Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid sylweddol wedi’i sicrhau ar gyfer prosiect ymchwil newydd i wella cynaliadwyedd gwaith cynhyrchu dur

11 Tachwedd 2022

Delegates at the first ALCHIMIA meeting

Prosiect ymchwil newydd wedi sicrhau 3.5 miliwn ewro i nodi ffyrdd o wneud gwaith cynhyrchu dur yn fwy cynaliadwy.

Mae’r prosiect, o’r enw ‘Data a deallusrwydd artiffisial wedi’i ddatganoli i greu diwydiant metelegol Ewropeaidd sy’n gystadleuol ac yn wyrdd (ALCHIMIA)’, yn cynnwys Dr Dean Stroud a Dr Martin Weinel o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae'r prosiect yn rhagdybio y bydd gwella effeithlonrwydd, drwy gymysgu sborion metel cymaint â phosibl, nid yn unig yn lleihau’r defnydd o ynni, allyriadau a gwastraff ond hefyd yn gwella ansawdd dur.

Mae sefydliadau ymchwil, cwmnïau gweithgynhyrchu, ymgynghorydd technoleg gwybodaeth a chwmni meddalwedd yn dod ynghyd i nodi ffyrdd o wella’r diwydiant cynhyrchu dur.

Mae deg partner ar draws Ewrop – o wledydd sy’n cynnwys Sbaen, yr Eidal, y Swistir a Gwlad Groeg – yn ymwneud â’r prosiect.

Dywedodd Dr Stroud: “Nod prosiect ALCHIMIA yw nodi atebion ar sail deallusrwydd artiffisial er mwyn mynd i'r afael â'r defnydd o ynni, gwastraff ac allyriadau wrth gynhyrchu dur, gan gynnwys sicrhau bod modd rhoi’r atebion ar waith ar draws diwydiant metelegol Ewrop.

“Ar yr un pryd, mae'n ystyried yr agweddau cymdeithasol a dynol ar gyflwyno technolegau digidol newydd yn y gweithle.

Mae gwella effeithlonrwydd ar draws diwydiant Ewrop yn hanfodol i sicrhau ei fod yn gystadleuol ac yn gynaliadwy. Mae’r prosiect yn addo nodi atebion technegol ond cymdeithasol gyfrifol i’w wella.
Dr Dean Stroud Lecturer

A group of people on high vis clothing at a scrap repository.
Y consortiwm ar ymweliad â storfa sgrap yn ffatri Celsa, ger Barcelona, ​​lle cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd yn rhan o Horizon Europe – un o raglenni’r Undeb Ewropeaidd sy’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae Dr Stroud a Dr Weinel wedi cydweithio ers tro â’r Comisiwn Ewropeaidd drwy rwydweithio ar draws prosiectau blaenorol yn Ewrop.

Mae'r tîm yn gobeithio sicrhau diwydiant metelegol mwy cynaliadwy a chyfrannu at Fargen Werdd yr Undeb Ewropeaidd drwy fynnu diwydiant mwy effeithlon.

Bydd y project yn cael ei gynnal o fis Medi 2022 tan fis Awst 2025.

Ewch i LinkedIn a Twitter i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu’r stori hon