Ewch i’r prif gynnwys

Ymsefydlu Arloesedd yng nghwmni Dŵr Cymru

Cynrychiolwyr o Welsh Water Dŵr Cymru.
Cynrychiolwyr o Welsh Water Dŵr Cymru.

Gweithiodd Dŵr Cymru gyda ni i ddatblygu adnoddau arloesi ar draws eu sefydliad. Y canlyniad oedd rhaglen arloesol sydd wedi cynhyrchu buddiannau ar unwaith ac ar gyfer y tymor hir.

Y gofynion

Gyda’i fodel nid-er-elw unigryw yn y sector cyfleustodau mae Dŵr Cymru yn darparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff hanfodol i dros dair miliwn o bobl ar draws llawer o Gymru, swydd Henffordd a Glannau Dyfrdwy. Y cwsmeriaid sy’n berchen ar Ddŵr Cymru gan olygu bod arloesedd yn hanfodol i leihau costau, cyfyngu ar yr effaith ar yr amgylchedd, a lleihau peryglon.

Nod y cwmni yw cynhyrchu tua 25% o’i anghenion ynni erbyn 2020. Bydd hyn yn dibynnu ar wneud buddsoddiad enfawr mewn technoleg newydd a gwneud defnydd effeithiol o arloesedd yn agos i’r farchnad.

Yr atebion

Cafodd y rhaglen Ymsefydlu Arloesedd ar gyfer Dŵr Cymru ei llunio fel ail ran mewn rhaglen ehangach a grëwyd yn benodol ar gyfer y cwmni. Canolbwyntiodd y rhan gyntaf ar ymsefydlu arloesedd er mwyn gwella effeithlonrwydd; yn y rhaglen hon, fe wnaethom gyfuno’r egwyddor hon â chyfarpar effeithiol er mwyn rhaeadru dysgu a helpu i greu diwylliant o arloesedd ar draws y sefydliad.

Cafodd y Rhaglen Ymsefydlu Arloesedd 4 diwrnod o hyd ei chreu o amgylch sesiynau trosglwyddo gwybodaeth ac archwilio. Cyfunir y rhain â ffrydiau gwaith ymarferol am arloesedd yn y prynhawn lle’r oedd cyfranogwyr yn gweithio ar gyflwyno gwelliannau gwirioneddol i’r cwmni. Fe wnaeth hyn hwyluso’r broses o ymgorffori cyfarpar a dulliau ar draws y sefydliad cyfan.

Fe wnaeth dull asesu cofnodion dysgu unigol, llyfrau gwaith Arloesedd! a chyflwyniadau alluogi’r rhai a gymerodd ran i atgyfnerthu eu dysgu ac ennill deg credid academaidd a allai gael eu defnyddio i gyfrannu at gymhwyster pellach.

Canlyniad

Fe wnaeth y rhaglen gynnig manteision ar unwaith ac atebion hirdymor i Ddŵr Cymru, gan alluogi rheolwyr o bob rhan o Ddŵr Cymru i gronni eu gwybodaeth, profi prosesau arloesi cyfredol ac, yng ngeiriau rheolwr Dŵr Gwastraff, “gwella sut rydym yn darganfod, asesu, prynu a chontractio ar gyfer arloesedd.”

Roedd gan y rhaglen fomentwm unigryw, yn datblygu syniadau o gysyniadau haniaethol, myfyrio ar sgyrsiau a phrofiad newydd er mwyn creu allbynnau ymarferol a gwirioneddol ar gyfer y sefydliad.

Roedd y prosiectau’n amrywio o ddatblygu cynhyrchion a phrosesau newydd ar gyfer adolygu gwallau mewn offer i archwilio’r diwylliant arloesedd mewnol a’r hyn sy’n newid ymddygiad. Erbyn hyn, mae’r Rhaglen Ymgorffori Arloesedd yn rhan allweddol o strategaeth arloesedd/pobl Dŵr Cymru.

Enghraifft o brosiect arloesedd

Roedd newid o ran rheoleiddio yn golygu fod rhaid i Ddŵr Cymru adolygu’r strategaeth cynnal a chadw cyfredol ar gyfer eu hidlyddion dŵr. Rhoddwyd pwyslais o’r newydd ar ansawdd y gwasanaeth yn hytrach nag edrych ar y prif feini prawf traddodiadol ar gyfer newid hidlyddion, sef oedran a dirywiad.

Datblygodd Geraint Long, a gymerodd ran yn y rhaglen, ffordd newydd o ddefnyddio data perfformiad sy’n cynnig rhaglen cynnal a chadw dreigl 20 mlynedd o hyd. Mae’r dull newydd o wella ansawdd erbyn hyn yn cael ei gyflwyno mewn meysydd eraill o Ddŵr Cymru.

Unwaith eto, mae gweithio gyda Dŵr Cymru wedi ein galluogi i fynd ar drywydd ein cenhadaeth Gwerth Cyhoeddus. Mae prinder dŵr yn her fyd-eang hynod arwyddocaol, felly cefais fodd i fyw yn gweithio gyda’r sefydliad nid-er-elw hwn i’w helpu i fod yn fwy arloesol. Mae gan y Brifysgol gysylltiadau eang gyda Dŵr Cymru, ac rydym yn gallu cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer lleoliadau gwaith yn ogystal ag ymchwil arloesol a chydweithredol. Unwaith eto, mae hyn yn dangos i ba raddau rydym yn gwerthfawrogi ein partneriaethau diwydiannol. Byddwn yn ceisio meithrin perthnasoedd cynhyrchiol yn rhan o’i raglenni addysg weithredol.

Erbyn y diwedd, roeddwn yn teimlo’n wahanol amdanaf fi fy hun, fy nhîm a’r sefydliad cyfan. Chwe mis yn ôl, mi faswn i wedi mynd ati i wneud fy ngwaith drwy ddilyn proses – Erbyn hyn, rwy’n mwynhau newid, cymryd amser i gamu yn ôl a chofio mynd â phobl ar y daith gyda mi, gan feddwl am sut mae newid yn effeithio arnyn nhw.

Cynrychiolydd, Dŵr Cymru

Rydym wedi bod yn fodlon dros ben ar ansawdd ac effaith rhaglen Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd. Fe wnaeth cyfadran arbenigol gyflwyno cwrs gwirioneddol unigryw oedd yn cynnig buddiannau i Ddŵr Cymru ar unwaith ac ar gyfer yr hirdymor - roedd staff llawn cymhelliant yn gweithio ar raglenni busnes arloesol y gellir eu trosglwyddo ar draws y sefydliad.

Cyn-bennaeth Talent, Dŵr Cymru

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi siarad â ni am sut gallem ni ddylunio a chyflwyno rhaglen debyg mewn cydweithrediad â'ch sefydliad, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar am drafodaeth anffurfiol gychwynnol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus