Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Gweminarau Oncoleg Gymunedol wedi'i chreu a'i chyflwyno yn ystod COVID-19

Rhaglen o 6 gweminar a grëwyd yn ystod pandemig COVID-19 i ddarparu DPP am ddim i weithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol.

Y ddarpariaeth bresennol

Mae'r tîm Gofal Lliniarol yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol wedi bod yn cyflwyno cyrsiau byr effeithiol ers sawl blwyddyn. Mae'r tîm, gyda chefnogaeth yr Uned DPP, wedi creu cyfres o gyrsiau DPP a modiwlau lefel ôl-raddedig annibynnol mewn agweddau ar ofal lliniarol a diwedd oes. Mae yna hefyd MSc mewn Meddygaeth Liniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol.

Sefydlwyd y cwrs Oncoleg Gymunedol yn 2019 fel sesiwn wyneb yn wyneb 1 diwrnod o hyd, wedi'i gynllunio i ddarparu'r adnoddau mwyaf diweddar ar gyfer meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol. Roedd y sesiwn yn boblogaidd iawn ac yn wreiddiol roedd i fod i gael ei gynnal eto yn 2020. Bu'n rhaid canslo hyn wrth i dimau gofal iechyd lleol baratoi ar gyfer gwasanaethau yn ystod y cyfnod clo a'r pandemig.

Mae cyrhaeddiad ac effaith y gyfres gweminar Oncoleg Gymunedol wedi bod yn hyfryd. Rydyn ni wrth ein bodd bod y sesiynau wedi bod yn ddefnyddiol i'r mynychwyr a'u bod yn bwriadu defnyddio sgiliau a gwybodaeth a gafwyd o'r rhaglen hon yn eu harferion. Rydym yn falch iawn o'r gweminarau hyn sydd o ansawdd uchel ac mae'r adborth hwn yn dangos y bydd ganddynt fudd gwirioneddol i gleifion yn y gymuned.
Yr Athro Fiona Rawlinson Course Director

Y tîm

Yr Athro Fiona Rawlinson

Yr Athro Fiona Rawlinson

Course Director

Email
rawlinsonf@caerdydd.ac.uk
Telephone
02922510739
Dr Mike Button

Dr Mick Button

Consultant Oncologist, Velindre Cancer Centre

Charlotte Stephenson

Charlotte Stephenson

Development Officer – College of Biomedical and Life Sciences

Email
stephensoncj1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9119
Dr Elise Lang

Dr Elise Lang

Macmillan GP, Velindre Cancer Centre

Mae ansawdd a phrofiad siaradwyr wedi bod yn hynod werthfawr i ofal sylfaenol. Roedd arddull cyflwyno sgyrsiol y sesiynau yn caniatáu i drafodaethau ystyrlon ddigwydd rhwng gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol o sbectrwm eang o brofiad.
Dr Elise Lang, Meddyg Teulu Macmillan, Gogledd Caerdydd

Effaith COVID-19

Ar ôl dechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020 bu newidiadau angenrheidiol i'r broses o ddarparu gofal iechyd, gan gynnwys gofal sylfaenol ac oncoleg, i amddiffyn y GIG rhag niferoedd llethol o gleifion o ganlyniad i COVID-19.  Cynyddodd gofynion iechyd y boblogaeth leol o ganlyniad i'r newidiadau parhaus a gafwyd yn ystod y pandemig ac i'r broses o ddarparu gwasanaeth.

Mae effaith y pandemig ar reoli cyflyrau iechyd cronig a chanser wedi bod yn amlwg – gyda chleifion canser newydd yn amharod i ofyn am gyngor a diagnosis, ac opsiynau darparu triniaeth yn newid.

Disgwylir i nifer bosibl y cleifion canser gynyddu wrth i'r pandemig leddfu, ac mae ystadegau yn tystio i hyn eisoes.  Mae mynediad at ofal iechyd wedi dod yn fwy cymhleth, a newidiodd trefniadau lleol ar gyfer addysg a chefnogaeth yn fawr gydag diffyg absenoldeb astudio, llwyth gwaith cynyddol, a phellter cymdeithasol yn ei gwneud hi'n anymarferol i addysgu wyneb yn wyneb.

Arweiniodd diddordeb y cyfryngau mewn gofal iechyd, gan gynnwys mynediad yn gyffredinol a rheoli canser yn benodol, at geisiadau am gefnogaeth ac addysg gan gydweithwyr.

Yr ateb

Gan ymateb i'r angen brys am gefnogaeth mewn gofal sylfaenol ar gyfer diagnosio a rheoli canser sy'n deillio o bandemig COVID 19, cyflwynodd grŵp cydweithredol bum gweminar amser cinio ar bynciau oncoleg gymunedol.

Mae'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol (LlC 2021) yn pwysleisio'r angen am fwy o gydweithio rhwng timau gofal sylfaenol ac eilaidd.  Gall rhaglenni addysg fel hyn gefnogi cydweithredu o'r fath, gan wella ymwybyddiaeth timau gofal sylfaenol ynghylch diagnosis, triniaeth a sut mae gofal yn cael ei drefnu / darparu a all yn ei dro gefnogi gwell gofal clinigol, gan gynnwys diagnosis cynharach a rheoli problemau brys sy'n gysylltiedig â chanser.

Roedd y tîm Oncoleg Gymunedol yn ymwybodol iawn bod y gynulleidfa darged yn cynnwys gweithwyr rheng flaen a oedd dan bwysau aruthrol oherwydd COVID-19 ac nad oedd ganddynt lawer o amser ar gyfer hyfforddiant DPP; fodd bynnag, roedd y tîm hefyd yn awyddus iawn i ddarparu adnodd am ddim er mwyn cefnogi staff.

Yn ogystal, gan fod nifer yr atgyfeiriadau oherwydd canser wedi gostwng yn ddiweddar (gan fod llai o gleifion yn rhoi gwybod am symptomau yn ystod y pandemig) roedd yn amlwg bod angen brys i gefnogi timau gofal iechyd sylfaenol i reoli cleifion oncoleg yn y gymuned.

Defnyddiodd y tîm Gofal Lliniarol cyfunol ei arbenigedd i ddatblygu sesiynau datblygiad proffesiynol ar-lein a oedd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a oedd angen hyfforddiant ar wneud diagnosis a rheoli canser yn y gymuned.

Mae wedi bod yn hyfryd gweld niferoedd mor uchel ar gyfer recordiadau o'r sesiynau gweminar. Mae'n wych gwybod bod cydweithwyr yn gallu cael gafael ar y cynnwys ar adeg sy'n addas iddyn nhw, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gallu mynychu'r sesiynau byw. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu darparu'r adnodd rhad ac am ddim hwn ar adeg mor heriol i weithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol a chleifion yn y gymuned.
Dr Mike Button, Oncolegydd Ymgynghorol, Canolfan Ganser Felindre

Y rhaglen

Roedd y rhaglen yn ymdrin â 5 pwnc allweddol mewn Oncoleg Gymunedol, gyda chweched sesiwn yn cael ei darparu fel rhan o Ysgol Gwanwyn yr Uned DPP Ar-lein:

  • Canserau GI
  • Canser yr ysgyfaint
  • Canserau o darddiad anhysbys
  • Canserau'r croen
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Canser mewn geriatreg (wedi'i ddarparu fel rhan o Ysgol Gwanwyn yr Uned DPP Ar-lein)

Ystyriodd pob sesiwn sut i ddiagnosio a rheoli'r canser dan sylw; roedd y sesiynau'n anffurfiol ac yn rhyngweithiol, ac yn defnyddio nodweddion fel arolygon cynulleidfa, sesiynau Holi ac Ateb a sgyrsiau; rhannwyd gwybodaeth rhwng y mynychwyr yn ogystal â gwybodaeth gan y panel arbenigwyr, gan ganiatáu i ni gynnal trafodaethau werthfawr yn seiliedig ar ymarfer.

  • 92 (GI session)
  • 100 (Lung session)
  • 84 (Skin session)

Mae dadansoddiad pellach o'r ystadegau'n dangos mai'r sesiynau mwyaf poblogaidd yw GI a chanserau'r croen, a chanserau o darddiad anhysbys.

Gwnaethom gynnal arolygon effaith 11 wythnos ar ôl i'r hyfforddiant gwblhau, ac mae'r canlyniadau'n dangos yn glir bod cyfranogwyr yn dal i ddefnyddio'r gwaith dysgu bron i 3 mis yn ddiweddarach.  Felly, mae'r dystiolaeth a gasglwyd yn dangos y gall DPP o ansawdd uchel fel y gyfres gweminar oncoleg hon uwchsgilio a gwella arferion timau gofal sylfaenol.

Adborth

Cwrs gwych sy'n helpu i gael gafael ar ddiweddariadau a datblygiadau mewn gofal canser. Mae'n hygyrch, yn addysgiadol ac yn gynhwysol o'r newidiadau a'r heriau sy'n wynebu gofal sylfaenol ac eilaidd ar hyn o bryd. Byddwn yn argymell hyn yn fawr i unrhyw glinigwr ar gyfer dysgu DPP neu wella gwybodaeth yn gyffredinol ym maes gofal canser.
Fiona Morse (Thornhill - Canolfan Feddygol Gogledd Caerdydd) Arweinydd Tîm Nyrsio / Uwch Nyrs Ymarfer

Diolch. Rwyf wrth fy modd â'r cyfle i fynychu gweminarau dysgu rhithwir na fyddwn wedi gallu eu mynychu yn bersonol oherwydd pellter o'r digwyddiad.
Cynrychiolydd anhysbys

Roedd y ddau siaradwr yn ennyn diddordeb a chyflwynwyd eu pwnc mewn ffordd a oedd yn berthnasol iawn i'm rôl fel meddyg teulu. Diolch yn fawr am sesiwn ddefnyddiol ac addysgiadol iawn.
Cynrychiolydd anhysbys (sesiwn canser y croen)

Sesiwn ardderchog, fel y mae rhai blaenorol wedi bod. Mae'n bwysig iawn eich bod wedi sicrhau eu bod ar gael ar YouTube – rwy'n elwa'n fawr o'u gwylio eto, neu os ydw i'n gweithio, yn gallu dal i fyny arnynt yn nes ymlaen. Mae'n ddefnyddiol iawn i bobl nad ydynt yn arbenigwyr allu nodi ac adnabod symptomau ac arwyddion mewn cleifion yn gynnar.
Cynrychiolydd anhysbys (sesiwn canser y croen)

Cysylltwch â ni

Os hoffech ddarganfod mwy am gyrsiau a gweithgareddau DPP ym maes oncoleg gymunedol, gofal lliniarol a diwedd oes, neu feysydd eraill meddygaeth a gofal iechyd, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm cyfeillgar:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus