Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu o bell

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae ein cyrsiau yn eich galluogi i ennill cymhwyster a phrofi addysg brifysgol tra'n parhau â'ch cyflogaeth neu gyfrifoldebau eraill.

Mae gan ddysgu o bell nifer o fanteision:

  • mae'n rhoi'r hyblygrwydd i chi astudio mewn unrhyw leoliad cyfleus sydd â chysylltiad rhyngrwyd addas, lle bynnag y mae hyn yn y byd.
  • gall eich galluogi i bori ac adolygu deunydd, gan atgyfnerthu eich dysgu wrth i chi ddechrau canolbwyntio ar wybodaeth a sgiliau newydd
  • mae'n rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i chi ddewis pryd i astudio wrth baratoi i gwrdd â therfynau amser y cwrs
  • gall fod yn ffordd gyfleus o ennill cymhwyster ôl-raddedig hyd yn oed os oes gennych amserlenni gwaith afreolaidd neu gyfrifoldebau teuluol ac mae'n tueddu i fod yn arbennig o gyfleus i weithwyr gofal iechyd proffesiynol prysur.

Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau dysgu o bell, bydd gennych fynediad llawn i'r gwasanaeth cyfrifiadura prifysgol a gwasanaethau llyfrgell sydd wedi'u teilwra'n benodol. Bydd casgliad helaeth o adnoddau electronig fel e-lyfrau a chyfnodolion ar gael ar flaenau eich bysedd gyda chysylltiad rhyngrwyd. Byddwch yn elwa o fenthyciadau rhyng-lyfrgellol, hyfforddiant sgiliau chwilio a defnyddio meddalwedd rheoli dyfyniadau.

Mae cyrsiau ar gael ar hyn o bryd drwy ddysgu o bell:

CwrsCymhwyster
Arferion sy’n Datblygu ym maes NeonatolegMSc
Advanced Surgical PracticeMSc
Gofal CritigolMSc
Geriatreg GlinigolMSc
Ymarfer DiabetesMSc
Cwnsela Genetig a GenomigMSc
Addysg FeddygolMSc
Addysg FeddygolPgCert
Tocsicoleg FeddygolMSc
Tocsicoleg FeddygolPgDip
Tocsicoleg FeddygolPgCert
Rheoli PoenMSc
Dermatoleg YmarferolMSc
Dermatoleg YmarferolPgDip
SeiciatregMSc
Iacháu Clwyfau a Thrwsio MeinweoeddMSc

Mae gennym hefyd fodiwlau ar gael ar sail annibynnol.