Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid wedi'i roi ar gyfer prosiect polisi cyhoeddus rhyngwladol sy'n anelu at ddeall y berthynas rhwng tlodi a lles

12 Gorffennaf 2023

Old council tower block in London

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol y Gwyddorau Cymhwysol a'r Celfyddydau Gorllewin y Swistir (HESO) wedi derbyn cyllid ar gyfer prosiect a fydd yn archwilio ac yn cymharu'r berthynas rhwng gwaith o ansawdd isel, tlodi a lles yn y DU a'r Swistir.

Mae'r prosiect, a ariennir gan Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol y Swistir (SNSF), yn gobeithio gwella dealltwriaeth am oblygiadau tymor hir gwaith o ansawdd isel, gan gynnwys cyfrannu at ddadleuon ynghylch a yw'r mathau hyn o gyflogaeth yn gweithredu fel 'carreg gamu' neu 'lôn bencaead'.

Bydd yr Athro Eric Crettaz o HES-SO Genefa a Dr Rod Hick o Brifysgol Caerdydd yn cydweithio ar y gwaith hwn, gyda dau ymchwilydd ôl-ddoethurol i ymuno â'r tîm, un wedi'i leoli yn y Swistir a'r llall yng Nghaerdydd.

Dywedodd Dr Hick:

Mae'r Athro Eric Crettaz a minnau wrth ein bodd bod SNSF wedi ariannu'r astudiaeth hon ar waith o ansawdd isel, gan adeiladu ar ymchwil flaenorol yr ydym wedi'i chynnal ar wahân ar dlodi mewn gwaith dros nifer o flynyddoedd. Rydym yn gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn datblygu ein dealltwriaeth o ddeinameg gwaith o ansawdd isel a'i ganlyniadau ac y bydd hyn yn arwain at argymhellion a fydd yn cael eu defnyddio gan lunwyr polisi.
Dr Rod Hick Lecturer in Social Policy

“Wrth gyflwyno fy ngwaith fy hun mewn gwledydd eraill, rwyf wedi cael fy nharo gan y graddau y mae'r pryderon sydd gennym am y cynnydd ymddangosiadol mewn mathau o gyflogaeth sy'n ansicr yn cael eu talu'n wael ac nad ydynt yn darparu digon i fyw arno yn cael eu rhannu gan ymchwilwyr a llunwyr polisi mewn gwledydd eraill.

“Rwy'n falch y byddwn yn cael y cyfle i archwilio goblygiadau gwaith o ansawdd isel nid yn unig ar dlodi ond hefyd o ran lles goddrychol, sy'n faes y mae angen i ni wybod mwy amdano.”

Mae Dr Hick yn Ddarllenydd ar gyfer polisi cymdeithasol a chyhoeddus yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

Yn gweithio ochr yn ochr ag ef mae'r Athro Eric Crettaz, arweinydd y prosiect, sy'n arbenigo mewn anghydraddoldebau economaidd a marchnadoedd llafur ym Mhrifysgol y Gwyddorau Cymhwysol a'r Celfyddydau Gorllewin y Swistir.

Nod y prosiect hefyd yw taflu goleuni newydd ar oblygiadau gwaith o ansawdd isel yn nhermau lles economaidd a goddrychol.

Mae'n gobeithio pennu i ba raddau y mae rôl y wladwriaeth les yn ei chwarae wrth ddarparu byffer i weithwyr incwm isel a'u teuluoedd, a chanlyniadau gwaith o ansawdd isel.

Bydd y prosiect yn dechrau erbyn dechrau 2024 a bydd wedi'i gwblhau dros ddwy flynedd.

Rhannu’r stori hon