Ewch i’r prif gynnwys

Llunio Lles – partneriaeth iechyd ac iacháu

6 Rhagfyr 2022

Two men working together to build a wooden stool

Mae partneriaeth sy'n hyrwyddo crefftau llaw gwyrdd i wella lles pobl sy'n byw gydag anawsterau iechyd meddwl wedi cael ei sefydlu gan Ymddiriedolaeth Fathom a Phrifysgol Caerdydd.

Cafodd prosiect 'Llunio Lles (Making Well): Iechyd ac Iacháu drwy Grefftau Gwyrdd' ei ariannu gan raglen arloesi Accelerate Cymru a chafodd llwyddiant y prosiect ei ddathlu’n ddiweddar mewn cyfarfod ym maenordy Penpont ger Aberhonddu.

Yn sgîl gwaith ar y cyd rhwng academwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor yn ystod y 18 mis diwethaf, aeth sylfaenydd Ymddiriedolaeth Fathom, Dr Will Beharrell, ati i greu rhaglen ar y cyd o weithgareddau crefftau naturiol, a hynny mewn cyd-destun sy’n hybu’r broses o fyfyrio.

Dan arweiniad crefftwyr lleol, nod cwrs wyth wythnos Llunio Lles yw hyrwyddo’r broses o adfer iechyd meddwl, gwydnwch emosiynol a gwell lles.

Roedd y sawl a gymerodd rhan wedi gwneud hyn drwy raglen 'Presgripsiynu Gwyrdd' meddygon teulu lleol, timau iechyd meddwl cymunedol a'r elusen Mind. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod pobl yn elwa o Bresgripsiynu Cymdeithasol a Gwyrdd, a’u bod yn ymgymryd â gweithgareddau therapiwtig megis naddu coed, gwehyddu basgedi, garddio, adfer cynefinoedd a waliau cerrig sych.

Ymchwiliodd economegwyr iechyd yng Nghanolfan Gwerth Cymdeithasol Prifysgol Bangor sy'n gweithio ar brosiect Accelerate i'r manteision cymdeithasol yn sgîl buddsoddi ym mhrosiect Llunio Lles. Ar yr un pryd, cynhaliodd Dr Lucy Sheehan, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, astudiaeth ethnograffig ategol o'r rhaglen, ac arweiniodd hyn at greu Canllaw Arferion Da.

https://youtu.be/hi-eZz1ASdE

Daeth prosiect Llunio Lles i ben pan drefnwyd digwyddiad dan ofal Ymddiriedolaeth Fathom. Yn y cyfarfod, cyflwynwyd y canfyddiadau a chafwyd ffilm fer am fanteision niferus crefftio gwyrdd. Astudiodd grwpiau ffocws y cyfleoedd a’r heriau yn sgîl Presgripsiynu Gwyrdd, gan ystyried cyfeiriadau therapïau lles meddwl anfeddygol tebyg yn y dyfodol.

Roedd tua 50 o bobl yn bresennol, gan gynnwys rhai o'r bobl a gymerodd ran ym mhrosiect Llunio Lles, uwch-weithwyr iechyd proffesiynol, arbenigwyr presgripsiynu cymdeithasol, crefftwyr, ac academwyr.

Dyma oedd barn un o'r bobl a gymerodd ran: “Rwy’n canmol i’r entrychion y profiad cadarnhaol a gefais i wrth gymryd rhan ym mhrosiect Fathom y llynedd. Oherwydd y gweithgareddau, roeddwn i’n gallu cymryd rhan mewn sgyrsiau. Heb bwysau arna i i ymuno na disgwyliad i gyflawni’r un dim, daeth fy hyder yn ei ôl o dipyn i beth. Roedd y cymorth a ges i gan Fathom yn hollbwysig o ran adfer ac oherwydd hynny roedd gen i’r egni i ddychwelyd i'r gwaith. Diolch yn fawr, Fathom!”

Dyma a ddywedodd yr Athro Phil Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Roeddwn i’n falch iawn o ymuno ag Ymddiriedolaeth Fathom ar gyfer digwyddiad 'fathom' cyntaf a oedd yn ymwneud â phresgripsiynu cymdeithasol gwyrdd.  Ces i’r cyfle i gwrdd â phob math o bobl wych â safbwyntiau a sgiliau sy’n wahanol iawn i fy rhai innau, ac oherwydd hynny cefais i fy atgoffa bod llawer o ddimensiynau’n perthyn i iechyd ac mae angen llawer o fathau gwahanol o sylw ar ei gyfer. Gan fy mod i’n feddyg, yn gyfarwyddwr meddygol ac yn ddirprwy brif weithredwr yn y GIG, peth cyffrous yw gweld y ddealltwriaeth hollbwysig hon wrth wraidd gwaith Fathom ac wrth ganol ein tasg gyffredin, sef creu iechyd a lles ac atal salwch rhag datblygu.”

Roedd Ymddiriedolaeth Fathom yn ffodus o gael cefnogaeth Accelerate i werthuso ei rhaglen presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd, gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd. Oherwydd hyn, cawson ni asesiad cyfannol a thrylwyr o'n gwaith, a bydd yr asesiad bellach yn rhan bwysig o helpu Ymddiriedolaeth Fathom i ddatblygu’n fenter sy'n gynaliadwy yn ariannol.

Dr Will Beharell

Mae Ymddiriedolaeth Fathom yn cydnabod bod buddsoddiad Accelerate eisoes wedi dechrau talu ar ei ganfed, gan nodi y bydd buddsoddiad gwerth £50,000 dros gyfnod o dair blynedd yn creu elw cymdeithasol o rhwng £2m-£3m gan fod o fudd uniongyrchol i gymuned o 3,000 o bobl sy’n cymryd rhan.

Dyma oedd disgrifiad un o greffwyr helyg Fathom o ddigwyddiad 'fathoming'.

“Roedd siarad â phobl o bob math o gyd-destunau iechyd gwahanol yn grymuso dyn. Oherwydd Ymddiriedolaeth Fathom, roeddwn i’n gallu dod i gysylltiad â chynifer o bobl o'r un anian, ac mae llawer o’r rhain hefyd wrthi’n gweithio eu ffordd drwy eu hamgylchiadau personol eu hunain. Roedd bod yno yn peri imi deimlo'n falch iawn o fod yn rhan o rywbeth arbennig sydd â’i wreiddiau'n ddwfn.”

Gweledigaeth hirdymor Fathom yw datblygu canolfan gofal iechyd a bugeiliol cyfannol. Bydd ymchwil Caerdydd yn helpu i fireinio rhaglenni newydd ar y cyd â phartneriaid ar draws y gymuned.

I gael rhagor o astudiaethau achos a gweld ffilmiau Ymddiriedolaeth Fathom, ewch i: https://fathomtrust.com/stories/

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.