Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain - cwrs ar-lein yn cael ei gyflwyno i 18 o athrawon AG

Mae Canolfan Islam y DU wedi datblygu cwrs ar-lein ar gyfer athrawon Addysg Grefyddol, mewn ymateb i'r angen i ddatblygu adnoddau addysgu a dysgu hygyrch, hyblyg a arweinir gan ymchwil am Islam.

Datblygwyd y cwrs hwn i hyrwyddo mathau cyfoes o Islam a realiti cymdeithasol Mwslimiaid sy'n byw ym Mhrydain, er mwyn gwella dulliau addysgu a dysgu am Islam mewn AG, sydd wedi'u beirniadu'n hanesyddol am gamliwio ac am safbwyntiau ystrydebol.

Roedd y prosiect yn cynnwys cydweithrediad ar draws y brifysgol rhwng Canolfan Islam-y DU (Dr Matthew Vince, Mark Bryant, yr Athro Sophie Gilliat-Ray), y Ganolfan Cefnogaeth Addysg ac Arloesedd (Dewi Parry) a'r tîm Datblygiad Proffesiynol.

Cefndir

Datblygodd Canolfan Islam y DU y cwrs DPP ar-lein mewn ymateb i argymhellion yng Nghomisiwn 2018 ar Addysg Grefyddol a oedd yn awgrymu y dylai addysgu AG gynnwys 'profiadau y mae unigolion a chymunedau wedi'u byw'. Mae beirniadaeth wedi bod o'r ffordd y mae dulliau addysgu AG yn cynrychioli crefyddau yn yr ystafell ddosbarth ers tro byd, gyda phortreadau'n canolbwyntio'n rhy aml ar ddiwinyddiaeth a chredoau, ar draul mynegiadau lluosog a phob dydd o grefydd mewn cymdeithas.

Roedd y cwrs yn adeiladu ar Gwrs Ar-lein Agored Enfawr (MOOC) Mwslimiaid ym Mhrydain hynod lwyddiannus Canolfan Islam y DU, ac fe'i lluniwyd i fod yn adnodd DPP cysylltiedig ar gyfer athrawon AG er mwyn cynyddu eu gwybodaeth am Islam a'u dealltwriaeth ohono a'u galluogi i gyflawni argymhellion y Comisiwn. Nod y rhaglen Mwslimiaid ym Mhrydain yw ymgorffori safbwyntiau cymdeithasegol o grefydd yn ystafelloedd dosbarth AG gan ddefnyddio ymchwil gymdeithasegol arloesol ac ysgoloriaeth academaidd mewn adnoddau addysgu.

Lluniwyd y cwrs peilot hwn mewn partneriaeth ag arbenigwyr o feysydd eraill astudiaethau Islam fel rhan o gynllun Cam Allweddol 3 sy'n llawn adnoddau o waith sy'n edrych ar Fwslimiaid ym Mhrydain.  Noddir y rhaglen gan gyllid Ysgoloriaeth Jameel sydd wedi galluogi adnoddau'r ystafell ddosbarth i gael eu datblygu a'u dosbarthu yn rhad ac am ddim i athrawon AG.

Braslun o'r rhaglen

Prif nod y cwrs ar-lein yw gwella dulliau addysgu a dysgu am Islam, drwy ddarparu adnodd am ddim er mwyn helpu athrawon i ddatblygu cynllun gwaith cyfoes ac ystyrlon ar gyfer eu cwricwlwm AG.

Mae'n cyflawni hyn drwy nodi llwyddiannau, heriau a gofynion presennol athrawon AG, a datblygu deunyddiau y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, gan ymgorffori dulliau cymdeithasegol presennol ac ysgoloriaeth i astudio crefydd.

Mae strwythur a chynnwys y cwrs yn annog arfer myfyriol ar sut mae trosglwyddo a gweithredu dulliau dysgu i'r gwaith o addysgu AG. Cyflwynir y cwrs cyfan ar-lein er mwyn ei wneud ar gael i gymaint o bobl â phosibl a mor hygyrch â phosibl. Hefyd, mae gan gyfranogwyr y cyfle i rwydweithio a rhannu syniadau ag athrawon AG eraill ledled y DU.

Dyluniwyd y cwrs fel 'cwricwlwm gweithredol' y gellir ei ddiweddaru'n gyson mewn ymateb i ymchwil arloesol a data newydd ar Fwslimiaid Prydeinig. Ochr yn ochr â'r cwrs mae cynllun gwaith yn llawn adnoddau gan gynnwys PowerPoints i addysgu, cynlluniau gwersi, taflenni gwaith disgyblion ac adnoddau cysylltiedig eraill.

Mae'r lansiad o'r cwrs ar-lein cyffrous hwn ar gyfer athrawon AG yn adlewyrchu enw da Canolfan Islam y DU sydd wedi'i hen sefydlu, a'n 15 mlynedd o allgymorth ac ymgysylltu â chymunedau Mwslimaidd ledled Prydain. Mae'r cwrs yn adlewyrchu mewnbwn ymchwilwyr o'r radd flaenaf, arbenigedd y rheiny ym maes technoleg ddysgu, y cymunedau Mwslimaidd y mae gennym berthynas mor gryf â nhw, a chymeradwyaeth RE Today fel cymdeithas broffesiynol blaenllaw ar gyfer athrawon AG ym Mhrydain.

Yr Athro Sophie Gilliat-Ray Professor in Religious and Theological Studies, Head of Islam UK Centre

Cynnwys y cwrs

Drwy gydol y cwrs, gofynnir i athrawon ystyried y cwestiwn o sut brofiad yw bod yn Fwslim ym Mhrydain. Mae'r cwrs yn ystyried Islam fel "traddodiad crefyddol" a rhywbeth sy'n cael ei ddeall a'i fyw gan Fwslimiaid. Mae'n archwilio sut mae Mwslimiaid ym Mhrydain yn troi at wahanol ffynonellau doethineb ac awdurdodau sy'n grefyddol ac fel arall, am arweiniad ynghylch materion cyfoes, gan ddilyn pum piler Islam mewn cyd-destun Prydeinig, a sut mae credoau ac arferion yn llywio, ac yn cael eu llywio, gan hunaniaethau pobl.

Ymhlith y pynciau a gwmpesir ar y cwrs hwn mae'r canlynol:

  • Hanesion a chymunedau Mwslimiaid ym Mhrydain
  • Swyddogaeth gymdeithasol ganolog mosgiau
  • Hunaniaeth "Mwslim Prydeinig", fel y mynegwyd yn y celfyddydau ac mewn profiadau o Islamoffobia

Canlyniadau

Mae AG Heddiw wedi cymeradwyo'r cwrs, gan ddweud y 'bydd yn cael effaith sylweddol ar ddulliau addysgu a dysgu am Islam mewn AG ledled y DU'.

Mae'r adnoddau addysgu a dysgu newydd gan Ganolfan Islam y DU Prifysgol Caerdydd yn cynnig cwrs DPP gwych i athrawon AG gyda chynlluniau ystafelloedd dosbarth cysylltiedig a deunyddiau ar gyfer CA3. Mae Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain yn defnyddio dull cymdeithasegol wrth astudio Mwslimiaid ym Mhrydain, gan ymgorffori data cyfoes ac ysgoloriaeth wedi’i churadu gan Ganolfan Islam y DU. Fel canolfan adnabyddus ar gyfer astudio Islam, mae arbenigedd Islam y DU yn cynnig rhywbeth unigryw i athrawon AG, gan fynd i'r afael â rhai problemau mawr cwricwla AG.

Yn hytrach na chyflwyniadau haniaethol, wedi’u hanfodoli o gredoau allweddol Islam, er enghraifft, mae'r ffocws ar fathau cyfoes o Islam a realiti cymdeithasol Mwslim sy'n byw ym Mhrydain. Mae athrawon a disgyblion yn dod ar draws lleisiau Mwslimiaid drwy glipiau fideo ac erthyglau, gan eu galluogi i fabwysiadau dull cymdeithasegol mewn AG. Mae'r adnodd hwn yn cefnogi athrawon i ddatblygu eu gwybodaeth eu hunain a gwybodaeth eu disgyblion am Islam a Mwslimiaid yn sylweddol, yn ogystal â'u cyflwyno i wybodaeth ddisgyblaethol – megis sut mae cymdeithaseg yn defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol i greu a gwerthuso gwybodaeth.

Mae Islam ymhlith y pynciau mwyaf poblogaidd yn CA3 ac addysgu ar lefel TGAU, ac mae'r adnodd hwn yn cynnig DPP ystyrlon a manwl ar gyfer athrawon a ffyrdd diddorol o archwilio'r ffordd y mae Mwslimiaid yn byw. Mae'n gosod yr astudiaeth o Islam mewn cyd-destunau adnabyddus, gan ddarparu cyfleoedd ystyrlon a diddorol i ddysgu.

Bydd cyfoeth o adnoddau cysylltiedig ar gael i athrawon, gan gynnwys ymchwil ddiweddar, arloesol, i ehangu a chynyddu eu gwybodaeth eu hunain am eu pwnc. Mae'n newyddion gwych bod yr adnoddau hyn ar gael yn rhydd a bellach ar gael yn ddigidol. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gall pawb ymgysylltu'n llawn â'r cwrs.

Ar ôl adolygu'r cwrs a'i drafod gyda thîm prosiect Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain, mae'n bleser gennym argymell y cwrs a'i adnoddau cysylltiedig.

Roedd y cwrs peilot yn llwyddiannus a bydd yn cael ei gyflwyno fel adnodd DPP ar-lein i athrawon AG yn y DU.

Adborth myfyrwyr

Cyflwynwyd y cwrs DPP i garfan o 18 o athrawon AG yn y DU, a bydd eu hadborth gwerthfawr yn llywio'r gwaith o ddatblygu ymhellach a chyflwyno'r cwrs ar-lein yn y dyfodol. Mae'r adborth yn cynnwys:

Hwn fydd y tro cyntaf i mi addysgu o safbwynt cymdeithaseg crefydd a bydd defnyddio'r adnoddau gwersi yn welliant enfawr o gymharu â'r ddarpariaeth bresennol ar Islam. Nid oes gen i'r amser na'r arbenigedd i greu adnoddau gwersi o'r safon hyn. Bydd yr amser y byddwn yn ei arbed o ran cynllunio uned gwaith yn golygu y bydd gennym fwy o amser i ganolbwyntio ar y disgyblion!

Cynrychiolydd, rhaglen Mwslimiaid ym Mhrydain

Diolch yn fawr iawn am roi hwn at ei gilydd, rwyf wir yn gallu gweld sut bydd deunyddiau'r cwrs yn fy helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth broffesiynol ond yn bennaf rwy'n methu aros i addysgu'r cynllun gwaith! Bydd yn welliant enfawr o gymharu â'r ddarpariaeth bresennol ar Islam ac rwyf wrth fy modd â'r posibilrwydd o astudio crefydd yn yr ystafell ddosbarth!

Cynrychiolydd, rhaglen Mwslimiaid ym Mhrydain

Yn fy marn i, mae'r nodwedd "gofynnwch i ysgolhaig" yn ffordd wych o gefnogi trafodaeth a myfyrio y tu allan i'r cwrs.

Cynrychiolydd, rhaglen Mwslimiaid ym Mhrydain

Cysylltu â ni

Os hoffech siarad â thîm Canolfan Islam-y DU am y cwrs, cysylltwch â:

Canolfan Islam-y DU

Os hoffech drafod sut y gallwn greu cwrs pwrpasol ar gyfer eich sefydliad neu fusnes, cysylltwch â'r Uned DPP i gael sgwrs anffurfiol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus