Datblygu’r gweithle o ran technoleg tyrbinau nwy
Rhaglen undydd bwrpasol i wella sgiliau gweithwyr proffesiynol yn y datblygiadau diweddaraf ym maes technoleg tyrbinau nwy a thirlun ynni’r DU.
Drwy arddangosiadau byw yng nghyfleusterau arbenigol Prifysgol Caerdydd a sesiynau yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf yn y maes, nod y cwrs yw i wella sgiliau a chynhyrchiant yn y gweithle.
Canolfan ymchwil o’r radd flaenaf
Mae Canolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy Prifysgol Caerdydd ym Mhort Talbot yn un o lond llaw yn unig ledled y byd. Mae’n gartref i offer arbenigol a ddefnyddir i ddatblygu a phrofi systemau hylosgi, cydrannau a thanwyddau newydd mewn tymereddau a phwyseddau perthnasol i dyrbinau nwy.
Defnyddir yr ymchwil sy’n cael ei gyflawni yn y Ganolfan i wella cynhyrchu pŵer o danwyddau nwyol adnewyddadwy, gan alluogi’r diwydiant i leihau costau, lleihau allyriadau carbon a chynyddu diogelwch y cyflenwad.
Cydweithio rhwng y byd academaidd a busnes
Gan weithio mewn partneriaeth gyda’r sefydliad, fe wnaeth Ysgol Peirianneg Caerdydd ddylunio a darparu cwrs unigryw i fodloni eu hanghenion penodol, gan adnewyddu ac adeiladu ar wybodaeth gyfredol graddedigion sy’n gweithio ym maes technoleg tyrbinau.
Roedd pynciau’n cynnwys:
- tirlun ynni cyfredol y DU
- rôl tyrbinau nwy ar gyfer cynhyrchu pŵer a thrafnidiaeth (awyrennau)
- y gwyddoniaeth y tu ôl i’r dechnoleg, gan gynnwys cylchedau thermodeinamig a tymheredd/entropi a diagramau pwysedd/cyfaint
- effaith cylchedau thermodeinamig uwch, hylosgi yn dilyn ennill pwysedd, hylosgi catalytig
- goblygiadau awyren llusg isel ar ddyluniad injan.
Darparwyd drwy ddiwrnod rhyngweithiol o drafodaethau, arddangosiadau a chyflwyniadau. Roedd rhedeg y cwrs yn Y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy yn golygu fod cyfranogwyr yn cael y cyfle i archwilio cydrannau tyrbin nwy a thrafod y dyluniad a’r dechnoleg y tu ôl i’r cywasgwyr, chwistrellwyr, hylosgwyr a’r tyrbinau.
Perthnasol a chymhwysol
Fe wnaeth cyfranogwyr ganmol perthnasedd y cwrs i’w swyddi o ddydd i ddydd, a gwerthfawrogi’r ddarpariaeth gan academyddion yn gweithio gyda’r dechnoleg hon o ddydd i ddydd. Roedd trafodaethau am ffactorau sy’n sbarduno dylunio a gweithgynhyrchu tyrbinau nwy ac edrych ar ddatblygiadau newydd a datblygiadau a ddisgwylir yn y dyfodol yn y sector o werth arbennig.
Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.