Ewch i’r prif gynnwys

Cwrs ar-lein Adolygiad o Ddefnydd Meddyginiaethau (MUR) ar gyfer HEIW

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae Academyddion o’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol wedi trosi cwrs DPP o fod yn ddarpariaeth wyneb-yn-wyneb yn gwrs ar-lein, sy’n galluogi fferyllwyr i ddilyn y cwrs yn ystod y pandemig.

Cefndir

Comisiynodd HEIW (Addysg a Gwella Iechyd Cymru) y cwrs undydd wyneb-yn-wyneb hwn ar Adolygiad o Ddefnydd Meddyginiaethau (MUR) yn wreiddiol ar gyfer fferyllwyr cyn-gofrestru.

Nod Adolygiad o Ddefnydd Meddyginiaethau (MUR) yw gwneud y defnydd gorau o sgiliau fferyllwyr. Maent eisiau sicrhau bod cleifion yn medru manteisio ar arbenigedd fferyllwyr er mwyn mynd i'r afael â'u hanghenion penodol o ran meddyginiaeth.

Cydweithiodd yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol a HEIW i ddatblygu’r cwrs hyfforddiant ac asesu hwn i achredu fferyllwyr ar gyfer darpariaeth MUR. Crëwyd y cwrs yn bennaf ar gyfer fferyllwyr cyn-gofrestru a fferyllwyr sydd wedi cofrestru gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) ac sy'n dymuno ymarfer MUR.

Cynhaliwyd y cwrs yn llwyddiannus ym mis Mehefin 2019, ac roedd cynlluniau ar waith ar gyfer cynnal y cwrs ym mis Gorffennaf 2020 pan ddechreuodd pandemig byd-eang Covid-19. Felly, rydym wedi trosi’r cwrs yn fersiwn ar-lein, gyda chyfuniad o addysgu byw dros Zoom a sesiynau a recordiwyd eisoes.

Y rhaglen

Dyluniwyd yr hyfforddiant wyneb yn wyneb i arwain y fferyllwyr drwy'r broses o gynnal MUR, gan eu cynorthwyo i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gymhwyso. Mae’r meysydd dysgu yn cynnwys:

  • Addasu Gweithdrefn Weithredu Safonol (SOP) ar gyfer cynnal MUR yn y gweithle
  • Gweithio drwy achos MUR enghreifftiol
  • Dau efelychiad MUR gydag actor claf, ynghyd â chwblhau fframwaith sgiliau therapiwtig ac ymgynghori
  • Creu cofnod myfyriol o'r broses ddysgu (Mynediad DPP a Chynllun Gweithredu) i ddangos sut maent wedi cymhwyso.

Mae'r asesiad yn cynnwys, ar ben yr ymarferion ffurfiannol hyn, dwy astudiaeth achos datrys problemau, i’w cwblhau ar y diwrnod a'u cyflwyno i'w marcio.

Er mwyn addasu’r diwrnod hyfforddi yn ddarpariaeth ar-lein, gweithion ni gyda’n cydweithwyr yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, gan ddarparu mynediad at Ddysgu Canolog i gynnal cyflwyniadau a recordiwyd eisoes a deunyddiau darllen. Gwnaethon ni nodi rhannau o’r cwrs a fyddai fwyaf addas ar gyfer cael eu recordio ymlaen llaw, a pha rannau ddylai gael eu cyflwyno’n fyw dros Zoom.

Cymerodd 20 o fferyllwyr ran; gwnaethom ddarparu mynediad at ddeunyddiau dysgu wythnos cyn y sesiwn fyw er mwyn caniatáu digon o amser iddynt edrych dros y cynnwys. Yna, cynhaliodd Dr Rowan Yemm a Dr Vicky Cornelius o’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol sesiwn Zoom byw am hanner diwrnod. Defnyddion ni rinweddau Zoom fel yr ystafelloedd grŵp i sicrhau bod y fferyllwyr yn parhau i fanteisio ar amgylchedd rhyngweithiol ac ymgysylltiol. Roedd y sesiwn Zoom hefyd yn cynnwys gweithgareddau gydag actorion er mwyn ysgogi achosion MUR penodol.

Roeddem mewn cysylltiad parhaol gyda HEIW drwy gydol y broses gynllunio, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n fodlon gyda throsi’r cwrs ar-lein, ac nad oedd y deilliannau dysgu yn cael eu heffeithio.

Canlyniadau ac effaith

Fe wnaethon ni gydweithio’n llwyddiannus gyda chydweithwyr mewnol i drosi’r cwrs wyneb-yn-wyneb yn fersiwn ar-lein llwyddiannus iawn o’r rhaglen. Nid oedd unrhyw oedi ar gyfer y fferyllwyr, na deilliannau dysgu lle’r oedd rhaid bod yn bresennol. Rydym yn gobeithio cynnal cwrs tebyg yn y dyfodol, ac mae trafodaethau’n parhau ynghylch cyfleoedd DPP eraill o fewn yr Ysgol.

Dywedodd Dr Rowan Yemm, Darlithydd yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol:

Gan fod grŵp o fferyllwyr llawn cymhelliant wedi cofrestru ar gyfer y cwrs MUR, doedden ni ddim am ohirio, yn enwedig pan nad oeddem yn siŵr pryd y gallwn gynnal cwrs wyneb-yn-wyneb unwaith eto. Bûm yn gweithio’n galed i addasu’r cwrs ar-lein, yn ystyried pa sesiynau y gellir eu recordio ymlaen llaw a pha rai (a sut) y gallem gynnal sesiynau byw ar-lein. Roedd hi’n sesiwn ar-lein lewyrchus iawn.

Dr Rowan Yemm Lecturer

Adborth

Rydw i wedi dysgu technegau cyfweld da (e.e. cwestiynau agored a threiddgar er mwyn sicrhau sgwrs ddwyffordd) a phwysigrwydd egluro pwrpas y MUR i’r claf a’u hannog i fod ynghlwm wrth y penderfyniadau ynghylch eu hiechyd.

Fferyllydd, Cwrs ar-lein MUR, Gorffennaf 2020

Bydda i’n gallu defnyddio’r hyn rwyf wedi ei ddysgu yn ystod yr hyfforddiant i ddatblygu fy null o fynd ati i Adolygu Defnydd Meddyginiaethau, gan sicrhau fy mod yn annog agenda agored gyda’r claf, gan roi blaenoriaeth i’r materion cywir a dilyn strwythur ymgynghori da.

Fferyllydd, Cwrs ar-lein MUR, Gorffennaf 2020

Os hoffech drafod sut gallem weithio gyda'ch sefydliad i greu cwrs pwrpasol neu sydd wedi'i deilwra, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar am sgwrs anffurfiol gychwynnol. Edrychwch ar ein hystod o astudiaethau achos i weld rhai o’n prosiectau diweddaraf.

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus