Ewch i’r prif gynnwys

Mae newidiadau i'r ffordd y caiff ysgolion eu hasesu a dysgu proffesiynol gwell yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant diwygiadau addysg yng Nghymru, yn ôl astudiaeth

18 Mai 2023

person ifanc yn codi ei llaw mewn ystafell ddosbarth

Mae newidiadau i'r ffordd y caiff ysgolion eu hasesu a dysgu proffesiynol gwell i ymarferwyr ysgol yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant diwygiadau addysg yng Nghymru, yn ôl astudiaeth.

Bu ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyfweld â llunwyr polisi a'r rhai sydd â rôl strategol wrth ddylunio a gweithredu agweddau Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru, a gyflwynwyd mewn ysgolion o fis Medi ymlaen, fel rhan o gyfres o brosiectau i fesur ei lwyddiant hirdymor.

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod diwygiadau i'r system addysg yn gofyn am newidiadau ar sawl lefel i gyflawni dyheadau a nodau beiddgar y Cwricwlwm i Gymru.

Mae Dr Sara Long yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer). Dywedodd: "Mae ysgolion yn gweithredu heb ddigon o adnoddau, ac yn gorfod trefnu eu gweithredoedd yn eilradd i sicrhau perfformiad i fodloni’r mesurau y maent yn atebol iddynt, ac o ganlyniad, efallai’n esgeuluso mesurau sydd o bwys i bobl ifanc.

"Trafodwyd yr angen am fwy o ymreolaeth a rhyddid ar lefel ysgol ac ymarferydd yn helaeth drwy gydol cyfweliadau, a bydd hyn yn sicr yn allweddol i lwyddiant y cwricwlwm newydd. Ond gyda newidiadau mor radical i sut mae pobl ifanc yn dysgu, mae rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r offer i'r rhai yn y proffesiwn addysg i weithredu'r cwricwlwm, yn ogystal ag iechyd a lles y tu allan i'r cwricwlwm, hefyd yn mynd i fod yn hanfodol."

Roedd y cyfweliadau a gynhaliwyd ar gyfer yr astudiaeth yn cynnwys uwch aelodau o'r llywodraeth ac ysgolion sydd wedi ymwneud â naill ai dylunio'r cwricwlwm neu ddysgu proffesiynol, Estyn a'r rhai â chylch gwaith amlddisgyblaethol ym maes iechyd ac addysg.

Mae'r cwricwlwm yng Nghymru wedi’i ddiwygio’n sylweddol gyda phwyslais gynyddol uwch ar Iechyd a Lles. Mae nawr yn un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad ar y cyd â'r Celfyddydau Mynegiannol; y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd, a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Mae Dr Long yn arwain cymrodoriaeth ymchwil pedair blynedd o hyd, sy'n archwilio effaith diwygio'r cwricwlwm yng Nghymru ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd y papur, Iechyd a lles ysgolion a diwygio'r system addysg genedlaethol: astudiaeth ansoddolyn y British Education Research Journal (BERJ) ac mae ar gael i'w weld yma.

Rhannu’r stori hon

Rhagorwn mewn ymchwil ryngddisgyblaethol sydd â ffocws clir ar bolisi.