Ewch i’r prif gynnwys

Datrys Problemau ym maes Gofal Lliniarol Pediatrig

Yn 2019, fe wnaeth Ysgol Meddygaeth y Brifysgol, mewn cydweithrediad â Hosbis Plant Tŷ Hafan a Rhwydwaith Clinigol a Reolir Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Lliniarol i Blant, greu cwrs DPP byr ar lefel Meistr mewn gofal lliniarol pediatrig.

Cefndir

Mae’r Brifysgol wedi bod yn cynnal cyrsiau byr DDP a Meistr mewn Gofal Lliniarol yn llwyddiannus ers sawl blwyddyn. Datblygwyd y rhaglen hyfforddiant proffesiynol mewn ymateb i geisiadau gan dimau pediatrig oedd yn chwilio am gyfleoedd tebyg. Mae ymchwil yn awgrymu bod angen cynyddu sgiliau gofal liniarol pediatreg gweithwyr gofal iechyd sy’n gweithio gyda phlant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywydau / bygwth bywydau. Mae llu o heriau, yn enwedig gan fod ystod y cyflyrau yn y maes meddygaeth hwn yn eang, a chlinigwyr sy’n dod o gefndiroedd a gweithleoedd amrywiol.

Mae’r Brifysgol yn cynnig cyfres o raglenni MSc a Diploma (ar lefel Meistr 7) ar hyn o bryd. Fodd bynnag, fe wnaeth adborth gan glinigwyr awgrymu bod y rhain yn cymryd gormod o amser i’r rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol. Byddai’n well ganddynt gael cefnogaeth syml a chlir er mwyn cynyddu eu dealltwriaeth o reoli symptomau, sgiliau cyfathrebu a gofal i gleifion yn ystod blwyddyn olaf eu bywydau.

Felly, cafodd y cwrs dysgu cyfunol DDP hwn ei baratoi a’i ddylunio ar gyfer meddygon, nyrsys, seicolegwyr, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant, yn enwedig y rhai sydd â diddordeb mewn gofal diwedd oes/lliniarol a gydag ymrwymiad i weithredu a rhannu addysg gofal diwedd oes/lliniarol yn eu sefydliad. Roedd y rhaglen yn cynnwys pedair sesiwn wyneb yn wyneb, pob un yn trafod pwnc allweddol. Cafodd ei hategu gan sesiynau ar-lein ac asesiad terfynol.

Canolbwyntiodd y cwrs ar helpu’r rhai a gymerodd ran i ddatblygu systemau sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau (yng nghyd-destun dealltwriaeth dda o sgiliau cefndirol) er mwyn troi theori yn ymarfer a rhoi newid hirdymor ar waith. Ceisiodd hefyd wella ansawdd gofal a diwylliant o fewn timau proffesiynol.

Cyfranogwyr

Roedd y grŵp yn cynnwys nyrsys, therapyddion cyfannol, therapyddion galwedigaethol, cofrestryddion pediatrig ac ymgynghorwyr.

Roedd creu grŵp rhyngddisgyblaethol yn dacteg bwriadol i geisio cynyddu ac ehangu dealltwriaeth y cyfranogwyr o’r maes pwnc hanfodol hwn. Fe wnaeth hefyd alluogi trafodaethau diddorol ac amrywiol yn ystod y sesiynau wyneb yn wyneb.

Cynnwys y cwrs

Rhaglen ddysgu gyfunol oedd hon oedd yn cynnwys pedair sesiwn wyneb yn wyneb, a dysgu ategol ar-lein. Roedd asesiadau'n seiliedig ar gyflwyniad a phortffolio 3,000 o eiriau.

  • Dyddiau cynnar: egwyddorion ac athroniaeth gofal lliniarol pediatrig, nodi angen, cyfeirio at wasanaethau, asesu
  • Cyfnod o sefydlogrwydd/angen cynllunio cyfochrog - gan gynnwys rheoli symptomau
  • Cyfnod diwedd oes gan gynnwys cynllun Uwch-ofal Pediatrig (Cynllun PAC)
  • Cymorth yn dilyn profedigaeth ac ar gyfer staff

Roedd cyfran o’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys cefnogi cyfranogwyr drwy ‘broblem’ benodol yn eu gweithle er mwyn rhoi sgiliau damcaniaethol ar waith.

Effaith

Yn ôl y cyfranogwyr:

  • bydd y cwrs yn gwella eu harferion bob dydd a’r gefnogaeth maent yn gallu ei rhoi i blant a’u teuluoedd
  • maent yn fwy hyderus
  • maent yn cyfathrebu’n well â theuluoedd.

Bydd y cwrs yn effeithio ar/newid fy arferion drwy gynnwys y teulu i helpu i flaenoriaethu gofal parhaus.

Adborth cyfranogwyr

Mae’r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr ar gyfer fy arferion clinigol... rydw i wir wedi elwa o’r trafodaethau mewn grwpiau / sefyllfaoedd a sgwrsio am achosion anodd.

Adborth cyfranogwyr

Rwyf wedi mwynhau’r cwrs yn fawr; rwyf wedi dysgu cymaint fydd yn fy helpu i ddatblygu gofal lliniarol beunyddiol ymlaen gyda fy mwrdd iechyd. Diolch o galon am y cyfle i wneud y cwrs hwn.

Adborth cyfranogwyr

Deilliannau

Ar ôl cwblhau’r cwrs byr, mae pedwar o’r rhai a gymerodd ran wedi ymrestru ar y rhaglen MSc Gofal Lliniarol yn y Brifysgol.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod rhagor am gyfleoedd DPP ym maes Gofal Lliniarol a disgyblaethau meddygol eraill, cysylltwch â’n tîm DPP cyfeillgar ar bob cyfrif: