Ewch i’r prif gynnwys

Cymdeithas Gwneuthurwyr Cydrannau Modurol India (ACMA)

ACMA delegates
ACMA delegates attending CPD programme.

Bu i adran Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd greu a darparu cwrs gweithredol wythnos o hyd i gwnselwyr a swyddogion gweithredol ACMA o ddiwydiant moduron India. Roedd y cwrs yn canolbwyntio ar ddulliau di-wastraff, gwella ansawdd a chynhyrchedd, arweinyddiaeth ac arloesedd.

Yn dilyn cyflawniad llwyddiannus y rhaglen beilot, darparodd Addysg Weithredol rhaglen ychwanegol yn ymchwilio i ddadansoddi data, wnaeth helpu'r rhai oedd yno i ddeall sut y gall mwy o wybodaeth yn y maes hwn fod yn fanteisiol i'r Sector Cerbydau Modur yn India.

Cefndir

Ym mis Ionawr 2017, dychwelodd academyddion o Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd o India, ar ôl llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chymdeithas Gwneuthurwyr Cydrannau Cerbydau Modur India (ACMA). Mae'r memorandwm, gafodd ei lofnodi gan yr Athro Wells a Mr Dinesh Vedpathak o ACMA, yn galluogi Ysgol Busnes Caerdydd i barhau â'i hymchwil ar y cyd â Sector Modurol India, a chynnig hyfforddiant a mentora i adran reoli ACMA.

Y cleient

ACMA yw'r prif gorff sy’n cynrychioli buddiannau Diwydiant Cydrannau Modurol India. Mae’r 750+ o wneuthurwyr sy’n aelodau ohoni'n cyfrannu at dros 85% o drosiant y diwydiant cydrannau ceir yn y sector trefnus.

Eu siarter yw datblygu Diwydiant Cydrannau Modurol India i fod yn gystadleuol yn fyd-eang, ac i gryfhau ei rôl yn natblygiad economaidd y wlad a hyrwyddo busnes drwy bartneriaethau rhyngwladol.

Mae ACMA wedi chwarae rhan hollbwysig o ran twf a datblygiad y diwydiant cydrannau modurol yn India. Mae ei rôl weithredol wrth hyrwyddo masnach, gwella technoleg ac ansawdd, a chasglu a rhannu gwybodaeth wedi golygu ei bod yn gatalydd hollbwysig i ddatblygiad y diwydiant hwn.

Y rhaglenni

Roedd 14 o bobl o Tej Industries, IP Rings Ltd, Fairfield Atlas Limited, JK Fenner (India) Ltd, Wheels India Ltd ac ACMA yn bresennol ar y daith astudio Rhagoriaeth Gweithredol. Roedd yn cynnwys pum diwrnod o ddysgu, ac roedd pob diwrnod wedi'i drefnu er mwyn rhoi'r arbenigedd oedd ei angen ar gwmnïau yn y sector i fynd y tu hwnt i'r materion rheolaeth brys, a datblygu strategaeth tymor hirach i ymdopi â'r newidiadau mawr oedd yn ymledu ar draws y diwydiant. Trafodwyd elfennau hanfodol sefydliadau llwyddiannus, a sut y gall cynadleddwyr greu diwylliant i gefnogi mentrau Rhagoriaeth Gweithredol gweithwyr.

Ymhlith y meysydd yr aethpwyd i'r afael â hwy oedd Lean Six Sigma, ymarferion blaengar, profiadau ymarferol a chyfuno dull Gwasanaeth Di-wastraff â dull creu Di-wastraff. Cafodd pawb oedd yno gyfle hefyd i ymweld â Chanolfan Ragoriaeth Gweithgynhyrchu Sony a ffatri MINI Rhydychen.

Yn dilyn y daith astudio Rhagoriaeth Gweithredol llwyddiannus, creodd yr adran Addysg Weithredol raglen arall bythefnos o hyd ar Weithgynhyrchu Clyfar drwy Ddadansoddi Data. Roedd hyn yn cyfuno arbenigedd damcaniaethol yr Ysgol Busnes â rhagolygon ymarferol ar ddefnyddio dadansoddiadau data'n llwyddiannus. Roedd yn rhyngddisgyblaethol o ran dull, gan gynnwys darlithwyr gwadd o'r Ysgol Peirianneg a Chyfrifiadureg. Ymhlith y pynciau a drafodwyd oedd Gweithgynhyrchu Clyfar a rôl Dadansoddeg Data, Dadansoddeg Disgrifiadol ac Adeiladu Cysylltiadau Masnach rhwng Cymru ac India. Roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau gyda siaradwyr gwadd, a theithiau i Nwy Prydain a Protolabs.

Rhagor o wybodaeth

Diwydiant Cydrannau Modurol India yw un o brif yrwyr twf economaidd India. Mae'r diwydiant cydrannau modurol datblygedig yn India yn gweithgynhyrchu ystod eang o gynnyrch gan gynnwys rhannau injan, rhannau trosglwyddo gyrru a llywio, corff a'r ffrâm, rhannau atal a brecio, offer a rhannau trydanol.

Yn ystod blwyddyn ariannol 2015/16, cofrestrodd diwydiant cydrannau modurol India drosiant o 2,55,635 crore (39 biliwn USD). Roedd hyn yn gynnydd o 8.8%, ac yn uwch na tharged y Cynllun Cenhadaeth Modurol ar gyfer 2006-16. Mewn cyfnod pan oedd allforio cyffredinol yn India 9.58% yn is, tyfodd allforio'r diwydiant cydrannau modurol yn India 3.5%.

Mae'r berthynas ag ACMA yn parhau i ddatblygu a diolch i'r profiad dysgu positif a gawsant wrth ymweld â Chaerdydd (y maent yn eu cyfuno gydag amrywiaeth o ymweliadau diwylliannol!), maent yn edrych ymlaen at ddatblygu rhagor o raglenni gyda ni.

The whole Programme was nicely planned and executed. The mix of theory and plant visits was appropriate. Sony and MINI plant tours were great learning. It was a very well managed programme, thanks to ACMA and Cardiff.

Sarabjeet Singh

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni am sut y gallem ni baratoi a chyflwyno rhaglen debyg mewn cydweithrediad â'ch sefydliad, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar yn yr Uned DPP am drafodaeth anffurfiol gychwynnol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus