Ewch i’r prif gynnwys

Tocsicoleg Feddygol (PgCert)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Anelir y rhaglen at feddygon, fferyllwyr a gwyddonwyr eraill a hoffai ddatblygu dealltwriaeth eang o egwyddorion sylfaenol gwenwyneg feddygol.

Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig hon mewn Tocsicoleg Feddygol yn gwrs dysgu o bell rhan-amser ar gyfer personél meddygol.

Mae wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer ffarmacolegwyr clinigol dan hyfforddiant, hyfforddeion arbenigol mewn meddygaeth damweiniau ac achosion brys neu feddygaeth acíwt a disgyblaethau eraill, a'r rhai sy'n bwriadu ymuno â'r diwydiant fferyllol neu sydd eisoes yn gweithio ynddo.

Mae hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn canolfannau gwenwyn, ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys fferyllwyr ysbyty a fferyllwyr cymunedol ac ar gyfer y rhai sydd â gradd mewn Gwyddorau Bywyd neu unigolion eraill sy'n chwilio am yrfa yng nghyff rheoleiddio'r llywodraeth neu'r diwydiant fferyllol neu gemegol.

Mae’r cwrs yn anelu at wneud y canlynol:

  • Eich cyflwyno chi i'r egwyddorion cyffredinol sy'n sail i docsicoleg feddygol.
  • Ceisio integreiddio dealltwriaeth o'r ffyrdd y mae cyffuriau a chemegau eraill yn cynhyrchu effeithiau gwenwynig a sut gellir rhagweld, trin a, lle bo'n bosibl, atal y rhain.

Un o nodau allweddol y rhaglen addysgu yw annog meddwl yn feirniadol, gan roi gwybodaeth ymarferol a ffeithiol i chi, ynghyd ag agwedd sylfaenol at broblemau gwenwynegol. Rydyn ni am annog agweddau a galluoedd fydd o werth parhaus yn y dyfodol.

Nodweddion unigryw

This is a distance learning course delivered entirely online so students can choose when and where to study. Case studies will provide opportunities to apply the theoretical knowledge in solving problems. This course is designed to give skills to candidates working or planning to work in various Toxicological fields which include clinical, laboratory, environmental and occupational and also in an advisory capacity.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Candidates will normally possess a primary degree in any science speciality awarded by a recognised institution. Your performance in previous academic courses and the relevance of the subject area and/or evidence of commitment to a career using toxicology will be used as part of the selection process.

Applicants holding differing qualifications but working in a relevant area will be considered provided they have a suitable initial qualification equivalent to a UK Bachelor’s Degree.

 

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement
  • contact with people related to Cardiff University.

Strwythur y cwrs

Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig yn cynnwys un cam: cam T.

Mae'r cam hwn yn para am un flwyddyn academaidd, ac yn cynnwys tri modiwl gwerth 20 credyd, sy'n dod i gyfanswm o 60 credyd, ar Lefel 7.

Ar ddiwedd cam T, gall myfyrwyr sydd wedi cael o leiaf 60 credyd ar Lefel 7, gan gynnwys credyd ar gyfer yr holl fodiwlau gofynnol, adael gyda Thystysgrif Ôl-raddedig neu gallant wneud cais i symud ymlaen i'r Diploma Ôl-raddedig.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

  • Mae'r cwrs yn manteisio ar dechnegau dysgu seiliedig ar ymarfer a chartref (amgylchedd y myfyriwr ei hun).
  • Mae'r cwrs yn cael ei reoli a'i gyflwyno drwy'r rhyngrwyd ar blatfform e-ddysgu Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog.
  • Mae'r rhan fwyaf o'r broses addysg yn canolbwyntio ar broblemau ac mae nifer o gydrannau integredig gwahanol i strwythur y cwrs.
  • Mae yna waith darllen bob pythefnos ar gyfer pob modiwl gyda chopïau o erthyglau allweddol neu ddolenni iddyn nhw.
  • Mae ymarferion clinigol rheolaidd i'w cwblhau sy'n sail i asesiadau yn ystod y cwrs. Caiff y rhain eu hadolygu gan diwtoriaid y cwrs a byddwch yn cael adborth yn ystod y cwrs.
  • Mae yna fforwm trafod a rhif ffôn uniongyrchol hefyd i sicrhau cyfathrebu da â'r Brifysgol a rhwng myfyrwyr.
  • Anogir ymgeiswyr i fynychu cwrs deuddydd Tocsicoleg - y Diweddaraf, sy’n cael ei drefnu gan NPIS Caerdydd i gwrdd â thîm y cwrs a chydfyfyrwyr yn bersonol. Nid oes ffi ychwanegol yn cael ei chodi am hwn.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r asesiad ffurfiannol a chrynodol yn y cwrs yn cael ei ddarparu a'i gyflwyno drwy Dysgu Canolog. Cynhelir asesiad crynodol ar gyfer pob modiwl drwy gyfrwng un aseiniad ysgrifenedig ac un set o ymarferion prawf gwrthrychol (e.e. cwestiynau amlddewis) a gynhelir bob pythefnos drwy gydol pob un o'r modiwlau.

Mae'r ymarferion prawf gwrthrychol crynodol yn cael eu marcio'n fewnol. Mae adborth yn cael ei roi ac esbonnir yr atebion cywir i fyfyrwyr. Mae'r elfen hon yn werth 30% o'r marciau ar gyfer pob modiwl. Mae'r aseiniad ysgrifenedig yn cael ei farcio gan un o farcwyr y rhaglen ac mae'r marcio'n cael ei gymedroli gan aelod o dîm y cwrs. Mae'r elfen hon yn cyfrannu'r 70% sy'n weddill o'r marciau ar gyfer y modiwl.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno'n gyfan gwbl fel cwrs dysgu o bell drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog, lle byddwch yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, asesiadau a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig.

Caiff tiwtor personol ei neilltuo i bob myfyriwr i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Gallwch gysylltu â’ch tiwtor personol yn rheolaidd i drafod cynnydd a chael cyngor ac arweiniad fel bo angen.

Adborth

Byddwch yn cael adborth ffurfiannol drwy ddulliau electronig ac ysgrifenedig mewn modd amserol. Bydd adborth crynodol ar asesu yn cael ei gyflwyno o fewn yr amserlen a bennwyd gan y Brifysgol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i ddiagnosio a rheoli cleifion mewn perthynas â gwenwynau cyffredin.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i ymarfer a datblygu nifer o sgiliau y gellir eu trosglwyddo i'ch bywyd gwaith bob dydd, fel y gallu i ddefnyddio'r llenyddiaeth feddygol gyffredinol a dod yn fwy cyfarwydd â strategaethau chwilio effeithiol ac effeithlon a ddefnyddir wrth chwilio drwy'r cronfeydd data o lenyddiaeth feddygol a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin, a defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd (Dysgu Canolog) a'r cyfleusterau llyfrgell ar gyfer myfyrwyr dysgu o bell yn effeithiol.

Yn ogystal, o ganlyniad i gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol

  • Dangos y sgiliau sydd eu hangen i roi diagnosis o wenwyn, rheoli'r claf a defnyddio gwrthwenwynau.
  • Dangos gwybodaeth drylwyr am wenwyn cyffredin, sut gellir dod i gysylltiad â gwenwyn, safleoedd gweithredu, metabolaeth cyffuriau, tocsicocineteg ac epidemioleg achosion o wenwyno.
  • Dadansoddi effeithiau gwenwyndra, nodweddion gwenwyno a thociscoddeinameg cynhyrchion fferyllol cyffredin.
  • Nodi'r adweithiau niweidiol, yr effeithiau niweidiol, y rhyngweithiadau a gwenwyndra mewn perthynas ag ystod o wenwynau planhigion ac anifeiliaid, cynhyrchion a meddyginiaethau anfferyllol.
  • Gwybodaeth drylwyr am y mecanweithiau a'r ffactorau risg sy'n ymwneud ag adweithiau/rhyngweithiadau niweidiol i gyffuriau a dylunio strategaethau i’w canfod, eu rheoli a'u hosgoi.
  • Dangos sut mae defnyddio technoleg gwybodaeth berthnasol yn effeithiol i gyfosod a chyfleu dulliau seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer diagnosio, rheoli ac ymchwilio i wenwyno yn sgil cynhyrchion fferyllol cyffredin.
  • Ymchwilio i'r gwahanol offer diagnostig a dulliau rheoli sydd ar gael ar gyfer rheoli gwenwyn yn glinigol, gan werthuso'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer offer a dulliau o'r fath.
  • Bod yn gyfrifol am ddefnyddio'r offer diagnostig a'r dulliau rheoli ar gyfer diagnosio a rheoli cleifion sydd wedi cael eu gwenwyno ac wrth lunio cynlluniau ar gyfer gwella eich arfer presennol mewn perthynas â rheoli gwenwyn.
  • Trosglwyddo eich gwybodaeth am Docsicoleg Feddygol ac egwyddorion diagnosio a rheoli i'ch maes clinigol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,475 £2,000

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £8,950 £2,000

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen cyfrifiadur dibynadwy â mynediad cyflym at y we (ac amddiffyniad cyfredol rhag feirysau a maleiswedd) a meddalwedd priodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer ffarmacolegwyr clinigol dan hyfforddiant, cofrestryddion arbenigol mewn disgyblaethau eraill, y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant fferyllol, y rhai sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Gwybodaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwenwynau, fferyllwyr, nyrsys a graddedigion gwyddor bywyd eraill.

Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn cymryd cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Er nad ydym yn asesu sgiliau neu gymhwysedd clinigol wyneb yn wyneb (nid yw’r rhaglen hon felly’n disodli rhaglen hyfforddi arbenigol ffurfiol), bydd astudio ar y lefel hon yn helpu myfyrwyr llwyddiannus i ddangos sgiliau academaidd niferus y dylid eu gwerthfawrogi’n fawr mewn perthynas â’u datblygiad a’u cynnydd gyrfaol. Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chyfoethogi posibl ar wasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Felly, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo o ran cael rhagor o gyfrifoldebau, neu o bosib wrth geisio am swyddi rheoli, ymchwil, ysgolheigaidd neu arwain.

Arian

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Meddygaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.