Ymsefydlu ac ymrestru ôl-raddedig
Fel myfyriwr ôl-raddedig, bydd angen i chi fynychu digwyddiadau ymsefydlu ar gyfer eich rhaglen astudio yn yr Ysgol.
Mae rhaglenni ymsefydlu ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y bydd gennym fwy o wybodaeth ynghylch pryd a ble y bydd eich cyfnod sefydlu yn yr ysgol yn cael ei gynnal.
Rydym wrthi’n llunio amserlenni ymsefydlu cyn i chi gyrraedd. Cewch ebost pan fydd y rhain ar gael. Cadwch olwg amdanynt!
Cyn dod i Gaerdydd ym mis Medi, rhaid i bob myfyriwr gwblhau cofrestriad ar-lein. Byddwn yn cysylltu â chi o gwmpas tair wythnos cyn dechrau eich rhaglen i roi gwybod bod y cofrestriad ar-lein ar agor.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar-lein, cysylltwch â'r tîm Cofrestru ar +44 (0) 29 2087 6211.