Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Arferion Addysgu Arloesol

Mae’r Rhaglen Arferion Addysgu Arloesol wedi’i dylunio a’i datblygu i wella dealltwriaeth ddatblygedig hyfforddeion o arferion addysgu addysg uwch yn y DU.

Rydym wedi datblygu a mireinio’r rhaglen hon dros y ddwy flynedd diwethaf, gan groesawu sawl dirprwyaeth o academyddion o brifysgolion yn Tsieina.

Cefndir

Ym mis Medi 2018, fe groesawodd Prifysgol Caerdydd 10 academydd o Brifysgol Guizhou i gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant addysg ac arferion addysgeg bwrpasol dros gyfnod o 3 mis. Yn dilyn cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus ac adborth rhagorol gan y rhai a oedd yn cymryd rhan, danfonodd Brifysgol Guizhou ail ddirprwyaeth o academyddion i Gaerdydd, a oedd yn cynnwys 16 academydd o feysydd ar draws tri o Golegau Prifysgol Caerdydd y tro hwn.

Ym mis Ionawr 2020, daeth dirprwyaeth o 16 academydd o Brifysgol Feddygol Xuzhou i Gaerdydd i gymryd rhan yn y rhaglen.

Ar hyn o bryd, rydym yng nghanol trafodaethau ynghylch cynnal y rhaglen ar ddiwedd 2020 ar gyfer grŵp mwy o gynadleddwyr o Brifysgol yn Tsieina.

Cynadleddwyr

Mae’r rhaglen Arferion Addysgu Arloesol yn bwrpasol a gellir ei haddasu i fodloni gofynion neu arbenigeddau penodol sefydliadau a chynadleddwyr sy’n cymryd rhan. Gwnaethom weithio’n agos â Phrifysgol Guizhou a Phrifysgol Feddygol Xuzhou i wneud yn siŵr fod gan bob hyfforddai y cyfle i arsylwi arferion addysgu o fewn eu disgyblaeth eu hunain, a gwnaethom hefyd drefnu teithiau maes a oedd yn ategu disgyblaethau’r cynadleddwyr.

Medi 2018

Cynadleddwyr ym maes y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Prifysgol Guizhou, Tsieina.

Medi 2019

Cynadleddwyr sy’n gweithio o fewn amrywiaeth o ddisgyblaethau a addysgir ar draws tri o Golegau Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys microbioleg, athroniaeth, peirianneg sifil ac ieithoedd. Roedd y grŵp hwn hefyd yn cynnwys arweinwyr y brifysgol a gwblhaodd fodiwl Arweinyddiaeth Dysgu ac Addysgu ym maes Addysg Uwch ychwanegol. Prifysgol Guizhou, Tsieina.

Ionawr 2020

Prifysgol Feddygol Xuzhou, Tsieina. Mae’r academyddion meddygol sydd ag arbenigeddau ar draws ystod o feysydd yn cynnwys:

  • Nyrsio
  • Radioleg
  • Ffisioleg
  • Anatomeg
  • Pediatreg
  • Dadansoddi Fferyllol
  • Ffisioleg ar gyfer Anesthesia
  • Gynaecoleg
  • Meddygaeth adsefydlu
  • Llawdriniaeth wrolegol
  • Meddygaeth fewnol: Arenneg
  • Clefyd heintus / Clefyd yr afu

Trosolwg o’r rhaglen dysgu

Caiff elfennau a addysgir y rhaglen eu harwain gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae’r rhaglen yn dechrau gyda phythefnos o sesiynau iaith Saesneg pwrpasol er mwyn datblygu sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu sy’n berthnasol i weddill y rhaglen addysgu.

Rhoddir cyfleoedd arsylwi amrywiol i hyfforddeion hefyd sy’n berthnasol i’w disgyblaethau arbenigol eu hunain. Mae’r rhain yn cynnwys darlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach a sesiynau lle caiff myfyrwyr eu hasesu.

Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i gynnig:

  • dealltwriaeth gadarn o agweddau o ddull dysgu, addysgu ac arferion addysgeg Prifysgol Caerdydd ar draws ystod o ddisgyblaethau (yn dibynnu ar ofynion y cleient)
  • dealltwriaeth o amrywiaeth o strategaethau addysgu a sut y gellir defnyddio technolegau arloesol i gefnogi dysgu ac addysgu
  • mwy o ymwybyddiaeth o sut y defnyddir arferion cynhwysol i gefnogi anghenion amrywiol myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd
  • dealltwriaeth o ddylunio cwricwlwm a’i berthynas ag asesu er mwyn cefnogi cynnydd ac ymgysylltiad myfyrwyr
  • sgiliau i fyfyrio ar arfer proffesiynol o ran addysgu.

Ceir dau fodiwl craidd o fewn y Rhaglen Arferion Addysgu Arloesol. Ochr yn ochr â’r modiwlau hyn, mae gan hyfforddeion y cyfle i arsylwi darlithoedd Prifysgol Caerdydd yn eu disgyblaethau eu hunain trwy gydol y rhaglen. Caiff y profiadau hyn eu cyfuno â seiliau damcaniaethol a myfyrir arnynt drwy brofiadau dysgu sgyrsiol.

Modiwl 1: Dysgu, addysgu ac arferion addysgeg ym maes Addysg Uwch

Yn y modiwl hwn, mae hyfforddeion yn archwilio ystod o strategaethau dysgu ac addysgu: yn benodol, y defnydd o dechnolegau arloesol i gefnogi dysgu ac addysgu; arferion cynhwysol i gefnogi anghenion amrywiol myfyrwyr; ystyried y broses o ddylunio’r cwricwlwm, gan gynnwys natur a ffyrdd o asesu er mwyn cefnogi cynnydd ac ymgysylltiad; a llais myfyrwyr, gan gynnwys ymgysylltu â myfyrwyr fel partneriaid wrth ddylunio a chyflwyno’r cwricwlwm.

Modiwl 2: Cyflwyno achos a myfyrdodau ar arferion

Mae’r modiwl hwn, sy’n cynnig y cyfle i arsylwi addysgu grŵp bach, grŵp mawr ac asesu o fewn disgyblaethau perthnasol, yn galluogi hyfforddeion i ddatblygu achosion gan ddefnyddio seiliau damcaniaethol a myfyrdodau ar arferion drwy brofiadau dysgu sgyrsiol.

Ochr yn ochr â’r modiwlau hyn, mae gan hyfforddeion y cyfle i arsylwi darlithoedd Prifysgol Caerdydd yn eu disgyblaethau eu hunain trwy gydol y rhaglen. Caiff y profiadau hyn eu cyfuno â seiliau damcaniaethol a myfyrir arnynt drwy brofiadau dysgu sgyrsiol.

Modiwlau ychwanegol

Rydym yn gweithio’n agos â’r cleient i nodi a chyflwyno modiwlau neu feysydd astudio newydd. Er enghraifft, roedd un o’r rhaglenni’n cynnwys trydydd modiwl ar gyfer y cynadleddwyr hynny mewn rôl arweiniol yn eu prifysgol eu hunain.

Modiwl 3 - Arweinyddiaeth Dysgu ac Addysgu ym maes Addysg Uwch

Cafodd y modiwl hwn ei ddylunio ar gyfer aelodau o’r rhaglen sydd â/sy’n dyheu am rolau arweinyddiaeth o fewn dysgu ac addysgu. Roedd yn archwilio’r heriau sy’n gysylltiedig ag ymgymryd â rôl arwain addysgu mewn cyd-destun academaidd. Roedd y modiwl hefyd yn archwilio safbwyntiau ar arweinyddiaeth, ac yn ystyried yr heriau sy’n gysylltiedig ag arwain gyda dylanwad mewn cyd-destun academaidd.

Sesiynau iaith Saesneg

Mae’r pythefnos o sesiynau iaith Saesneg dwys yn chwarae rhan hanfodol wrth alluogi hyfforddeion i addasu i amgylchedd ieithyddol a diwylliannol newydd, tra’n datblygu hyder i gyfathrebu’n effeithiol yn Saesneg. Ar ôl hyn, cynhelir sesiynau cefnogi iaith Saesneg ddwywaith yr wythnos a thiwtorialau un-i-un er mwyn cynnig cefnogaeth ychwanegol.

Mae cynnwys y sesiynau wedi’u cynllunio’n ofalus er mwyn galluogi hyfforddeion i ymarfer sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu sy’n berthnasol i ofynion y Rhaglen Arferion Addysgu Arloesol. Mae’r sesiynau wedi’u dylunio i baratoi hyfforddeion ar gyfer y modiwlau addysgu trwy gynnwys pynciau perthnasol.

Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio iaith fyfyriol, trafod materion sy’n ymwneud ag addysgu, sgiliau cyflwyno, a defnyddio iaith i gyflwyno dadl neu i amddiffyn syniadau.

Sesiwn wybodaeth

Mae ein sesiwn wybodaeth yn rhoi mynediad a chyfleoedd i’n hyfforddeion rwydweithio gyda’r tîm rheoli a’r gwasanaethau cymorth dysgu i fyfyrwyr sy’n gyfrifol am greu amgylchedd o ragoriaeth dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gweithgareddau diwylliannol ac addysgol

Mae gan yr hyfforddeion y cyfle hefyd i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau diwylliannol a theithiau trwy gydol eu hamser yng Nghymru. Mae uchafbwyntiau rhaglenni diweddar yn cynnwys:

  • taith gerdded/bws o amgylch Prifysgol Caerdydd a chanol y ddinas
  • taith o amgylch Castell Caerdydd
  • ymweliad â Thredegar i archwilio hanes arbennig Cymru gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’i gysylltiadau ag Aneurin Bevan, AS Llafur a sylfaenydd y GIG
  • darlith am waith curadu ac ymweliad ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
  • sioeau theatr yn Theatr y Sherman
  • taith o amgylch Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Big Pit
  • taith o amgylch Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd
  • taith o amgylch y Senedd, prif adeilad cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • gêm rygbi rhyngwladol yr hydref
  • taith blasu bwyd Caerdydd
  • gêm hoci iâ Devils Caerdydd
  • taith Nadoligaidd o amgylch Tŷ Tredegar
  • taith o amgylch Labordy Mellt Morgan-Botti Prifysgol Caerdydd
  • ymweliad â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
  • taith o amgylch Academi Meddalwedd Cenedlaethol Prifysgol Caerdydd
  • ymweliad ag Ysgol Gynradd Heol Albany
  • ymweliad â Labordai Gweithgynhyrchu Ychwanegion.

Uchafbwyntiau’r rhaglen

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • caiff dadansoddiad o anghenion hyfforddiant cyn y cwrs ei ebostio at yr holl gynadleddwyr, ac mae’r ymateb yn helpu i lywio’r rhaglen
  • caiff pecyn croeso ar-lein ei gyflwyno i’r holl gynadleddwyr wythnos cyn iddynt gyrraedd Caerdydd Mae’r pecyn yn cynnwys eu hamserlen addysgol llawn, gwybodaeth am eu llety a’r cyfleusterau sydd ar gael iddynt yn y Brifysgol yn ogystal â chanllaw manwl o’r ddinas
  • cynhelir cyfarfodydd monitro cyson rhwng tîm prosiect y Brifysgol ac arweinwyr y cynadleddwyr
  • anfonir adolygiad 6 wythnos i’r cynadleddwyr hanner ffordd drwy’r rhaglen, a holiadur terfynol cyn i’r rhaglen ddod i ben
  • cinio croeso
  • seremoni tystysgrifau ffurfiol; cyflwynir rhoddion i’r cynadleddwyr gan y Brifysgol hefyd, yn coffáu eu rhaglen hyfforddi a’u harhosiad tri mis yng Nghymru.

Canlyniadau ac effaith

Ceir asesiadau trwy gydol y rhaglen hon, sydd wedi’u dylunio mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dysgu ac ymgysylltiad y myfyrwyr Mae asesiadau ffurfiannol yn cefnogi gwaith dysgu a myfyrio, a rhoddir adborth ffurfiannol er mwyn cefnogi cynadleddwyr i nodi eu cryfderau a’u meysydd i’w datblygu. Caiff sesiynau paratoi, tiwtorialau cymorth a sesiynau astudio pwrpasol eu hymgorffori yn y rhaglen i gefnogi’r asesiadau hyn.

Modiwl 1: Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gweithio ar adrannau datblygu ceisiadau am gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (HEA) sy’n gofyn am fyfyrio parhaus a chadw cofnodion trwy gydol y rhaglen

Modiwl 2: Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn datblygu poster academaidd ac yn rhoi cyflwyniad cysylltiedig ar bwnc o’u dewis, sy’n canolbwyntio ar arferion addysgu a dysgu. Caiff hyn ei ystyried a’i gyflwyno ar boster ochr yn ochr â chyflwyniad 10 munud yn Saesneg.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, cyflwynir tystysgrif presenoldeb i’r cynadleddwyr.

Cysylltiadau a ddatblygwyd

Rydym wedi cadw mewn cysylltiad â’r cynadleddwyr ac wedi eu holi i gael rhagor o wybodaeth am y ffyrdd y maent wedi ymgorffori’u dysgu yn eu hymarfer.

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi siarad â ni am sut y gallem ni ddylunio a chyflwyno rhaglen debyg mewn cydweithrediad â’ch sefydliad, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar am drafodaeth anffurfiol gychwynnol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus