Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarnu Cymrodoriaeth Oes Gyfan Academi’r Addysgwyr Meddygol i Gyfarwyddwr Ymchwil

14 Gorffennaf 2023

Golden star on a bright background

Mae’r Athro Alison Bullock, Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Academi'r Addysgwyr Meddygol (AoME).

Mae'r Gymrodoriaeth, sef un bwysicaf yr Academi, yn cael ei rhoi i unigolion eithriadol am eu cyfraniad neilltuol i addysg feddygol a'r academi.

Mae ymchwil yr Athro Bullock yn canolbwyntio ar addysg a datblygiad gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys meysydd ymchwil megis dysgu yn y gweithle, datblygiad proffesiynol a throsglwyddo a chyfnewid gwybodaeth.

Mae ei gwaith presennol yn cynnwys nifer o brosiectau sy'n ymwneud â gwerthuso rhaglenni addysg a hyfforddiant newydd neu rai diwygiedig i fferyllwyr dan hyfforddiant a thechnegwyr fferyllol yng Nghymru.

Dyma a ddywedodd yr Athro Bullock:

Rwy’n ofnadwy o falch! Peth hynod o braf yw cael y gydnabyddiaeth allanol a phenodol hon yng nghyd-destun fy ngyrfa sy’n ymchwilio i addysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Rwy wrth fy modd yn gyfan gwbl. Diolch yn fawr ichi, AoME.
Yr Athro Alison Bullock Professor - CUREMeDE

A Cardiff University academic staff member receiving an honorary fellowship

Yn sgil ei gwaith diweddaraf ar ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) canfuwyd nad oedd y rhan fwyaf o weithwyr deintyddol proffesiynol yn ei chael hi'n anodd cyflawni gofynion DPP a'u bod yn ffordd effeithiol o ennill sgiliau newydd.

Sefydlwyd AoME yn 2006 i roi arweinyddiaeth, hyrwyddo safonau a chefnogi pawb sy'n ymwneud â disgyblaeth academaidd ac ymarfer addysg feddygol.

Nod yr Academi yw gwella gofal drwy ragoriaeth addysgu, tai a gwella’r addysgwyr meddygol ac athrawon clinigol gorau yn y Deyrnas Unedig.

Derbyniodd Dr Bullock ei Chymrodoriaeth yng Nghyfarfod Academaidd Blynyddol yr Academi, Dysgu Gyda'n Gilydd i sicrhau Rhagoriaeth Glinigol, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd rhwng 27 a 29 Mehefin 2023.

Dyma ragor o wybodaeth am yr Athro Bullock a’r AoME.

Rhannu’r stori hon