Mae ein rhaglenni gradd yn archwilio materion yn ymwneud â chymdeithas ac ymddygiad pobl, ac fe’u haddysgir gan ymchwilwyr sydd yn flaenllaw yn eu pynciau.
Cynigiwn ystod o raglenni meistr modwlar sy’n eich galluogi i fynd ar drywydd astudiaethau sy’n berthnasol ar gyfer ystod o alwedigaethau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Anogir myfyrwyr ymchwil i chwarae rhan lawn yn ein hamgylchedd academaidd ac ymchwil, a chael y cyfle i fynd ar drywydd eu hastudiaethau mewn ffordd ryngddisgyblaethol.
Gallwch astudio ein rhaglenni proffesiynol gan gynnwys TAR, MA Gwaith Cymdeithasol, Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MYA) ac Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus i weithwyr cymdeithasol.