Ewch i’r prif gynnwys

Effaith technolegau gweledol ar blismona yn destun ymchwil newydd

10 Gorffennaf 2023

Camera corff yr heddlu (siot agos)

Bydd y defnydd a wneir o dechnoleg gweledol a recordiadau fideo i lywio’r ffordd mae’r heddlu yn cael eu gweld, a llywio’u gweithredoedd, yn sail i ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae amrywiol ffynonellau o recordiadau fideo yn dylanwadu ar ganlyniad cwynion a wneir ynghylch yr heddlu a beirniadaeth o’r heddlu, gan gymharu hyn â sut mae'r technolegau newydd hyn yn llywio hyfforddiant y sawl sy’n cael eu recriwtio o’r newydd a swyddogion sydd eisoes yn y swydd.

Bydd canfyddiadau'r ddau gam ymchwil hyn yn cael eu defnyddio i ddatblygu adnoddau dadansoddi fideo ac efelychu newydd i gynorthwyo gyda goruchwyliaeth a hyfforddiant yr heddlu.

Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Robin Smith, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol: “Mae’r technolegau gweledol diweddaraf, fel camerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff a ffonau symudol, yn newid y ffordd mae’r cyhoedd yn gweld plismona. Mae arferion plismona yn weladwy, mewn ffordd newydd, ac mae ymateb y cyhoedd i ymarferion yr heddlu fel defnyddio-grym, rheoli torfeydd a’u gweithdrefnau stopio a chwilio wedi bod yn dra phegynol. Fel y mae straeon newyddion diweddar wedi dangos, gall y cyhoedd ddefnyddio recordiadau fideo yn ffordd i herio penderfyniadau plismona, gyda’r recordiadau hyn yn aml yn cael eu rhannu mewn amser real bron â bod. Mae ein hymchwil yn ceisio rhoi dealltwriaeth ddyfnach o sut mae hyn yn newid ac yn dylanwadu ar ymarfer ac atebolrwydd o ran plismona.”

Yn y cam cyntaf, bydd ymchwilwyr yn dadansoddi deunyddiau a gasglwyd yn bennaf o gyfryngau cymdeithasol i werthuso sut mae'r fideos hyn yn cynrychioli ac yn fframio unrhyw agwedd ar ymddygiad yr heddlu a allai fod yn broblematig. Yn y cam hwn, fe ddilynir achosion allweddol trwy wahanol gamau a lleoliadau ymholi ac ymchwilio i gael gwell dealltwriaeth o sut y gwneir synnwyr o ddeunydd fideo mewn gwahanol gyd-destunau. Maes diddordeb arbennig o ran yr ymchwil yw sut y gall fideo rymuso galluoedd dinasyddion i graffu ar yr heddlu, yn ogystal â sut mae'r heddlu eu hunain yn defnyddio deunyddiau gweledol o ran sicrhau eu hatebolrwydd a'u safon broffesiynol.

Yn yr ail gam bydd y tîm yn astudio sut mae heddluoedd yn defnyddio technolegau gweledol i werthuso ymddygiad rhesymol swyddogion ac i addysgu ynghylch hyn mewn lleoliadau hyfforddi. Bydd ymchwilwyr yn eistedd i mewn ar ddosbarthiadau mewn colegau heddlu ac yn arsylwi arnynt, ac yn cyfweld â recriwtiaid newydd a hyfforddwyr yr heddlu ynghylch sut mae technoleg weledol yn llywio eu harferion dysgu ac addysgu.

Bydd y data a'r dadansoddiadau yn llywio'r gwaith o ddatblygu adnoddau newydd i wella'r ffordd y caiff gweithdrefnau'r heddlu eu hasesu, yn ogystal â sut mae heddluoedd yn hyfforddi eu swyddogion.

Dywedodd y cydymaith ymchwil Terry Au-Yeung, sydd hefyd yn gweithio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol: “Er gwaethaf pwyslais cynyddol ar dechnolegau fideo, ychydig o sylw a roddwyd i sut mae’r heddlu’n defnyddio’r wybodaeth hon eu hunain i werthuso ymddygiad a hyfforddiant swyddogion. Gobeithiwn y bydd yr ymchwil hon, yn ogystal â democrateiddio plismona ymhellach, yn helpu i arwain heddluoedd wrth ddatblygu arfer gorau.”

Mae’r prosiect tair blynedd gwerth £1.7m hwn wedi’i ariannu o dan Rownd 7 galwad cyngor-aml-ymchwil Ardal Ymchwil Agored (ORA) ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol, ac mae academyddion yng Nghanada, Ffrainc a’r Almaen yn rhan o’r gwaith. Ariennir tîm Prifysgol Caerdydd gan Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.