Ewch i’r prif gynnwys

Hanfodion yng nghwrs Meddygaeth Liniarol a gyflwynir i feddygon teulu ledled Gibraltar, gan gydweithio â Gibraltar Health Authority, Cancer Relief a City Hospice.

Mae tîm Gofal Lliniarol y Brifysgol wedi cyflwyno tri diwrnod o hyfforddiant proffesiynol i feddygon teulu yn Gibraltar, fel rhan o gydweithrediad ffurfiol gydag Awdurdod Iechyd Gibraltar, Cancer Relief a City Hospice er mwyn cynyddu'r adnoddau sydd ar gael i wasanaethau gofal lliniarol. Gofynnodd Gweinyddiaeth Iechyd Gibraltar i'r tîm Gofal Lliniarol gyflwyno'r hyfforddiant.

Cefndir

Mae City Hospice, tîm gofal lliniarol y gymuned leol yng Nghaerdydd, wedi gefeillio â phrif leoliad gofal lliniarol Gibraltar, Ysbyty St Bernard, er mwyn cynyddu sgiliau a gwybodaeth yn y maes allweddol hwn o feddygaeth. Cymerodd tîm Gofal Lliniarol y Brifysgol, a arweinir gan Fiona Rawlinson, ran yn y cydweithrediad hwn gyda'r nod o gefnogi addysg i feddygon teulu yn Gibraltar.

Mae angen cynyddu sgiliau gofal lliniarol pob gweithiwr iechyd gofal proffesiynol er mwyn mynd i'r afael â'r morbidrwydd a'r marwoldeb cynyddol mewn cyflyrau na ellir eu gwella – nid ydynt yn gyfyngedig i ganser mwyach, ond yn cwmpasu dementia, cyflyrau resbiradol diwedd oes a chyflyrau cardiaidd diwedd oes. Mae hefyd yn angenrheidiol i ddatblygu systemau sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd gofal a diwylliant mewn timau – yn enwedig yn y maes hwn o ofal iechyd.

Cyflwyniad gwych ar faterion cymhleth, sy'n gymwys i'n harferion ein hun, felly mae'n ddefnyddiol ond mae hefyd yn rhannu syniadau felly mae'n werthfawr. DIOLCH.

Cyfranogwr yn mynd i hyfforddiant DPP Gofal Lliniarol

Diwrnod da iawn a hyfforddiant pwysig! Amrywiaeth dda o gynnwys o agweddau meddygol cymhleth hyd at bwyntiau emosiynol ac ymarferol. Diolch!

Cyfranogwr yn mynd i hyfforddiant DPP Gofal Lliniarol

Y rhaglen

Mae gan y Brifysgol hanes dros 10 mlynedd o gyflwyno addysg gofal lliniarol effeithiol ar draws ystod o gyrsiau Datblygu Proffesiynol Parhaus byr.  Datblygodd y tîm cyflwyno MSc/Diploma gwrs DPP Diweddaru Gofal Lliniarol mewn ymateb i forbidrwydd a marwoldeb cynyddol mewn cyflyrau na ellir eu gwella. Mae'n cynnig sylfaen da mewn meddygaeth a gofal lliniarol, gan gynnwys canser, dementia, cyflyrau resbiradol diwedd oes a chyflyrau cardiaidd diwedd oes.

Mae Hanfodion mewn Meddygaeth Liniarol yn gwrs newydd, sy’n seiliedig ar gwrs llwyddiannus Diweddaru Gofal Lliniarol ac yn enghraifft o bortffolio cynyddol o hyfforddiant ar ofal lliniarol a gynigir yn y Brifysgol. Cyflwynwyd y cwrs i feddygon teulu a gweithwyr proffesiynol eraill o'r tîm amlddisgyblaethol sy'n ymwneud â gofal lliniarol i gleifion yn Gibraltar.

Cynhaliwyd y cwrs diwrnod o hyd dair gwaith, er mwyn cynnig y nifer mwyaf o gyfleoedd i glinigwyr a gweithwyr iechyd gofal proffesiynol gymryd rhan ynddo. Cafodd pob meddyg teulu ledled Gibraltar y cyfle i gymryd rhan.

Cyflwynwyd y cwrs gan Dr Fiona Rawlinson a Dr Margred Capel o City Hospice.  Dyluniwyd yr addysgu i fod yn rhyngweithiol, yn seiliedig ar achosion a chanolbwyntio ar waith clinigol er mwyn trawsnewid arferion gofal lliniarol, gyda phwyslais ar arferion myfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus.

Anogwyd y rhai presennol i gyfrannu datganiadau effaith unigol at feysydd y maent am eu datblygu, a datganiadau ar sut maent yn bwriadu datblygu gwybodaeth eu tîm a rhannu arferion. Bydd y sesiwn ar gyfer gwella agwedd ar y ddarpariaeth o ofal lliniarol yn y tîm neu'r lleoliad o fudd i wasanaethau clinigol ac yn galluogi’r cyfranogion i roi newidiadau cadarnhaol ar waith.

Canlyniadau a gwerthuso

Dyluniwyd y cwrs i hybu gwybodaeth a hyder clinigwr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran gofalu am gleifion sydd ag anghenion gofal lliniarol, yn ogystal â'u sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys gweithio gyda theuluoedd y cleifion.

Pwnc cymhleth iawn, hoffem barhau i'w astudio ac atgyfnerthi ein gwybodaeth, ein dealltwriaeth a’n sgiliau.

Cyfranogwr yn mynd i hyfforddiant DPP Gofal Lliniarol

Tynnwyd sylw'n briodol at y ffaith nad yw un maint yn addas i bawb, ond pa mor bwysig yw cydnabod y claf a/neu ei deulu a chyfathrebu â nhw.

Cyfranogwr yn mynd i hyfforddiant DPP Gofal Lliniarol

Camau nesaf

Rydym yn y broses o adolygi'r rhaglen gan fwriadu creu model llwyddiannus er mwyn ei gyflwyno i gynfyfyrwyr rhyngwladol eraill.

Cysylltwch â ni

Os hoffech drafod sut gallem weithio gyda'ch sefydliad i greu rhaglen ddatblygu broffesiynol bwrpasol neu sydd wedi'i theilwra, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar yn:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus