Dewch o hyd i’ch cymuned
Diweddarwyd ddiwethaf: 26/09/2024 12:47
P'un a ydych chi’n dod i Gaerdydd o bell neu agos, byddwch chi’n ymuno â chymuned lewyrchus.
Dewch o hyd i'ch cymuned
Mae ein cymuned gynhwysol yn amrywiol iawn ac yn cynnwys cyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol i fyfyrwyr ddod at ei gilydd drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Cymdeithasau a chlybiau chwaraeon
Waeth beth fo’ch diddordeb, fe gewch hyd i bobl o'r un anian yn 230 o gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr a’r 65 o dimau chwaraeon.
Mae Ffeiriau'r Glas yn gyfle gwych i bori drwy’r gwahanol gymdeithasau a siarad â myfyrwyr sy'n rhan ohonyn nhw.
Darganfod mwy am chwaraeon a hamdden.
Cofleidio’r Gymraeg a diwylliant Cymru
Mae sawl ffordd o fyw'n Gymraeg neu ymgolli yn yr iaith a'r diwylliant yn y brifysgol.
Gallwch hefyd ymuno â Changen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i wella eich sgiliau iaith Gymraeg a dysgu mwy am yr ysgoloriaethau sydd ar gael.
Lle i bawb
Mae astudio yng Nghaerdydd yn golygu eich bod yn rhan o gymuned sy'n meddwl am eich lles. Mae ein cymuned gynhwysol yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth:
- Caplaniaeth aml-ffydd ar gyfer myfyrwyr o bob ffydd neu ddim ffydd
- Canolfan Gofal Dydd ar gyfer myfyrwyr â phlant ifanc
- cefnogaeth gan gymheiriaid gyda myfyrwyr sydd wedi'u hyfforddi i roi cymorth ymarferol. Dewiswch y gefnogaeth i chi - myfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig, myfyrwyr LHDTC+, myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr anabl neu niwrowahanol
- digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol i gwrdd â chyd-fyfyrwyr a dod at eich gilydd drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Mae ein rhaglen Gyda'n gilydd yng Nghaerdydd yn rhoi cymorth i fyfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, wedi’u hymddieithrio, wedi bod yn y lluoedd arfog, yn ofalwyr ifanc neu'n chwilio am loches.
Ail-gartref i chi
Mae ein tîm Bywyd Preswyl yn cynnwys myfyrwyr a staff. Maen nhw’n cynnal gweithgareddau megis nosweithiau gemau bwrdd, rhedeg cymdeithasol yn y parc a nosweithiau crefftau. Byddan nhw’n eich helpu i ymgartrefu o'ch diwrnod cyntaf.
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd symud i wlad newydd. Mae ein tîm Bywyd Preswyl amrywiol yma i'ch helpu i ymgartrefu mewn diwylliant gwahanol, cwrdd â phobl yn gyflym a gwneud ffrindiau gwych.
Ymgysylltu â'r gymuned a gwirfoddoli
Os mai gwneud gwahaniaeth i'r rhai sydd ei angen fwyaf yw'r hyn sy'n eich ysbrydoli, mae llawer o'n grwpiau myfyrwyr yn cynnal digwyddiadau codi arian a phrosiectau gwirfoddoli ym mhob rhan o’n cymunedau lleol. Dysgwch am ein cenhadaeth ddinesig a sut y gallwch chi gymryd rhan mewn prosiectau lleol.
Diogelu ein cymuned
Dydy ein campysau a’r ardaloedd cyfagos ddim yn gwbl ddiogel rhag troseddu a materion diogelwch, ond gyda’n gilydd gallwn ni helpu ein gilydd i gadw’n ddiogel.
Cadw'n ddiogel
- mae ein tîm Diogelwch yn patrolio'r campws ddydd a nos ac yn hapus i sgwrsio os oes gennych chi bryderon neu gwestiynau am ddiogelwch
- codwch larwm diogelwch personol am ddim o Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr pan fyddwch chi’n cyrraedd y campws
- lawrlwythwch ein ap SafeZone - mae’n ffordd gyflym a rhwydd i chi roi gwybod i'n tîm Diogelwch neu Heddlu De Cymru os bydd angen cymorth arnoch chi. Mewngofnodwch i’r ap â’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Caerdydd
- mae gennyn ni staff arbenigol sy’n cefnogi myfyrwyr sydd wedi dioddef aflonyddu, troseddau casineb, trais rhywiol, cam-drin o fewn perthynas, bwlio a ffurfiau eraill ar ymddygiad annerbyniol
- mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cyngor ac yn cynnal mentrau diogelwch trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys y cynllun tacsis diogel
- mae Myfyrwyr Mwy Diogel yn brosiect ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru a holl brifysgolion de Cymru – mae modd cwrdd â Swyddogion Cyswllt Myfyrwyr Heddlu De Cymru a Gwirfoddolwyr Myfyrwyr yr Heddlu yn nigwyddiadau Wythnos y Glas ar y campws
Cysylltiadau defnyddiol ag awdurdodau lleol a sefydliadau
Mae Undeb eich Myfyrwyr yma i'ch helpu i deimlo'n gartrefol o'ch diwrnod cyntaf yng Nghaerdydd. Ymunwch â ni mewn nosweithiau clwb, ffeiriau, teithiau, teithiau, gweithgareddau a mwy.