Ewch i’r prif gynnwys

"Rhoddodd fy mlwyddyn ar leoliad gychwyn delfrydol i fy ngyrfa."

16 Ionawr 2023

A person smiling while leaning on a wall with trees in the background

Yn ei thrydedd flwyddyn, aeth Amy Reed, myfyrwraig Troseddeg a Chymdeithaseg (BSc) ar leoliad yng Ngharchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel gweithiwr cymorth i deuluoedd.

Ysgrifennodd Amy flog yn sôn am ei phrofiad:

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, ymwelodd Invisible Walls Wales (IWW) â’r brifysgol am sgwrs i annog myfyrwyr i gael profiad gwaith mewn carchar.

Roedd hyn o ddiddordeb mawr i mi, felly es i ar leoliad gwaith am tua 10 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, fe sylweddolodd fy nghyflogwyr a minnau y byddai’n gyfle gwych i’w ymestyn i flwyddyn lawn, felly fe gysyllton nhw ag Andy Dodge (Cyflogadwyedd a Rheolwr Lleoliadau Gwaith) a aeth ati i ddatrys y cyfan i ni.

Fy mhrif rôl oedd rhoi cyngor a chefnogaeth i garcharorion a'u teuluoedd drwy gydol dedfryd y carcharorion.

Rhoddais y cymorth hwn drwy linell gymorth y teulu, llinell gymorth y carcharorion ac ymgynghoriadau un i un gyda charcharorion.

Roeddwn i hefyd yn helpu i gwblhau dogfennau llysoedd teulu, cynorthwyo teuluoedd i ysgrifennu llythyrau at eu plant neu drefnu ymweliadau cyswllt trwy gysylltu â gweithwyr cymdeithasol.

The inside of a prison.

Fy wythnos gyntaf

Yn ystod fy wythnos gyntaf yn gweithio yn y carchar cefais hyfforddiant deiliad allweddi fyddai'n rhoi mynediad i mi o gwmpas y carchar heb orfod cael fy hebrwng.

Ar y dechrau roedd hyn yn frawychus iawn. Fodd bynnag, fe gynyddodd fy hyder wrth i mi fynd o amgylch y carchar a chwblhau gwaith yn annibynnol.

Datblygodd fy sgiliau cyfathrebu wrth i mi gysylltu â staff y carchar, gweithwyr cyfreithiol, gweithwyr cymdeithasol, carcharorion a’u teuluoedd wyneb yn wyneb, dros y ffôn a thrwy ebost.

Siaradais ag aelodau emosiynol o'r teulu ar linell gymorth y carchar. Fy ngwaith i oedd eu cysuro ynghylch eu pryderon a'u gofidiau.

Roedd sgyrsiau ar y ffôn yn anodd i mi gan na allwch chi weld iaith corff eich gilydd.

Roeddwn i'n sicrhau bod aelodau'r teulu'n cael amser i siarad, a gadael iddyn nhw wybod fy mod i'n gwrando ac y byddwn i'n ceisio datrys problemau orau y gallwn.

Mae ymddiriedaeth a chysylltiadau cyfathrebu da gyda theuluoedd yn hynod o bwysig felly byddwn yn gwneud yn siŵr fy mod yn gwneud unrhyw beth oedd yn fy rheolaeth megis rhoi galwad yn ôl iddyn nhw.

Woman Sitting at Table with Laptop while Talking on Phone

Defnyddio sgiliau prifysgol i ddatblygu fy nghynllun ymyrraeth deuluol fy hun

Fy hoff ran o weithio yn y carchar oedd gallu defnyddio’r sgiliau a ddatblygais i yn y brifysgol i ymchwilio, cynllunio a chreu fy ymyrraeth deuluol fy hun.

Roeddwn i mor falch pan roddwyd fy nghynllun ar waith yn yr adain ymyrraeth deuluol.

Roedd hefyd yn deimlad gwych newid lle gyda chydweithwyr, eu haddysgu a’u hyfforddi ar sut i gwblhau’r ymyrraeth newydd.

Rwyf i mor falch fod y carchar wedi rhoi fy nghynllun ar waith ac yn hynod o ddiolchgar am y profiad.

Mae lleoliadau gwaith yn gyfleoedd perffaith i sicrhau profiad yn eich maes astudio

Pe bai myfyriwr yn fy holi am leoliadau gwaith, byddwn yn bendant yn argymell blwyddyn ar leoliad oherwydd rhoddodd y cyfle perffaith i mi gael cipolwg ar fy ngyrfa a'm diwydiant dewisol.

Cynigiodd y lleoliad gwaith brofiad cynhwysfawr o yrfaoedd yn y gwasanaeth carchardai a chyflwynodd lawer o yrfaoedd nad oeddwn yn gwybod eu bod yn bodoli.

Yn well fyth, gall arwain at gael eich troed yn y drws, gan i mi gael cynnig swydd gweithiwr cymorth i deuluoedd yn y carchar.

Rhoddodd fy lleoliad gwaith hyder i mi a gwybodaeth helaeth o’r byd go iawn, gan fy helpu yn fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd ac i gael swydd.

Rwyf i mor falch o'r cyfle a fy mod wedi cymryd y flwyddyn allan o astudio, roedd yn gymaint o hwb i mi.

White work table with notes, smartphone and laptop

Hoffem ddiolch i Amy am roi amser i siarad â ni am ei phrofiad gwaith.

Mae ein cyrsiau'n cynnig blwyddyn ddewisol ar leoliad yn ystod eich astudiaethau gyda ni yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth am leoliadau gwaith yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Rhannu’r stori hon