Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Arloesi a Rheoli Prifysgol Caerdydd

Rhaglen gynhwysfawr 13 wythnos ar gyfer cynrychiolwyr o lefel ganol i lefel staff uwch o brifysgol Tsieinëeg yn cael ei chyflwyno gan yr Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac Ysgol Busnes Caerdydd.

Cefndir partneriaeth

Mae gan y Brifysgol berthynas hirsefydlog â Tsieina, ac wedi meithrin nifer o gysylltiadau academaidd ffurfiol gyda hwy yn ogystal â chytundebau partneriaeth strategol gyda phrifysgolion ar draws y wlad ar gyfer ymchwil ar y cyd a chyfnewid myfyrwyr.

Yn ystod ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog Madam LIU Yandong i Gaerdydd ym mis Medi 2015, llofnodwyd memorandwm o ddealltwriaeth ar gyfer datblygu a chyflwyno rhaglen arweinyddiaeth.

Noddwyd hwn gan Gyngor Ysgoloriaethau Tsieina (CSC), sy’n cefnogi arweinwyr lefel ganol/uwch o brifysgolion Tsieinëeg. Mae CSC yn trefnu’r rhaglenni hyn yn flynyddol o amgylch y byd (mae digwyddiadau tebyg wedi’u trefnu yn flaenorol yng Nghanada a Singapore).

Mae’r Brifysgol wedi bod mewn partneriaeth â Chyngor Ysgoloriaethau Tsieina ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi helpu ysgolheigion symud ymlaen o astudiaethau ôl-raddedig i uwch-swyddi academaidd.

Cynadleddwyr

Yn ystod blwyddyn cyntaf y rhaglen, mynychodd 38 cynadleddwr y rhagln. Yn 2017, cynyddodd y nifer o gynadleddwyr i  52, acyn 2018, mynychodd 106 cynadleddwr o 83 prifysgol gwahanol. Dros gyfnod o tair blynedd, croesawodd y Brifysgol 112 o brifysgolion Tseina i Gaerdydd. Roedd y rhan fwyaf o gynadleddwyr yn gweithio ar lefel Dirprwy Gyfarwyddwr, yna Cyfarwyddwyr ac Is-Ddeoniaid.

Braslun o'r rhaglen dysgu

Rhedodd y rhaglen breswyl o fis Mehefin i fis Medi 2017.

Y thema ar gyfer y rhaglen oedd arweinyddiaeth a rheoli mewn cyd-destun prifysgol, gyda ffocws benodol ar arloesi. Roedd y rhaglen yn cynnwys:

  • sesiynau academaidd (darparwyd gan yr Ysgol Busnes)
  • sesiynau rheoli Prifysgol
  • sesiynau ‘Saesneg er mwyn Cyfathrebu’ ddwywaith yr wythnos
  • sesiynau tiwtorial prosiectau gwella yn arwain at gyflwyniadau terfynol yn ystod wythnos olaf y rhaglen
  • digwyddiadau rhwydweithio ac ymweliadau â chyfleusterau Prifysgol Caerdydd
  • ymweliadau â phrifysgolion lleol eraill gan gynnwys Prifysgol Bryste a Phrifysgol De Cymru
  • amser ymchwil unigol
  • ymweliadau i sefydliadau eraill fel Llywodraeth Cymru
  • sesiynau opsiynol wedi’u trefnu mewn ymateb i feysydd diddordeb a nodwyd gan y cynadleddwyr.

Uchafbwyntiau’r rhaglen

  • Ebostiwyd dadansoddiad hyfforddi cyn y cwrs i’r holl gynadleddwyr, ac fel wnaeth yr ymatebion helpu i lywio’r rhaglen.
  • Cyflwynwyd y cwrs yn gwbl ddwyieithog (Saesneg a Mandarin) gan ddehonglwr hynod fedrus oedd yn gweithio drwy gydol cyfnod y rhaglen, gan adeiladu perthynas ac enw da gyda’r cynadleddwyr.
  • Rhoddwyd pecyn croeso ar-lein dwyieithog i’r holl gynadleddwyr wythnos cyn iddynt gyrraedd yng Nghaerdydd. Roedd y pecyn yn cynnwys eu hamserlen addysgol llawn, gwybodaeth am eu llety a’r cyfleusterau ar gael iddynt ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal â chanllaw manwl o’r ddinas.
  • Cynhaliwyd cyfarfodydd monitro bob yn ail wythnos rhwng tîm prosiect Prifysgol Caerdydd ac arweinwyr y cynadleddwyr.
  • Anfonwyd adolygiad 6 wythnos i’r cynadleddwyr hanner ffordd drwy’r rhaglen, a holiadur terfynol cyn i’r rhaglen ddod i ben.
  • Cynhaliwyd cinio croeso yn un o fannau ciniawa ffurfiol trawiadol Prifysgol Caerdydd.
  • Fe wnaeth cinio ffarwel yng Nghastell hudolus Caerdydd ddarparu dathliad addas ar gyfer ymdrechion y cynadleddwyr yn ystod y rhaglen. Roedd y cinio yn cynnwys cyflwyno tystysgrifau a rhoi rhoddion gan gynnwys llyfr coffaol.

Canlyniadau ac effaith

Ar ddiwedd y rhaglen, fe wnaeth y cynadleddwyr gyflwyno ar brosiect gwella yr oedden nhw wedi gweithio arno yn ystod sesiynau tiwtorial y prosiect.

Fe wnaeth panel o staff Brifysgol Caerdydd gyflwyno adborth manwl i’r cynadleddwyr ar eu prosiectau gan gynnwys (on nid yn gyfyngedig i) pa mor dda oedd eu dealltwriaeth o faterion allweddol wedi’i gyfleu, eu dealltwriaeth o safbwyntiau rhanddeiliaid, ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella.

Roedd lefel y buddsoddiad a’r ymgysylltiad yn y prosiect a arddangoswyd gan y cynadleddwyr yn cael ei adlewyrchu yn yr adborth a ddarparwyd gan y panel. Ar gyfer un cynadleddwr penodol dywedodd y panel.

Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi’r problemau y gwnaethoch chi eu nodi fel rhan o’r newidiadau yn ogystal â’r pwyntiau cadarnhaol. Roedd rhai datrysiadau creadigol ac arloesol wedi’u rhoi ar waith i wella’r system yn y fframwaith llywodraethol cyfredol.

Adborth gan y panel

Datblygu cysylltiadau

Agwedd allweddol ar y rhaglen oedd sicrhau fod cynadleddwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a sefydliadau eraill. Fe wnaeth tîm y prosiect hwyluso cyfarfodydd rhwng cynadleddwyr a llu o adrannau gwahanol o fewn y brifysgol. Fe wnaeth digwyddiadau rhwydweithio hefyd chwarae rôl ganolog yn y rhaglen.

Adroddiad terfynol yn nodi effaith

Mae [cynrychiolwyr] yn cynnal cyfnewidiadau rhyngwladol addysgol ac academaidd ar y cyd a chysylltiadau eraill [o Brifysgol Caerdydd].

Adborth gan gynrychiolwr, rhaglen 2018

Ar ôl dychwelyd adref, rhannais fy mhrofiad astudio tri mis gyda thua 100 o fy nghydweithwyr. O ran rheolaeth addysg arloesedd ac entrepreneuriaeth, rwy'n fwy parod i gydweithredu â mentrau ac ystyried y berthynas rhwng trawsnewid cyflawniadau gwyddonol a thechnolegol ac addysg entrepreneuriaeth trwy gyfeirio at fodel Prifysgol Caerdydd.

Adborth gan gynrychiolwr, rhaglen 2018

Ar ôl gadael Caerdydd, fe wnaeth y cynadleddwyr roi adborth ar eu profiadau yn ystod y rhaglen. Pan ofynnwyd iddynt nodi’r pethau gorau am y rhaglen, dywedodd un cynadleddwr:

Roedd darlithwyr ac aelodau o staff yn gynnes a dibynadwy, yn pontio cyfathrebu. Diolch.

Adborth gan gynadleddwr

Defnyddiwyd sylwadau ac adborth i ysgrifennu adroddiad terfynol yn nodi effaith y rhaglen a bydd adborth pellach yn cael ei gasglu unwaith y bydd cynadleddwyr wedi bod yn ôl yn eu sefydliadau cartref am dri mis.

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi siarad â ni am sut y gallem ni ddylunio a chyflwyno rhaglen debyg mewn cydweithrediad â'ch sefydliad, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar am drafodaeth anffurfiol gychwynnol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus