Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli Poen (MSc)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Dyma gwrs rhyngbroffesiynol e-ddysgu a anelir at weithwyr gofal iechyd a hoffai arbenigo ym maes rheoli poen. Mae hefyd wedi'i hanelu at addysgwyr, i ddarparu’r wybodaeth briodol ac arbenigedd ar boen, er mwyn addysgu eraill o wahanol ddisgyblaethau.

screen

Rhaglen e-ddysgu hyblyg

Dysgu o bell, fformat ar-lein sy'n galluogi dysgu hyblyg yn eich pwysau.

academic-school

Perthnasol i'ch ymarfer

Cynnwys ac asesiadau'n ymwneud â rheoli cleifion â phoen mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.

notepad

Teilwra eich dysgu

Cewch ganolbwyntio eich dysgu a'ch asesiadau ar eich diddordeb ym maes poen.

cursor

Cymorth i fyfyrwyr drwy offer ar-lein

Cymorth i fyfyrwyr drwy offer ar-lein, ar gyfer dysgu a datblygu asesiadau a chefnogaeth fugeiliol.

globe

Astudio rhyngbroffesiynol

Gweithio, dysgu a chydweithio â myfyrwyr a staff o ystod o broffesiynau gofal iechyd a disgyblaethau academaidd eraill.

Mae poen yn ffenomenon amlddimensiwn ac felly mae angen ei reoli drwy ddulliau amlddisgyblaethol. Rhaid i'r dulliau hyn fod yn seiliedig ar wybodaeth arbenigol, ymchwil drylwyr a dealltwriaeth uwch o'r cysyniadau ffisiolegol ac ymddygiadol dan sylw.

Mae'r cwrs hwn sy’n para dwy flynedd yn dechrau drwy eich cyflwyno i natur amlochrog gofalu am gleifion sy’n dioddef poen. Mae'r modiwlau wedi'u cynllunio i’ch galluogi i ddeall agweddau bioseicogymdeithasol poen ac i werthuso'r gwahanol ddulliau o asesu a rheoli cleifion mewn poen. Bydd materion proffesiynol, gan gynnwys ansawdd a diogelwch, arweinyddiaeth a'r gyfraith hefyd yn cael eu trafod.

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer anghenion gweithwyr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol.

Mae ein hasesiadau wedi'u strwythuro i'ch galluogi i ganolbwyntio ar eich meysydd diddordeb eich hun ac i werthuso pynciau mewn perthynas â'ch ymarfer a'ch sylfaen broffesiynol.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol fel gofal iechyd, nyrsio, neu feddygaeth, neu radd ryngwladol gyfwerth. 
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Tystiolaeth eich bod wedi cofrestru ar hyn o bryd gyda'r corff proffesiynol sy'n berthnasol i'ch proffesiwn.
  4. Tystiolaeth bod gennych ddwy flynedd o brofiad cyfwerth ag amser llawn ac ar hyn o bryd yn gweithio mewn maes clinigol sy'n berthnasol i'r rhaglen ac a fydd yn parhau i fod drwy gydol eich astudiaethau. Gellir darparu tystiolaeth o'ch cyflogaeth ar ffurf geirda cyflogwr wedi'i lofnodi a'i ddyddio. 
  5. Datganiad personol nad yw'n fwy na 500 gair ac sy'n rhoi manylion eich profiad clinigol.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol perthnasol cyfwerth ag amser llawn. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs yn cymryd dwy flynedd i’w gwblhau, gan gynnwys cydran y traethawd hir (naw mis ar gyfer y cam Tystysgrif Ôl-raddedig; naw mis ar gyfer y cam Diploma Ôl-raddedig a chwe mis arall ar gyfer y traethawd hir).

Mae’n cynnwys tri cham:

  • Cam T1 (y cam cyntaf a addysgir)

Mae'r cam hwn yn para am naw mis, ac mae'n cynnwys tri modiwl 20 credyd sy’n dod i gyfanswm o 60 credyd, ar Lefel 7.

Cewch adael ar ddiwedd y cam hwn gyda Thystysgrif Ôl-raddedig, os ydych wedi cael o leiaf 60 credyd ac wedi cwblhau unrhyw fodiwlau gofynnol.

  • Cam T2 (yr ail gam a addysgir)

Mae'r cam hwn yn para am naw mis arall, ac mae'n cynnwys tri modiwl 20 credyd arall sy'n dod i gyfanswm o 60 credyd, ar Lefel 7, er mwyn cyflawni cyfanswm o 120 o gredydau i gwblhau’r camau a addysgir.

Cewch adael ar ddiwedd y cam hwn gyda Diploma Ôl-raddedig, os ydych wedi cael o leiaf 120 credyd ac wedi cwblhau unrhyw fodiwlau gofynnol.

  • Cam R (cam traethawd ymchwil hir MSc)

Mae’r cam traethawd hir yn para am chwe mis arall, a bydd yn cynnwys traethawd hir 60 credyd ar Lefel 7, er mwyn cyflawni cyfanswm o 180 credyd i gyd ar Lefel 7 i gwblhau'r rhaglen MSc.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Blwyddyn dau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae ystod eang o arddulliau addysgu a dysgu yn cael eu defnyddio drwy gydol y cwrs, a gyflwynir drwy fformat e-ddysgu ar ein hamgylchedd dysgu rhithwir.

Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o fodiwlau ac is-bynciau gorfodol lle mae gennych ddewis.

Defnyddir amrywiaeth o gyfryngau i gyflwyno'r cynnwys, gan gynnwys:

  • Modiwlau ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau PowerPoint wedi’u trosleisio
  • Pennau sy’n siarad
  • Cyflwyniadau
  • Modiwlau rhyngweithiol.

Y myfyrwyr sy’n dewis pynciau traethodau hir, ond rhaid i dîm y rhaglen gymeradwyo’r dewisiadau, ar ran Cadeirydd y Bwrdd Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir.

Bydd y cam traethawd hir yn cynnwys astudiaeth annibynnol dan arweiniad yn bennaf, sy'n defnyddio'r cyfleusterau dysgu helaeth.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r asesiadau wedi'u dewis i sicrhau bod y deilliannau dysgu yn cael eu profi'n briodol ac yn rhoi cyfle i chi ddangos eich bod wedi eu bodloni.

Mae amrywiaeth o ddulliau asesu ffurfiannol a chrynodol yn cael eu defnyddio, fel:

  • Aseiniadau
  • Datblygu wici
  • Blogiau
  • Cwestiynau amlddewis
  • Gwaith grŵp

Bydd cam traethawd hir yr MSc yn cael ei asesu ar sail y traethawd hir terfynol.

Fel arfer nid yw'r traethawd hir dros 20,000 o eiriau a bydd angen i'r pwnc gael ei gymeradwyo gan dîm y rhaglen, ar ran Cadeirydd y Bwrdd Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir

Mae'r traethawd hir, ar y cyd â'r cam a addysgir, yn cael ei bwysoli 50% at ddibenion cyfrifo'r marc terfynol:

Modiwlau a addysgir (cam T1 a T2) - 50%

Traethawd hir (cam R) - 50%

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno'n gyfan gwbl fel cwrs dysgu o bell ar ein hamgylchedd dysgu rhithwir, lle byddwch yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, asesiadau a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig, byrddau trafod, cyhoeddiadau, Turnitin a Gradecentre.

Fe’ch anogir i gyfrannu’n rheolaidd drwy fyrddau trafod ar-lein, lle byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm y rhaglen a phanel o arbenigwyr. Byddwch hefyd yn gallu cynllunio a myfyrio ar eich dysgu drwy eich blog personol eich hun.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddyrannu i chi, a fydd yn eich helpu a’ch cefnogi gydag anghenion academaidd a bugeiliol, ac a fydd mewn cysylltiad rheolaidd â chi i drafod cynnydd ac i roi cyngor ac arweiniad yn ôl yr angen. Rhoddir blaenborth ac adborth ysgrifenedig helaeth ar bob asesiad.

Yn ystod cam y traethawd hir, byddwch hefyd yn cael goruchwyliwr prosiect i'ch cefnogi a'ch cynghori ar waith ymchwil ac ysgrifennu am bwnc penodol eich traethawd hir.

Adborth

Byddwch yn cael adborth ffurfiannol drwy ddulliau electronig ac ysgrifenedig mewn modd amserol. Bydd adborth crynodol ar asesu yn cael ei gyflwyno o fewn yr amserlen a bennwyd gan y Brifysgol.

Bydd goruchwyliwr eich traethawd hir yn rhoi adborth ysgrifenedig ar ddrafftiau o’r traethawd hir, ac yn rhoi cyfle i chi drafod unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, cewch gyfle i ddatblygu cyfoeth o sgiliau a galluoedd y gallwch eu defnyddio mewn unrhyw leoliad proffesiynol. Yn ogystal â dealltwriaeth gysyniadol well o wybodaeth, ystyriaethau a dulliau cyfredol, byddwch yn ymarfer ac yn datblygu galluoedd mewn dadansoddi beirniadol, cymhwyso meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth a delio â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol. Dylai eich astudiaethau hefyd eich helpu i ddatblygu eich gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau drwy eich galluogi i ddefnyddio tystiolaeth yn effeithiol a chyfleu cysyniadau pwysig i gydweithwyr ac eraill. Drwy unrhyw elfennau sy'n canolbwyntio ar ymchwil cewch gyfle i ddatblygu a gwella sgiliau mewn agweddau fel adolygu llenyddiaeth, gwerthuso beirniadol, dylunio ymchwil, methodolegau ymchwil, casglu data, dadansoddi data ac egwyddorion ymchwil.

Nod y cwrs hwn yw ceisio hwyluso myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth i lefel uwch yn eu maes arbenigedd a/neu ddiddordeb ym maes asesu a rheoli poen. Fodd bynnag, gwneir hyn o fewn cyd-destun ehangach, sy'n caniatáu i'r myfyriwr ddeall sut mae lefel ei arbenigedd a'i sylfaen wybodaeth yn cyd-fynd â phoen ac ymarfer rhyngbroffesiynol yn ei gyfanrwydd.

Ar ôl cymryd rhan lawn yn y cwrs, dylai’r canlynol fod yn berthnasol:

  • Datblygu dull allweddol o reoli poen mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd
  • Gwybodaeth integredig am boen o wahanol ddisgyblaethau er mwyn mynd ati i reoli poen o safbwynt bioseicogymdeithasol
  • Herio dulliau traddodiadol o gysyniadoli poen
  • Archwilio arferion presennol a gwerthuso dulliau ac agweddau traddodiadol o ddelio â phoen a’i reoli
  • Datblygu sylfaen wybodaeth ryngbroffesiynol ar gyfer poen i gefnogi unrhyw fentrau addysgol
  • Cyfuno ac ystyried ymestyn arferion presennol drwy weithgareddau ymchwil

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,725 Dim
Blwyddyn dau £5,725 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,450 £2,500
Blwyddyn dau £9,450 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen cyfrifiadur dibynadwy â mynediad cyflym at y we (ac amddiffyniad cyfredol rhag feirysau a maleiswedd) a meddalwedd priodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Bydd cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus yn ychwanegu gwerth i'ch CV. Mae graddedigion wedi crybwyll ei fod wedi arwain yn uniongyrchol at ddyrchafiad, ac ysbrydolwyd llawer hefyd i ddilyn gyrfaoedd academaidd trwy astudio ymhellach hyd at PhD.

Bydd yr holl fyfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen hon mewn cyflogaeth. Fodd bynnag, mae llawer o swyddi gofal iechyd uwch yn mynnu bod clinigwyr yn cael hyfforddiant academaidd uwch ac felly ystyrir bod yr MSc yn gyfrwng i'w hyrwyddo i swyddi estynedig ac uwch. Mae’r modiwlau ar arweinyddiaeth, rheoli sefydliadol ac ansawdd a diogelwch, yn hwyluso arloesedd a newid yn y maes gofal iechyd ac yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy y gall cynfyfyrwyr eu cymhwyso mewn unrhyw leoliad gofal iechyd. Bydd cyhoeddi eich traethawd hir ac/neu weithredu newid llwyddiannus a chynaliadwy yn creu cryn argraff ar uwch-reolwyr.

Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn cymryd cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Bydd yn eich galluogi i ddangos meistrolaeth ar asesu a rheoli poen.

Bydd astudio ar y lefel hon hefyd yn helpu myfyrwyr i ddangos nifer o sgiliau academaidd a ddylai fod yn uchel eu parch mewn perthynas â'ch datblygiad gyrfa a'ch dilyniant. Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chyfoethogi posibl ar wasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Felly, bydd yn darparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo mewn perthynas â chael rhagor o gyfrifoldebau, neu o bosib wrth geisio am swyddi rheoli, ymchwil, ysgolheigaidd neu arweinyddol.

Dyma beth sydd gan rai o'n cynfyfyrwyr i'w ddweud am sut maen nhw wedi elwa o astudio'r cwrs:

"Mae'r cwrs hwn wedi fy ngalluogi i symud ymlaen yn fy ngyrfa. Ers dechrau'r cwrs hwn rwyf wedi llwyddo i sicrhau swydd Band 8a (band 6/7 gynt) fel Ymarferydd Ffisiotherapi Uwch. Bydd y swydd hon yn cynnwys datblygu Gwasanaeth Ymarfer Uwch o fewn 5 meddygfa i leihau llwyth gwaith a rhestrau aros.”

"Rydw i wedi cael dyrchafiad yn y gwaith yn ddiweddar a’r cwrs hwn sydd i'w gyfrif yn uniongyrchol am hyn yn fy marn i.”

"Fe wnaeth y cwrs hwn fy ngalluogi i gael swydd Band 7 yn 2017 a swydd ar lefel Band 8 yn ddiweddar. Mae bod yn fwy cymwys wrth ddadansoddi ymchwil wedi golygu fy mod yn teimlo'n fwy hyderus i herio syniadau a chymryd rhan weithredol mewn trafodaethau gyda chymheiriaid.”

"Roedd yr e-ddysgu yn bwysig iawn i mi, gan fod hyn wedi fy ngalluogi i barhau i weithio wrth astudio. Roedd cyfathrebu drwy'r byrddau trafod yn ein hannog i rannu gwybodaeth ryngbroffesiynol ac yn cynnig platfform rhwydweithio delfrydol. Oherwydd yr e-ddysgu, roeddem yn gallu manteisio ar fod yn amlwladol.”

"Mae'r MSc mewn rheoli poen wedi fy ngalluogi i newid arfer o fewn fy adran ac mae wedi creu newid sefydliadol ehangach drwy gyflwyno polisi newydd.”

“Rwyf wedi cwrdd â chyfoedion o bob cwr o'r wlad a'r byd na fyddwn wedi dod cwrdd â nhw fel arall. Mae'n galonogol gwybod ein bod i gyd yn wynebu'r un heriau bob dydd wrth ofalu am gleifion â phoen acíwt/cronig lle bynnag yr ydym. Gallwn rannu syniadau a’n barn ynglŷn â gwahanol agweddau ar reoli poen.”

“Cefais fy ngrymuso gan wybodaeth a sgiliau i reoli poen ar y cwrs hwn ond hefyd i fod yn feddyg gwell yn gyffredinol a chyfathrebu'n well gyda'm cleifion a'm cydweithwyr.”

“Mae'r hyn a ddysgais ar y modiwlau hyn wedi arwain yn uniongyrchol at adolygu llwybr clinigol ar draws fy Ymddiriedolaeth a datblygu Canllawiau ar draws y sir.”

“Rhywbeth arall ar y cwrs rwy'n ei fwynhau'n fawr yw platfform rhyngweithiol y byrddau trafod. Mae hwyluswyr y cwrs wrth law o ddydd Llun i ddydd Gwener i egluro unrhyw bwyntiau nad yw’r myfyrwyr yn eu deall ac i roi arweiniad o ran aseiniadau neu faterion proffesiynol y gall y myfyrwyr fod yn eu profi. O sgwrsio â chydweithwyr sy'n cwblhau graddau Meistr mewn pynciau eraill yn yr ystafell ddosbarth traddodiadol, mae'r cymorth a'r rhyngweithio rhwng tiwtoriaid yn y fforwm ar-lein yn rhagori ar eu profiad.”

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Meddygaeth, Gofal iechyd


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.