymchwiliad gan Brifysgol Caerdydd wedi datgelu tystiolaeth bod dau gyfrif sy'n gysylltiedig â Tsieina, gan gynnwys un sydd wedi'i wahardd gan Twitter ers hynny, wedi rhannu'r fideo cyn hyn. Mae ymchwilwyr yn credu bod hyn wedi arwain at ledaeniad y cynnwys yn eang, sy'n parhau i gael ei rannu hyd heddiw.

Dechreuodd ymchwil gychwynnol OSCAR i'r rhwydwaith hwn saith diwrnod cyn etholiad yr UD. Fel sy’n cael ei nodi yn y cyntaf o ddau adroddiad, datgelodd y tîm fod mwy na 400 o gyfrifon yn gysylltiedig â gweithgareddau amheus. Anfonwyd y rhain ymlaen at Twitter, a oedd yn eu gwahardd o fewn ychydig ddyddiau.

Mae dadansoddiad diweddaraf y tîm yn yr ail adroddiad wedi datgelu nifer o gyfrifon ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith sy'n dal i fod yn weithredol, gan awgrymu ei fod yn fwy cymhleth a gwydn nag a ystyriwyd i ddechrau. Mae eu canfyddiadau yn dangos bod gweithredwyr wedi ymateb yn gyflym i'r digwyddiadau yn y Capitol ar 6 Ionawr trwy gyflwyno ystod newydd o fideos propaganda Saesneg o ansawdd uchel sy'n targedu'r Unol Daleithiau o fewn oriau i'r trais.

Mae tystiolaeth gref eu bod yn gysylltiedig â Tsieina; mae'r fideos yn cynnwys defnydd o Dsieinëeg a ffocws ar bynciau sy'n gweddu i fuddiannau geowleidyddol Tsieina. Mae dadansoddiad mwy diweddar yn dangos bod y cyfrifon yn weithredol yn ystod oriau swyddfa Tsieina yn unig; prin oedd y gweithgarwch yn ystod y gwyliau cenedlaethol yn Tsieina; ac ymddengys fod y defnydd o’r Saesneg wedi deillio o offer cyfieithu peirianyddol.

Dywedodd yr Athro Innes: “Ers hysbysu Twitter am y 400 o gyfrifon a waharddon nhw wedi hynny, mae tystiolaeth eu bod nhw wedi nodi gweithgaredd ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r rhwydwaith, gyda chyfrifon amheus pellach yn cael eu cymryd all-lein. Ond mae yna lawer o gyfrifon gweithredol o hyd sy'n parhau i ledaenu cynnwys a allai fod yn niweidiol - fel y dangosir gan eu hymgysylltiad â'r digwyddiadau treisgar diweddar yn Washington DC.

“Mae patrymau ymddygiad y gweithrediad hwn yn anarferol ac ymddengys eu bod wedi’u cynllunio i geisio osgoi cael eu canfod gan Twitter. Er enghraifft, roedd y signalau cydlynu yn aml yn eithaf cynnil ac yn amlwg roeddent yn osgoi defnyddio hashnodau yn fwriadol.

“Mae hyn yn codi cwestiwn diddorol ynglŷn â sut roedd y gweithredwyr wedi dysgu beth oedd yn debygol neu’n annhebygol o 'ddeffro' algorithmau canfod Twitter. Mae’n bosib eu bod wedi casglu’r wybodaeth hon gyda phrofiad ac wrth ddysgu o weithrediadau gwybodaeth ffug y gorffennol ond mae hefyd yn debygol y gwnaethant gaffael gwybodaeth o ffynonellau eraill. Mae angen ymchwil bellach ar frys.”

Mae'r Sefydliad yn aelod o Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd (SPARK) - casgliad o grwpiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol blaenllaw sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol trwy weithgaredd ymchwil cydweithredol. Bydd wedi'i chydleoli mewn hwb arloesedd newydd, sbarc, yn hwyrach eleni.

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr ryngwladol fawreddog am ei ymchwil gwrth-lygredd.

Cyhoeddwyd mai'r Athro Michael Levi oedd enillydd gwobr Pwyllgor Rheol y Gyfraith / Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau a Throseddau am Ymchwil ac Addysg.

Ers y 1970au, mae'r Athro Levi wedi bod ar flaen y gad o ran datblygiadau academaidd a pholisi mewn llygredd, coler wen a throseddu 'trefnedig' eraill a'r ffyrdd y maent yn rhyngweithio â globaleiddio a gyda'r fframweithiau sy'n dod i'r amlwg o blismona a rheoleiddio trawswladol.

Ymgynghorodd y DU, yr UE a llywodraethau eraill fel Awstralia ag ef yn rheolaidd, i'w cynorthwyo i feddwl am y ffordd orau o reoli eu problemau ariannol a throseddau cyfundrefnol. Ar lefel Ewropeaidd, ef oedd yr unig academydd yn y DU a benodwyd i Grŵp Arbenigwyr yr UE ar Lygredd ac mae wedi bod yn uwch gynghorydd mewn rhwydweithiau i gynghori llywodraethau a sectorau’r UE ar ymdrechion gwrth-lygredd.

Nododd ei lythyr enwebu'r canlynol: “Mewn byd lle mae'n rhaid i gynrychiolwyr rhanddeiliaid prysur ac weithiau dros dro, orfod delio â phroblemau cymhleth o'r newydd, mae ymchwil yr Athro Levi yn cynnig amddiffynfa yn erbyn honiadau sydd wedi cael gormod o sylw ynghylch lefelau niwed ac effeithiolrwydd tebygol ymyriadau. Mae ei waith yn tynnu sylw at yr angen am ddealltwriaeth gyhoeddus fwy cynnil o'r angen am fesurau ataliol a chyfiawnder troseddol wrth fynd i'r afael â niwed llai gweladwy."

Yn ôl yr Athro Levi, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol: “Mae’n anrhydedd aruthrol derbyn y gydnabyddiaeth fyd-eang hon o ansawdd fy ymchwil, a chynhaliais yr holl waith yng Nghaerdydd dros y 45 mlynedd diwethaf.

“Fel troseddau eraill, mae llygredd yn amrywio o ran ei raddau a’i niwed ac yn y ffyrdd rydyn ni’n ymateb tuag ato. Mae llawer, er yn sicr nid pob un, o'r cronfeydd yn canfod eu ffordd i gartrefi drud, delwriaethau ceir a busnesau yn ein gwledydd, gan ddefnyddio ein sefydliadau proffesiynol ac ariannol.

“Rwyf wedi cael y fraint o daflu rhywfaint o olau ymchwil ar y prosesau y mae gwahanol fathau o lygredd a throsglwyddiadau cyfoeth yn digwydd drwyddynt.  Mae fy ngwaith yn awgrymu mai camgymeriad yw dileu 'llygredd' a 'gwrth-lygredd' rhag twyll, troseddau cyfundrefnol a rhoddion gwleidyddol, gan eu bod yn aml yn rhyng-gysylltiedig, er enghraifft drwy gontractau llywodraeth leol a chenedlaethol."

Y llynedd, cafodd yr Athro Levi wobrau oes gan Gymdeithas Troseddeg America, Cymdeithas Troseddeg Prydain a Gwobr Trechu Troseddau Economaidd Oes gyntaf y DU.

Mae Parc Ymchwil y Gwyddor Gymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd yn ymuno ag Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO) gwerth £ 2m i fynd i’r afael ag effeithiau cymdeithasol, economaidd a chyhoeddus COVID-19.

Mae'r prosiect, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn dod ag ymchwil a pholisi ynghyd i liniaru effeithiau'r pandemig a chyflymu adferiad y DU.

Dan arweiniad Coleg Prifysgol Llundain (UCL), mae'r prosiect gwerth £2 filiwn, yn gydweithrediad rhwng UCL, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Queen's Belffast, Prifysgol Auckland a Phrifysgol Rhydychen, ynghyd â melinau trafod gan gynnwys y Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Gwyddoniaeth y Llywodraeth a'r cyhoeddwr newyddion academaidd The Conversation.

Dywedodd Cyfarwyddwr Academaidd SPARK, yr Athro Chris Taylor : “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan fawr o Arsyllfa a fydd yn rhoi mynediad i lunwyr polisïau’r DU at adnoddau, tystiolaeth a dadansoddiad o ymatebion polisi byd-eang i COVID-19, fel y gallant wneud penderfyniadau gwell wrth ddelio ag effeithiau’r pandemig. Bydd yr IPPO yn canolbwyntio ar ystod o feysydd polisi cyhoeddus lle mae gan SPARK arbenigedd ymchwil sy’n arwain y byd, megis addysg, gofal cymdeithasol plant ac oedolion, iechyd meddwl glasoed, paratoi gwybodaeth a broceru anghenion tystiolaeth llunwyr polisïau."

Er mwyn mynd i'r afael â'r anghenion polisi mwyaf brys, bydd yr IPPO yn torfoli cwestiynau a phynciau allweddol gan lunwyr polisïau a'r cyhoedd. Bydd yn creu 'mapiau byw' o dystiolaeth a pholisi i dorri trwy'r nifer fawr o ymatebion ymchwil cymdeithasol a pholisi ar COVID-19 a darparu cronfa ddata ymchwil y gellir ei chwilio.

Dywedodd yr Athro Joanna Chataway o UCL, prif ymchwilydd yr IPPO: “Mae pandemig COVID-19 wedi creu heriau digynsail i lunwyr polisïau. Mae ystod a brys y dystiolaeth sydd eu hangen arnynt yn tyfu'n barhaus, ac os nad yw'n hawdd ei chyrraedd, mae hyn yn creu rhwystr arall wrth ddatblygu'r mesurau sydd eu hangen arnom i helpu cymdeithas trwy effeithiau COVID-19."

Bydd cyfraniad Caerdydd i'r IPPO yn adeiladu ar y dull arloesol o ymgysylltu â Gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a ddatblygwyd yma yng Nghymru gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Dywedodd ei Gyfarwyddwr, Yr Athro Steve Martin: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid yn yr IPPO i helpu i sicrhau bod y fenter newydd bwysig hon yn diwallu anghenion tystiolaeth llunwyr polisïau ym mhob rhan o'r DU.”

Bydd yr IPPO yn adeiladu cysylltiadau parhaol rhwng arbenigwyr polisi ac ymchwil o bob cwr o'r byd ac yn darparu mewnwelediadau hyblyg wedi'u targedu ar y ffordd orau i fynd i'r afael ag ymateb ac adferiad y DU i'r pandemig.

Mae'r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc wedi gostwng am y tro cyntaf yng Nghymru ond mae’r gostyngiad mewn ysmygu ymhlith pobl ifanc wedi arafu, dengys dadansoddiad gan Brifysgol Caerdydd.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ymatebion gan 119,388 o bobl ifanc 11-16 oed a gymerodd ran yn arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2019 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN), sef un o’r arolygon iechyd ieuenctid mwyaf o’i fath yn y DU. Mae'n dangos bod 22% wedi rhoi cynnig ar e-sigarét, i lawr o 25% yn 2017. Hefyd, bu gostyngiad o 3.3% i 2.5% yn y defnydd presennol o e-sigaréts (wythnosol neu fwy) dros y cyfnod hwn.

Mae arbrofi gyda tharthu (‘vaping’) (22%) - a ddiffinnir fel bod wedi rhoi cynnig ar e-sigarét - yn dal yn fwy poblogaidd na rhoi cynnig ar dybaco (11%), yn ôl y data. Ond mae'r gostyngiad hirdymor ymhlith y rhai sy'n ysmygu'n rheolaidd wedi arafu, gyda 4% o'r rhai a arolygwyd eu bod yn ysmygu o leiaf unwaith yr wythnos yn 2019, yr un lefel ag yn 2013.

Dywedodd Dr Nicholas Page, o’r Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): "Mae monitro ymddygiadau ac agweddau pobl ifanc tuag at ysmygu a defnyddio e-sigaréts yn hanfodol er mwyn datblygu polisi iechyd cyhoeddus effeithiol yng Nghymru. Mae canfyddiadau ein harolwg diweddaraf yn awgrymu bod arbrofi ag e-sigaréts wedi gostwng am y tro cyntaf ers dechrau mesur yn 2013, ond mae'n parhau'n fwy nag arbrofi â thybaco. Mae ein data hefyd yn awgrymu bod defnydd rheolaidd o e-sigaréts yn dal yn brin ymhlith pobl ifanc yng Nghymru a'i fod wedi'i ganoli'n bennaf ymhlith ysmygwyr."

"Er bod ein canfyddiadau'n dangos gostyngiad bach mewn arbrofi ag ysmygu ymhlith pobl ifanc ers 2017, mae canran yr ysmygwyr rheolaidd heb newid ers 2013. Fel y gwelsom ni mewn blynyddoedd blaenorol, cynyddodd nifer y bobl ifanc sy'n defnyddio tybaco gydag oedran ac roeddent yn uwch ymhlith pobl ifanc o deuluoedd llai cefnog - gan ddangos yr anghydraddoldebau sylweddol o ran ysmygu."

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod canfyddiadau pobl ifanc o niwed ysmygu a defnyddio e-sigaréts wedi newid ers 2017. Mae canran uwch bellach yn credu bod y ddau sylwedd yr un mor niweidiol i iechyd, tra bod llai bellach yn credu bod ysmygu'n waeth na tharthu.

O'r newid mewn agweddau, dywedodd Dr Page: "Mae'n bwysig rhoi'r newid hwn yng nghyd-destun pryd y casglwyd ein data. Cynhaliwyd yr arolwg ar adeg pan oedd yr achosion o anaf ysgyfaint yn gysylltiedig â tharthu (EVALI) yn yr Unol Daleithiau yn cael sylw byd-eang yn y cyfryngau. Er nad ydym yn gwybod a gafodd hyn effaith, mae EVALI wedi bod yn gysylltiedig â newid tebyg mewn canfyddiadau o niwed ymhlith oedolion sy'n ysmygu yn Lloegr. Amser a ddengys a fydd hyn yn parhau i fod yn wir mewn arolygon yn y dyfodol."

Girl smoking cigarette stock image

Er gwaethaf gostyngiad mawr yn nifer yr achosion o ysmygu yn ystod y degawdau diwethaf, mae tybaco'n parhau i fod yn un o brif achosion marwolaeth ac anabledd.

Ers iddynt ymddangos ym marchnadoedd y DU dros y degawd diwethaf, cydnabuwyd fwyfwy bod gan e-sigaréts ran i'w chwarae o ran helpu ysmygwyr i roi'r gorau iddi. Fodd bynnag, bu cryn ddadlau ar eu defnydd gan bobl ifanc achos gallai tarthu fod yn borth tuag at ysmygu. Cyflwynwyd rheoliadau ar gyfer e-sigaréts megis cyfyngiadau oedran gwerthu a chyfyngiadau ar farchnata a labelu cynnyrch yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr yn arolwg bob dwy flynedd ar sampl craidd o bobl ifanc 11-16 oed sy'n mynd i ysgolion sy'n cymryd rhan yng Nghymru. Yn 2019, cymerodd disgyblion o 198 o ysgolion ran.

Sefydlwyd SHRN yn 2013 ac fe'i harweinir gan DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Canser y DU a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) hefyd yn bartneriaid.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu ASH Wales: “Gyda’r defnydd o e-sigaretau’n cwympo ymhlith pobl ifanc, mae’r dystiolaeth hon yn dangos nad yw tarthu/vaping yn destun pryder i iechyd cyhoeddus. Dylid canolbwyntio’n gadarn ar fynd i’r afael â’r lefelau annerbyniol o ysmygu ymhlith pobl ifanc, sydd heb newid dros saith mlynedd er gwaethaf ein holl ymdrechion.

“Yn anffodus, mae ysmygu yn gaethiwed gydol oes sy’n dechrau mewn plentyndod yn aml ac rydym yn gwybod o’n hymchwil ein hunain bod 81% o ysmygwyr sy’n oedolion yn 18 oed neu’n iau pan gawson nhw eu sigarét gyntaf.

“Mae’r astudiaeth hon hefyd yn dangos bod y defnydd o tybaco ar ei uchaf ymhlith y bobl ifanc sy’n dod o’r teuluoedd tlotaf - patrwm sydd wedi’i adlewyrchu yn y gyfradd o oedolion sy’n ysmygu ac yn arwain at anghydraddoldebau iechyd trawiadol ar draws y wlad.”

Gallai cynllun arloesol a dreialwyd gan Barnado's Cymru fod yn sail i well cymorth i blant y mae trawma wedi effeithio arnynt, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.

Roedd prosiect Gwella yn beilot ar gyfer dull Gwella. Cynllun ymyrryd oedd hwn a gafodd ei ddatblygu a’i gynnal gan Barnardo’s Cymru ar draws gogledd a de Cymru. Roedd Gwella yn brosiect ymchwil ac ymarfer pedair blynedd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, a weithredir mewn partneriaeth rhwng Barnardo's Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Prif nod Gwella oedd lleihau'r perygl sy’n wynebu plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed ac sy'n dioddef achosion o gamfanteisio’n rhywiol ar blant (CRhB) neu Ymddygiad Rhywiol Niweidiol (HSB), drwy ddatblygu model ataliol ar gyfer ei ddefnyddio mewn gofal cymdeithasol.

Gan weithio gyda 31 o deuluoedd dros ddwy flynedd, defnyddiodd ymarferwyr Gwella weithgareddau sy'n seiliedig ar chwarae er mwyn helpu i ddatblygu perthynas gryfach rhwng plant a'u rhieni neu ofalwyr a gwella eu lles.

Roedd y rhieni a’r gofalwyr sy’n perthyn a fu’n rhan o’r gwerthusiad hwn yn unfrydol yn eu canmoliaeth o’r prosiect a’r newidiadau oedd wedi digwydd o ganlyniad i hyn.

Dywedodd pymtheg o'r unigolion a gyfwelwyd eu bod wedi meithrin cysylltiad gyda’u plant, eu bod yn teimlo’n fwy hyderus yn eu gallu i fagu plant, ac yn deall sut i chwarae a bodloni anghenion eu plant. I dri rhiant, roedd hyn yn arwyddocaol gan fod eu plant wedi'u symud o fod o dan eu gofal yn y gorffennol. O ganlyniad, roedd ganddynt lefelau uchel o bryder a diffyg ymddiriedaeth yn eu gallu i fagu plant.

Ymatebodd y plant a oedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil yn gadarnhaol hefyd i brosiect Gwella. Siaradodd y rhan fwyaf am yr holl gemau a gweithgareddau y gwnaethon nhw eu mwynhau, ac am weld eisiau eu gweithiwr unwaith i'r sesiynau orffen. Dywedodd saith o'r plant fod eu hymarferydd wedi eu helpu i deimlo'n dawelach eu meddwl ac yn llai pryderus. Hefyd, nododd y rhieni welliannau sylweddol yn lles ac ymddygiad eu plant.

Dywedodd Dr Sophie Hallett, sy’n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae ein gwerthusiad o brosiect Gwella yn dangos gwerth y math hwn o waith sy'n canolbwyntio ar deuluoedd ac sy'n seiliedig ar y berthynas. Mae rhoi cyfle i blant a rhieni neu ofalwyr fynegi eu pryderon neu eu gofidiau, tra'n magu hyder yn eu galluoedd a chael cymorth i ddelio â heriau, yn allweddol i wella eu lles."

Bydd ymchwil academaidd Dr Hallett a'i gwerthusiad o fodel peilot Gwella yn cael ei ddefnyddio bellach i greu canllawiau ymarfer ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol.

Dywedodd Pat Duke, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Barnardo's Cymru: "Rydym wrth ein bodd gyda chanfyddiadau'r gwerthusiad, yn enwedig y dystiolaeth o well cyfleoedd mewn bywyd i blant.

"Mae Barnardo's wedi bod yn ymwybodol ers tro byd o ba mor gyffredin yw achosion o gam-drin a thrawma na aethpwyd i’r afael â nhw yn hanes plentyndod cynnar y plant yn eu harddegau a'r oedolion ifanc yr ydym yn eu cefnogi.

"Rydym yn gobeithio y bydd ymyrraeth gynnar a ysbrydolwyd gan ddull gweithredu Gwella yn atal plant rhag cael eu cam-drin ymhellach neu gymryd rhan mewn ymddygiad peryglus yn y dyfodol."

Mae cyfrol newydd sy'n edrych ar effaith pandemig Covid-19 ar fudo, anghydraddoldeb a thlodi wedi'i chydlynu a'i chyhoeddi gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Talaith Campinas (UNICAMP), Brasil, a Dr Shailen Nandy o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae Mudo Rhyngwladol a phandemig Covid-19, sydd wedi'i chyhoeddi ar-lein am ddim ac sy'n cynnwys gwaith dros 100 o ymchwilwyr, yn dadansoddi effaith y pandemig yn America Ladin, a'i ddynameg gyda mudo a thlodi.

Gan drafod ei gyfraniad, esbonia Dr Nandy, "Mae tlodi yn un o'r ffactorau sy'n ysgogi mudo. Mae anghydraddoldeb economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol cynyddol yn bwydo ansefydlogrwydd mewn llawer o wledydd, ac mae'n naturiol fod pobl am symud i amgylcheddau diogel lle gallant fyw a gweithio mewn heddwch.

"Mae pardduo mudwyr a ffoaduriaid gan wleidyddion a'r wasg fel y gwelir yn fynych yn y DU bellach yn digwydd mewn gwledydd fel Brasil gyda gwleidyddion poblyddol yn aml yn cysylltu poblogaethau mudol gyda phroblemau fel troseddu, trais a gorddefnydd o'r gwasanaethau cyhoeddus.

"Ond mae ymchwil yn dangos bod mudwyr yn gyfranwyr net i gymdeithasau gan eu bod yn tueddu i fod yn iau, yn fwy tebygol o weithio a thalu trethi ac yn llai dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus.

"Mae pandemig Covid-19 wedi dangos pa mor ddibynnol yw Prydain ar weithwyr mudol, sydd ar y llinell flaen naill ai fel gweithwyr iechyd neu mewn gwasanaethau eraill fel trafnidiaeth gyhoeddus."

Ers mis Mehefin 2018 mae Dr Nandy wedi bod yn hyfforddi ymchwilwyr yn Brasil ac yn cynnal ymchwil ar themâu tlodi gyda mudo ac anghydraddoldeb. Caiff yr ymchwiliadau hyn eu cynnal mewn cydweithrediad â'r Athro Ana Assis, yr Athro Rosana Baeninger a'r Athro Luís Vedovato yn UNICAMP.

Dywedodd yr Athro Vedovato: "Mae'r gyfrol yn ganlyniad pwysig i'r cydweithio strategol rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNICAMP, a gyflawnwyd dan arweiniad yr Athro Munir Skaf.

"Drwy gyhoeddi'r gyfrol am ddim ein gobaith yw gwneud cyfraniad at wynebu'r pandemig sydd, yn Brasil, yn achosi i dlodi ac anghydraddoldeb dyfu ymhlith mudwyr a dinasyddion."

Mae'r gyfrol yn deillio o bartneriaeth rhwng ymchwilwyr yn UNICAMP, Prifysgol Caerdydd, Cronfa Boblogaeth y Cenhedloedd Unedig, Gweinyddiaeth Lafur Gyhoeddus Brasil, Cenhadaeth Paz ac Amgueddfa Mewnfudo Talaith São Paulo.

Cyhoeddir y gyfrol mewn Portiwgaleg ac mae ar gael ar-lein.

Hoffai naw o bob deg gweithiwr sydd wedi gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo barhau i wneud hynny i ryw raddau, mae ymchwil yn awgrymu.

Mae'r adroddiad, gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Southampton, yn cyflwyno'r dadansoddiad cyntaf o ddata arolwg gweithwyr sy'n canolbwyntio ar weithio gartref, a gasglwyd ar gyfer Understanding Society Covid-19 Study.

Mae gweithio gartref wedi cynyddu ers dechrau’r cyfnod clo - gan godi o 6% o weithwyr cyn y pandemig i 43% ym mis Ebrill eleni. Mae'r canlyniadau hefyd yn dangos bod cynhyrchiant ymhlith mwyafrif y rhai a oedd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo wedi aros yn sefydlog neu hyd yn oed wedi gwella, o'i gymharu â chwe mis ynghynt.

Dywedodd yr Athro Alan Felstead, o Brifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD): “Am nifer o flynyddoedd, mae gweithio gartref wedi cynyddu’n araf, ond ers dechrau’r pandemig, mae bellach yn beth cyffredin. Mae ein dadansoddiad yn awgrymu y bydd newid mawr yn y gweithle traddodiadol, hyd yn oed pan nad yw cadw pellter cymdeithasol yn ofyniad mwyach.”

Mae canfyddiadau'r adroddiad yn seiliedig ar dri arolwg ar-lein o weithwyr a gynhaliwyd ddiwedd Ebrill, Mai a Mehefin 2020.  Roedd pob arolwg yn holi sampl gynrychioliadol o 6,000-7,000 o weithwyr a oedd wedi gweithio o leiaf awr yn yr wythnos cyn y cyfweliad ac wedi cyflwyno gwybodaeth ar ble roeddent yn gweithio cyn ac yn ystod y cyfnod clo.

Mae canlyniadau arolwg Mehefin 2020 yn awgrymu yr hoffai 88% o weithwyr a oedd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo barhau i weithio gartref i ryw raddau, gyda thua un o bob dau (47%) o weithwyr eisiau gweithio gartref yn aml neu trwy’r amser.

Dywedodd dau o bob pump (41%) o'r rhai a holwyd eu bod yn gallu gwneud cymaint o waith wrth weithio gartref ym mis Mehefin 2020 o'i gymharu â chwe mis ynghynt pan oedd y mwyafrif, ond nid pob un ohonynt, yn gweithio y tu allan i'r cartref.  Dywedodd mwy na chwarter (29%) eu bod yn cyflawni mwy gartref, ond dywedodd 30% fod eu cynhyrchiant wedi gostwng.

Mae'r effaith ar gynhyrchiant yn amrywio yn ôl pa mor aml roedd gweithwyr yn gweithio gartref.  Nododd y rhai a oedd yn gweithio gartref weithiau neu yn aml eu bod yn cynhyrchu llai pan wnaethant hynny, tra bod gweithwyr oedd yn gweithio gartref trwy’r amser wedi nodi cynnydd mewn cynhyrchiant.  O'r gweithwyr hynny a nododd fod eu cynhyrchiant wedi gostwng, dywedodd tri allan o ddeg ohonynt (29%) fod ganddynt lai o waith i'w wneud a dywedodd tua chyfran debyg (27%) fod eu hallbwn yr awr wedi'i gyfyngu gan yr angen i roi gofal i aelodau'r teulu a/neu addysgu’r plant yn y cartref.

Mae data'r arolwg hefyd yn awgrymu bod gweithio gartref yn y dyfodol yn debygol o hybu yn hytrach na lleihau cynhyrchiant; roedd gweithwyr a oedd yn teimlo'n fwy cynhyrchiol wrth weithio gartref yn ystod y cyfnod clo ymhlith y rhai mwyaf brwd i weithio gartref pan nad yw rheolau cadw pellter cymdeithasol yn berthnasol mwyach. Mae’r ‘effaith ddethol’ hon yn debygol o fod yn fanteisiol i gyflogwyr sy’n awyddus i oresgyn heriau effaith Covid-19.

Ychwanegodd yr Athro Felstead: “Yr hyn sy'n arbennig o drawiadol yw yr hoffai llawer o'r rhai sydd wedi gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo barhau i weithio fel hyn, hyd yn oed pan nad yw rheolau cadw pellhau cymdeithasol yn ofynnol iddynt mwyach. Mae'r bobl hyn ymhlith y rhai mwyaf cynhyrchiol, felly nid yw eu hatal rhag dewis sut maen nhw'n gweithio yn y dyfodol yn gwneud synnwyr economaidd. Gallai rhoi hyblygrwydd i weithwyr o ran ble maent yn gweithio fod yn hynod fuddiol i gwmnïau wrth iddynt geisio adfer ar ôl Covid-19.”

Dywedodd Dr Darja Reuschke, o Brifysgol Southampton, cyd-awdur yr adroddiad: “Mae strydoedd siopa canol y ddinas wedi cael eu heffeithio’n fawr gan y pandemig ac maent yn debygol o aros yn dawel am gryn amser wrth i lai o bobl ddychwelyd i weithleoedd traddodiadol. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i ni ailgynllunio canol ein dinasoedd fel lleoedd aml-ddefnydd sy'n darparu ar gyfer gwahanol fathau o ddefnyddiau economaidd ac nad ydynt wedi'u hadeiladu o amgylch ffyrdd cyflym sy'n cysylltu gweithleoedd â phreswylfeydd."

Mae’r adroddiad, Homeworking in the UK: Before and during the 2020 lockdown, ar gael yma.

Yn ôl tîm o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd mae gan blant yng Nghymru rai o'r lefelau isaf o les ymysg plant ar draws 35 o wledydd.

Gwnaeth y tîm, o Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd (WISERD), arolygu mwy na 2,600 o blant ledled Cymru ynghylch eu hapusrwydd, eu boddhad a’u lles seicolegol eu hunain, yn ogystal â faint maent yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u cynnwys mewn prosesau penderfynu.

Dangosodd yr arolwg fod gan blant hŷn lefelau is o les na phlant iau, gyda phlant hŷn yn dweud eu bod wedi teimlo'n drist, dan straen ac yn ddiflas yn ystod y pythefnos diwethaf, ac mai ysgol yw'r lle y mae plant yn teimlo'r boddhad lleiaf.

Yng Nghymru, gwelwyd bod lles is ymysg bechgyn.

Roedd yr arolwg yn rhan o brosiect ehangach Bydoedd Plant – sef astudiaeth ryngwladol o les plant a arolygodd 128,000 o blant ar draws 35 o wledydd rhwng 2016 a 2019.

Hwn yw'r tro cyntaf y mae Cymru wedi bod yn rhan o'r prosiect Bydoedd Plant ers iddo gychwyn yn 2009.

Mae lles plant yn y DU wedi bod yn dirywio ers 2009 a gallai fod wedi dirywio hyd yn oed yn gynt yn ddiweddar, o ystyried pandemig presennol y Coronafeirws.

Cynhaliwyd yr arolwg gan dîm WISERD yn ystod tymor haf 2018 ac roedd yn cynnwys mwy na 2,600 o blant o Flwyddyn 6 a Blwyddyn 8.

Gofynnwyd cwestiynau tebyg i'r ddau grŵp oedran, er mwyn cymharu eu hatebion. Gwelwyd bod y plant hŷn yn nodi lefelau is o les ar y cyfan, o gymharu â'r plant iau.

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch boddhad a lles mewn perthynas â bywyd cartref a theulu, ffrindiau, yr ysgol a ble roeddent yn byw. Er bod llawer o blant yn hapus ac yn fodlon ar agweddau amrywiol ar eu bywydau, mae gwahaniaeth amlwg rhwng plant mewn gwahanol wledydd. Yr hyn sy'n peri pryder yw'r lefelau isel o les a nodwyd gan blant yng Nghymru, o gymharu â phlant mewn gwledydd eraill yn yr astudiaeth.

Er bod rhai o'r gwahaniaethau mewn atebion rhwng y gwledydd yn ymwneud yn rhannol â'r ffordd y mae'r plant o'r gwledydd hynny'n ymateb, mae'r lefelau isel a welir yng Nghymru yn arwyddocaol.

Yn arbennig o drawiadol yw'r lefelau cymharol isel o les seicolegol a welir ymysg plant 12 oed. Roedd y dulliau o fesur lles seicolegol yn cynnwys gofyn i blant am eu cyfrifoldebau a'u defnydd o amser, cyfeillgarwch pobl eraill, eu gwaith dysgu ac a ydynt yn teimlo'n gadarnhaol am y dyfodol.

Er i blant Cymru gofnodi'r sgorau isaf ar bob un o'r mesurau unigol hyn, gwelwyd mai dim ond 6.3% oedd â lefelau isel cyson o ran lles seicolegol.

Hefyd, roedd lefelau cymharol isel o les ar gyfer plant yng Nghymru yn fwy amlwg o ran eu bywyd ysgol.  Yn yr ysgol uwchradd, gwelir lefelau gymharol isel o les o ran y perthnasoedd ag athrawon, cyd-ddisgyblion a phlant eraill yn eu hysgol, yr hyn yr oeddent yn ei ddysgu a'u bywydau cyffredinol fel disgyblion.

Mae WISERD yn cynnal gwaith pellach yn y maes hwn er mwyn deall y ffactorau sy'n helpu i esbonio'r anfodlonrwydd cymharol hwn yn well.

Mae'r canfyddiadau cychwynnol hyn o'r astudiaeth ryngwladol yn codi nifer o gwestiynau ynghylch y lefelau amrywiol o les a brofir mewn meysydd gwahanol o fywydau plant yng Nghymru.

Dywedodd cynorthwyydd ymchwil WISERD, Dr Jennifer May Hampton: “Wrth i ni ddod yn fwy ymwybodol o'r pwysau a roddir ar ein plant a phobl ifanc, mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar yr effaith y mae'r rhain yn ei chael ar eu hapusrwydd a'u lles. Drwy ofyn i blant yn uniongyrchol, rydym wedi cael darlun manwl o fywydau a phrofiadau plant yng Nghymru.

Mae'r adroddiad rhyngwladol llawn sy'n cynnwys atebion gan ychydig yn fwy na 128,000 o blant mewn 35 o wledydd bellach ar gael. Bydd tîm WISERD yn archwilio'r amrywiadau a welwyd rhwng Cymru a'r gwledydd eraill sy'n rhan o'r astudiaeth – ewch i'w wefan i gael y blogiau diweddaraf.

Bydoedd Plant yw’r astudiaeth fwyaf o'i math, wedi ei chyllido gan Sefydliad Jacobs, a chaiff ei chefnogi gan nifer o bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru.

Dywedodd arbenigwr o Brifysgol Caerdydd ym maes addysg y bydd angen i les pobl ifanc fod yn ffocws allweddol ar gyfer athrawon yn dilyn Covid-19.

Mae ymchwil yr Athro EJ Renold yn canolbwyntio ar sut mae plant yn dysgu am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys teimladau ac emosiynau, cyfeillgarwch a chydberthnasau, ynghyd â rhywedd a rhywioldeb. Mae wedi llywio gweledigaeth y cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) newydd yng Nghymru, rhan statudol o gwricwlwm newydd Cymru o 2022 ymlaen.

Heddiw, mae'r Athro Renold yn lansio CRUSH, adnodd dysgu proffesiynol i athrawon er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer y cwricwlwm ACRh newydd. Yn ogystal, ers cyfnod clo Covid-19, mae'r Athro Renold wedi dyfeisio gweithgareddau gweithdy creadigol ar gyfer athrawon sydd wedi'u hanelu'n benodol at fynd i'r afael ag effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar ddisgyblion.

CRUSH image

Dywedodd yr Athro Renold, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae’r cyfnod clo wedi arwain at effeithiau enfawr ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol bod athrawon yn cael eu cefnogi ag adnoddau a thechnegau sy'n eu galluogi i wrando ar bobl ifanc ynglŷn â sut maent yn teimlo a pha gymorth allai fod ei angen arnynt, wth iddynt lywio eu ffordd drwy'r cyfnod anodd iawn hwn, yn ogystal â'r blynyddoedd sydd i ddod."

CRUSH: Mae Transforming RSE yn adnodd i ymarferwyr sy'n seiliedig ar AGENDA: cefnogi plant a phobl ifanc i wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri. Mae'r adnodd yn defnyddio canfyddiadau rhaglen dysgu proffesiynol arloesol ac mae'n darparu enghreifftiau o arferion gorau i athrawon, gan gynnwys archwiliad creadigol a ddyluniwyd i gynnig gwahanol ffyrdd o wrando ar bobl ifanc am yr hyn sy'n bwysig iddynt, rhestr o dermau a gwybodaeth gefndirol allweddol er mwyn rhoi cyd-destun i'r newidiadau a wnaed i ddarpariaeth ACRh Cymru.

Mae ffilm i gyd-fynd â CRUSH, sef Making Space: Transforming RSE in Wales sy'n dangos sut mae 'archwiliad creadigol' yn edrych mewn gwirionedd.

Mae AGENDA during Covid yn gyfres ar wahân i'r gweithgareddau creadigol y gellir eu defnyddio fel pwynt dechrau ar gyfer athrawon a phobl ifanc gan drafod materion a theimladau sydd wedi dod i'r amlwg ers y cyfnod clo. Mae'r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) eisoes wedi argymell AGENDA fel adnodd i gefnogi anghenion cymdeithasol ac emosiynol myfyrwyr yn ystod Covid-19.

Crush second image

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Mae plant a phobl ifanc yn cadw dweud wrtha i eu bod am gael Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb [ACRh] sydd o ansawdd uchel ac sy'n wybodus. Mae adnodd CRUSH yr Athro Renold yn cefnogi athrawon i ddatblygu ACRh mewn ffordd berthnasol a chreadigol a arweinir gan ymchwil ac sy'n canolbwyntio ar blant.

“Mae CRUSH yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i alluogi plant a phobl ifanc i ddeall emosiynau, cyfeillgarwch, cydberthnasau a rhywioldeb. Mae angen i blant gael y cyfleoedd hyn er mwyn profi eu hawliau dynol.  Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael gwybodaeth gywir, i gael eu diogelu a'u hamddiffyn rhag niwed, i beidio â chael eu gwahaniaethu, i addysg holistaidd, ac i gyfranogiad gweithredol mewn trafodaethau sy'n effeithio ar eu bywydau.

"Rwyf hefyd yn falch bod adnodd addysgu ar wahân, AGENDA during Covid, wedi cael ei ddatblygu ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn iddynt drafod sut mae pandemig Covid-19 wedi effeithio arnynt. Fel rhan o fy arolwg Coronafeirws a Fi clywais gan bron i 24,000 o blant a phobl ifanc a thra bod rhai wedi ffynnu yn ystod y cyfnod clo, mae emosiynau ac iechyd meddwl rhai wedi dioddef o ganlyniad i fod wedi'u hynysu o'u teuluoedd a'u ffrindiau."

Dywedodd Ros McNeil, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb Addysg Cenedlaethol: “Mae'n rhaid i gefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion fod yn flaenoriaeth ar gyfer pob ysgol bellach ac yn hir ar ôl i'r cyfnod clo ddod i ben.  Mae'r adnoddau AGENDA during Covid-19 yn amserol ac yn bwysig er mwyn helpu i ysgolion ganolbwyntio ar lais disgyblion ac ymateb i'r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei deimlo a'i brofi yn ystod y cyfnod hwn.  Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda'r Athro Renold i gyflwyno hyfforddiant i'n haelodau ar AGENDA a chefnogi arferion gorau o ran ACRh."

Dywedodd Kelly Harris o Brook Cymru: “Mae'n wych gweld sut mae'r adnodd pwysig, AGENDA, wedi datblygu a sut mae wedi creu gwaddol newydd yn adnodd newydd a chyffrous CRUSH. Mae CRUSH yn adnodd amserol a phwysig ar gyfer gweithwyr proffesiynol wrth iddynt ddechrau mynd i'r afael â thirwedd gyfnewidiol ACRh yng Nghymru wrth iddo ddarparu gwybodaeth, canllawiau a gweithgareddau er mwyn helpu i gefnogi datblygiad proffesiynol, ond nid yw byth yn colli lleisiau plant na phobl ifanc."

https://youtu.be/zHkGlvm8Osw

Mae’r Athro Renold am ddiolch i Gonsortia Canolbarth y De, Prifysgol Caerdydd a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol am ran-ariannu adnodd CRUSH.