Ewch i’r prif gynnwys

Tocsicoleg Feddygol (MSc)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r rhaglen hon ar gael i'r rhai sydd eisoes wedi cwblhau ein PgDip mewn Tocsicoleg Meddygol.

Mae'r MSc hwn mewn Tocsicoleg Feddygol yn gwrs dysgu o bell rhan-amser ar gyfer gweithwyr meddygol. Mae wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer ffarmacolegwyr clinigol dan hyfforddiant, hyfforddeion arbenigol mewn meddygaeth damweiniau ac achosion brys neu feddygaeth acíwt a disgyblaethau eraill, a'r rhai sy'n bwriadu ymuno â'r diwydiant fferyllol neu sydd eisoes yn gweithio ynddo.

Mae hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn canolfannau gwenwyn, ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys fferyllwyr ysbyty a fferyllwyr cymunedol ac ar gyfer y rhai sydd â gradd mewn Gwyddorau Bywyd neu unigolion eraill sy'n chwilio am yrfa yng nghyff rheoleiddio'r llywodraeth neu'r diwydiant fferyllol neu gemegol.

Mae'r cwrs ar gael i nifer dethol o ymgeiswyr, sydd wedi cwblhau ein diploma ôl-raddedig mewn Tocsicoleg Feddygol yn llwyddiannus i safon dderbyniol.

Mae’r cwrs yn anelu at wneud y canlynol:

  • Eich cyflwyno chi i'r egwyddorion cyffredinol sy'n sail i docsicoleg feddygol.
  • ceisio integreiddio dealltwriaeth o'r ffyrdd y mae cyffuriau a chemegau eraill yn cynhyrchu effeithiau gwenwynig a sut gellir rhagweld, trin a, lle bo'n bosibl, atal y rhain.

Un o nodau allweddol y rhaglen addysgu yw annog meddwl yn feirniadol, gan roi gwybodaeth ymarferol a ffeithiol i chi, ynghyd ag agwedd sylfaenol at broblemau gwenwynegol. Rydyn ni am annog agweddau a galluoedd fydd o werth parhaus yn y dyfodol.

Nodweddion unigryw

The distance learning format helps candidates to complete requirements in their own time. The topic usually depends on the local workplace and relates to the improvement of existing services.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir. 
 
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu: 

  1. Copi o'ch tystysgrif a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni Diploma Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd (PgDip) mewn Tocsicoleg Feddygol o fewn y tair blynedd diwethaf. Os yw eich canlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro.
  2. Cynnig prosiect o hyd at 500 o eiriau. Yn y cynnig prosiect, dylech amlinellu'r broblem, rhoi cefndir y broblem, gofyn eich cwestiwn ymchwil, awgrymu math o astudiaeth, a rhoi manylion unrhyw faterion ymchwil megis cymeradwyaeth foesegol neu lywodraethu gwybodaeth.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle. 

Broses ddethol 
Bydd cynnig eich prosiect a'ch perfformiad graddio yn y Diploma Ôl-raddedig yn cael eu defnyddio fel rhan o'r broses ddethol MSc.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r MSc mewn Tocsicoleg Feddygol (cam traethawd hir) ar gael i nifer dethol o ymgeiswyr yn unig. Mae cymhwysedd yn dibynnu ar gwblhau Diploma Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd mewn Tocsicoleg Feddygol yn llwyddiannus i safon dderbyniol.

Mae'r MSc yn rhaglen ar wahân i'r Diploma Ôl-raddedig, felly mae'n rhaid gwneud cais newydd. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael a gellir eu dyrannu ar sail gystadleuol gan ystyried perfformiad y gorffennol.

Mae'n cynnwys un cam (diploma ôl-raddedig) - ""cam R"" (cam traethawd ymchwil hir), sy'n para am flwyddyn ac a fydd yn cynnwys traethawd hir 60 credyd ar Lefel 7, er mwyn cwblhau cyfanswm o 180 o gredydau (gan gynnwys 120 credyd o gwrs Diploma Ôl-raddedig mewn Tocsicoleg Feddygol, Prifysgol Caerdydd) i gyflawni'r MSc.

Bydd eich traethawd hir, a fydd fel arfer ddim mwy nag 20,000 o eiriau ac a gefnogir gan unrhyw ddeunydd arall a gaiff ei ystyried yn briodol i'r pwnc, yn ymgorffori canlyniadau eich cyfnod o waith prosiect. Bydd pwnc traethawd hir pob myfyriwr yn cael ei gymeradwyo gan Gadeirydd y Bwrdd Astudiaethau dan sylw neu ei enwebai.

Mae'r traethawd hir yn werth 60 credyd ac, ar y cyd â'r cam(au) Diploma Ôl-raddedig a addysgir, mae wedi'i bwysoli 50% at ddibenion cyfrifo'r marc terfynol:

Pwysoliad y Camau

  • Modiwlau a Addysgir (o Ddiploma Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd mewn Tocsicoleg Feddygol) 50%.
  • Traethawd hir (cam R) 50%

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Blwyddyn dau

Blwyddyn tri

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd astudiaethau ar lefel traethawd hir MSc yn cynnwys ymchwil ac astudiaethau annibynnol dan arweiniad yn bennaf, gan ddefnyddio'r cyfleusterau dysgu ac ymchwil helaeth sydd ar gael. Bydd goruchwyliwr prosiect yn cael ei ddyrannu i'ch cefnogi a'ch cynghori ar ymchwilio ac ysgrifennu am bwnc penodol eich traethawd hir. Bydd modiwl ffurfiannol ar Ddulliau Ymchwil yn cael ei gyflwyno ar-lein drwy blatfform dysgu ar-lein Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog.

Sut y caf fy asesu?

Bydd cam traethawd hir y cwrs MSc yn cael ei asesu'n gyfan gwbl yn seiliedig ar y traethawd hir terfynol. Bydd y disgwyliadau ar gyfer fformat, cyflwyno a marcio'r traethawd hir yn dilyn Rheoliadau Asesu presennol y Senedd, a ategir lle bo'n briodol gyda gofynion ychwanegol y Rhaglen/Ysgol/Coleg ac unrhyw ofynion penodol sy'n deillio o natur y prosiect a gynhaliwyd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno'n gyfan gwbl fel cwrs dysgu o bell drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog, lle byddwch yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, asesiadau a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig.

Caiff tiwtor personol ei neilltuo i bob myfyriwr i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Gallwch gysylltu â’ch tiwtor personol yn rheolaidd i drafod cynnydd a chael cyngor ac arweiniad fel bo angen.

Adborth

Byddwch yn cael adborth ffurfiannol drwy ddulliau electronig ac ysgrifenedig mewn modd amserol. Bydd adborth crynodol ar asesu yn cael ei gyflwyno o fewn yr amserlen a bennwyd gan y Brifysgol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, cewch gyfle i ddatblygu cyfoeth o sgiliau a galluoedd y gallwch eu defnyddio mewn unrhyw leoliad proffesiynol. Yn ogystal â gwell dealltwriaeth gysyniadol o wybodaeth, ystyriaethau a dulliau cyfredol, cewch y cyfle i ymarfer a datblygu galluoedd mewn dadansoddi beirniadol, defnyddio meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth ac wrth ddelio â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol.

Dylai eich astudiaethau hefyd eich helpu i ddatblygu eich gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau drwy eich galluogi i ddefnyddio tystiolaeth yn effeithiol a chyfleu cysyniadau pwysig i gydweithwyr ac eraill. Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu a gwella sgiliau fel adolygu llenyddiaeth, gwerthuso beirniadol, dylunio ymchwil, methodolegau ymchwil, casglu data, dadansoddi data ac egwyddorion ymchwil.

Yn ogystal, o ganlyniad i gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Gwerthuso llenyddiaeth am docsicoleg feddygol yn feirniadol, sy'n berthnasol i bwnc penodol.
  • Bodd yn wreiddiol wrth ddefnyddio gwybodaeth, a dealltwriaeth ymarferol o sut mae technegau ymchwil ac ymholi sefydledig yn cael eu defnyddio i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth.
  • Derbyn atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau gan gynnwys rhyngweithio’n briodol â goruchwyliwr(goruchwylwyr).
  • Cyfleu canlyniadau ymchwil i gyfoedion ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Dadansoddi, dehongli a gwerthuso gwybodaeth, cysyniadau a theorïau cymhleth yn feirniadol i lunio cysyniadau wedi'u haddasu.
  • Dangos dealltwriaeth o safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol perthnasol a sut maen nhw’n effeithio ar eich maes astudio neu'ch gwaith.
  • Dangos arbenigedd mewn sgiliau technegol, proffesiynol a/neu ymchwil hynod arbenigol ac uwch.
  • Dylunio a chymhwyso methodolegau ymchwil priodol.
  • Dynodi a chynnal ymchwil i lywio'r maes gwaith neu astudio neu i greu newid sefydliadol neu broffesiynol.
  • Nodi a defnyddio methodolegau a dulliau priodol.
  • Arfer ymreolaeth a barn eang ar draws maes gwaith neu astudiaeth sylweddol.
  • Dangos y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Deall y cyd-destunau ehangach y mae’r maes astudio neu'r gwaith wedi’u lleoli ynddyn nhw.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Oherwydd hyd y rhaglen hon, dim ond myfyrwyr sy'n dod o Gymru a'r UE sy'n bodloni’r gofynion preswylio (mae myfyrwyr sy'n dod o Loegr wedi'u heithrio) sy'n gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig. Rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer benthyciadau Llywodraeth y DU i Ôl-raddedigion.

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,725 Dim
Blwyddyn dau £5,725 Dim
Blwyddyn tri £5,725 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,450 £2,500
Blwyddyn dau £9,450 Dim
Blwyddyn tri £9,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen cyfrifiadur dibynadwy â mynediad cyflym at y we (ac amddiffyniad cyfredol rhag feirysau a maleiswedd) a meddalwedd priodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at y rhai sydd wedi cwblhau'r Diploma mewn Tocsicoleg Meddygol ac sy'n dymuno cwblhau prosiect ymchwil neu adolygiad llenyddol i ehangu eu gwybodaeth academaidd ar y pwnc.

Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn cymryd cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Er nad ydym yn asesu sgiliau neu gymhwysedd clinigol wyneb yn wyneb (nid yw’r rhaglen hon felly’n disodli rhaglen hyfforddi arbenigol ffurfiol), bydd astudio ar y lefel hon yn helpu myfyrwyr llwyddiannus i ddangos sgiliau academaidd niferus y dylid eu gwerthfawrogi’n fawr mewn perthynas â’u datblygiad a’u cynnydd gyrfaol. Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chyfoethogi posibl ar wasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Felly, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo o ran cael rhagor o gyfrifoldebau, neu o bosib wrth geisio am swyddi rheoli, ymchwil, ysgolheigaidd neu arwain.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Meddygaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.