Ewch i’r prif gynnwys

Iacháu Clwyfau a Thrwsio Meinweoedd (MSc)

  • Hyd: Tair blynedd
  • Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r rhaglen yn gyfle i ymchwilio i’r damcaniaethau a’r cysyniadau presennol, a’r rhai sy’n datblygu, ynghylch iacháu clwyfau a thrwsio meinweoedd, ac i’w dadansoddi.

globe

Enw da cenedlaethol a rhyngwladol

Rhaglen gyda thros ddau ddegawd o lwyddiant gyda chefnogaeth arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol.

globe

Astudio rhyngbroffesiynol

Gweithio, dysgu a chydweithio â myfyrwyr a staff o ystod o broffesiynau gofal iechyd a disgyblaethau academaidd eraill.

people

Cyfadran arbenigol

Addysgu gyda chefnogaeth amrywiol arbenigwyr rhyngbroffesiynol mewn iacháu clwyfau a thrwsio meinweoedd.

screen

Cefnogaeth ar gyfer dysgu

Cymorth unigol drwy gydol eich rhaglen astudio yn ogystal â chyfleoedd i ryngweithio gyda'ch cyfoedion.

tick

Asesiadau sy'n berthnasol yn glinigol

Mae'r asesiadau a'r traethawd ymchwil yn eich caniatáu i archwilio meysydd o ddiddordeb clinigol i chi a hwyluso defnydd o wahanol ddulliau ymchwil.

Mae'r MSc mewn Iacháu Clwyfau a Thrwsio Meinweoedd yn gwrs tair blynedd, rhyngddisgyblaethol, rhan-amser, dysgu o bell.

Mae'r cwrs yn denu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o feysydd nyrsio, meddygaeth, fferylliaeth, podiatreg a'r diwydiant fferyllol, gan gynnig cyfle i astudio ar-lein ochr yn ochr â grŵp rhyngwladol o weithwyr proffesiynol o wledydd ar draws y byd.

Ei nod yw eich galluogi i ystyried a dadansoddi theorïau a chysyniadau presennol a rhai sy’n datblygu sy’n sail i iacháu clwyfau a thrwsio meinweoedd. Felly, mae’n hwyluso twf proffesiynol a phersonol, gan adeiladu ar eich profiad addysgiadol a galwedigaethol, a datblygu eich gallu i fod yn ddysgwr drwy gydol eich oes.

Bydd yn ofynnol i chi fynychu bloc astudio pum diwrnod yng Nghaerdydd yn ystod y flwyddyn gyntaf a'r ail, fel arall nid oes gofyniad arall am bresenoldeb.

This course at Cardiff University was the course I particularly wished to pursue due to that fact it is world renowned nationally and internationally for its high calibre of teaching. The course has undoubtedly given me a confidence in clinical practice to critically analyse and demonstrate a high level of clinical reasoning in practice. Continuous assessment throughout proved a valuable experience and the support from Cardiff University was exceptional. The whole experience of undergoing an MSc at Cardiff University was challenging and demanding but a once in a lifetime experience and one that has transformed my practice and I will always remain entirely grateful to have had this outstanding opportunity.
Connie Traynor, MSc Wound healing and Tissue Repair, 2016

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd israddedig mewn maes pwnc perthnasol fel meddygaeth, nyrsio, fferylliaeth neu ddodiatri neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail o leiaf 2 flynedd o brofiad proffesiynol perthnasol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae tri cham i'r MSc:

Cam T1 (y cam cyntaf a addysgir)
Mae'r cam hwn yn para am un flwyddyn academaidd, ac mae'n cynnwys un bloc astudio pum diwrnod a phum modiwl sy'n dod i gyfanswm o 60 credyd (ni fydd mwy nag 20 credyd ar lefel 6, gyda'r gweddill ar Lefel 7).

Gallwch adael ar ôl y cam hwn gyda Thystysgrif Ôl-raddedig, os ydych wedi ennill o leiaf 60 credyd (ni fydd mwy nag 20 credyd ar lefel 6, gyda'r gweddill ar Lefel 7), gan gynnwys dyfarnu credyd am unrhyw fodiwlau ""gofynnol"".

Cam T2 (yr ail gam a addysgir)
Mae'r cam hwn yn para am flwyddyn academaidd arall, gan ddod i gyfanswm o ddwy flynedd ar gyfer y camau a addysgir. Mae'n cynnwys bloc astudio pum diwrnod pellach a thri modiwl 20 credyd sy'n dod i gyfanswm o 60 credyd, ar Lefel 7, i gyflawni cyfanswm o 120 o gredydau (ni fydd mwy nag 20 credyd ar lefel 6, gyda'r gweddill ar Lefel 7), i gwblhau'r camau a addysgir.

Gallwch adael ar ôl y cam hwn gyda Diploma Ôl-raddedig, os ydych wedi ennill o leiaf 120 credyd (ni fydd mwy nag 20 credyd ar lefel 6, gyda'r gweddill ar Lefel 7), gan gynnwys dyfarnu credyd am unrhyw fodiwlau ""gofynnol"".

Cam R: Cam traethawd ymchwil hir MSc
Mae'r cam traethawd hir yn para am flwyddyn academaidd arall, gan ddod i gyfanswm o dair blynedd, a bydd yn cynnwys traethawd hir 60 credyd ar Lefel 7, i gyflawni cyfanswm cyfunol o 180 o gredydau (ni fydd mwy nag 20 credyd ar lefel 6, gyda'r gweddill ar Lefel 7), i gwblhau'r rhaglen MSc.

Mae’n cymryd tair blynedd academaidd i gwblhau’r cwrs MSc llawn (camau T1, T2 ac R) fel arfer o’r dyddiad cofrestru am y tro cyntaf.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/26. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025.

Blwyddyn un

Blwyddyn dau

Blwyddyn tri

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Camau a addysgir

Byddwch yn cael eich addysgu drwy ddarlithoedd, gweithdai, cyflwyniadau myfyrwyr; tiwtorialau; deunydd dysgu o bell; fforymau trafod anghydamserol; tiwtorialau ar-lein cydamserol; testun ysgrifenedig mewn modiwlau; profion hunanasesu; gwaith darllen/dolenni a argymhellir o fewn y modiwl; adborth ar gynlluniau, fersiynau drafft a nodau; adborth ar aseiniadau; adborth arholwyr allanol.

Bydd yn ofynnol i chi fynychu bloc astudio pum diwrnod yn ystod y flwyddyn gyntaf a'r ail, fel arall nid oes gofyniad arall am bresenoldeb.

Bydd y blociau astudio ar y campws yn cynnwys: cyflwyniad i e-ddysgu ar y Rhyngrwyd a defnyddio eich hafan unigol; cyflwyniad i sgiliau astudio, adnoddau llyfrgell a chymorth tiwtorial; cyflwyniad i waith cwrs a briffiau aseiniadau; darlithoedd arweiniol - cyflwyniad i theori a chynnwys modiwlau; sesiynau rhyngweithiol grŵp - drwy weithdy, trafodaethau, cyflwyniad achos; tiwtorialau preifat a grŵp; cyfarfodydd pwyllgor cwrs - sy’n darparu gwerthusiad parhaus o'r cwrs.

Cam traethawd ymchwil hir

Bydd ymchwil ar lefel traethawd hir yn golygu astudiaeth ac ymchwil annibynnol o dan arweiniad yn bennaf, gan ddefnyddio’r cyfleusterau dysgu ac ymchwil helaeth sydd ar gael.

Sut y caf fy asesu?

Asesiad crynodol:
Defnyddir gwaith cwrs ar ffurf aseiniadau ysgrifenedig a thrafodaethau wedi'u cymedroli gan gynnwys gwerthusiad beirniadol o dystiolaeth ymchwil ddiweddar i asesu eich rhesymu beirniadol a'ch gallu i gyflwyno deunydd ysgrifenedig cydlynol.

Asesiad ffurfiannol:
Mae profion hunanasesu a chyfleoedd i fyfyrio yn y modiwlau wedi’u cynnwys fel dull ffurfiannol o asesu cynnydd. Yn ogystal, caniateir i chi gyflwyno aseiniad drafft cyn cyflwyno’r fersiwn derfynol. Gallwch hefyd ofyn am gyngor pellach ar y ddau ddarn o waith cwrs drwy'r bwrdd trafod, tiwtorial ar-lein a hefyd drwy ebost.

Traethawd hir MSc:
Bydd cam traethawd hir yr MSc yn cael ei asesu’n gyfan gwbl ar sail y traethawd hir terfynol.

Bydd eich traethawd hir, a fydd fel arfer ddim mwy nag 20,000 o eiriau ac a gefnogir gan unrhyw ddeunydd arall a gaiff ei ystyried yn briodol i'r pwnc, yn ymgorffori canlyniadau eich cyfnod o waith prosiect. Bydd pwnc traethawd hir pob myfyriwr yn cael ei gymeradwyo gan Gadeirydd y Bwrdd Astudiaethau o dan sylw neu ei enwebai.

Mae'r traethawd hir yn werth 60 credyd ac, ar y cyd â'r camau Tystysgrif Ôl-raddedig/Diploma Ôl-raddedig a addysgir, bydd wedi'i bwysoli 50% at ddibenion cyfrifo'r marc terfynol:

Pwysoliad y Camau

  • Modiwlau a addysgir (Camau T1 a T2 gyda’i gilydd) 50%.
  • Traethawd hir (Cam R) 50%.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddysgu cyfunol, sef cyswllt wyneb yn wyneb ar gyfer y blociau astudio a thrwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir, lle byddwch yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac asesiadau.

Rydyn ni’n ymwybodol efallai nad yw rhai ohonoch wedi astudio'n ddiweddar neu efallai nad ydych wedi arfer astudio'n rhan-amser, na dysgu o bell. Felly bydd cyfnod o ailaddasu wrth i chi ddod i arfer â gofynion y rhaglen astudio.

Er mwyn eich cynorthwyo ar y cwrs, gallwch ddisgwyl:

  • Addysgu o ansawdd uchel yn ystod y blociau astudio gan arbenigwyr blaenllaw ym maes arbenigol iacháu clwyfau
  • Deunyddiau modiwl cyfoes yn cael eu darparu, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil gyfredol. Ategir hyn gan ddeunydd darllen perthnasol pellach a deunydd darllen a argymhellir
  • Cefnogaeth weinyddol ac academaidd drwy negeseuon ebost ac ystafelloedd sgwrsio
  • Cyswllt electronig rheolaidd ac arweiniad ar gyfer elfen a asesir y rhaglen ac ymateb amserol i ymholiadau a cheisiadau am gymorth. Cynnwys adborth ar aseiniadau drafft a gyflwynwyd
  • Marcio dibynadwy a theg yn unol â chanllawiau'r Brifysgol a darparu adborth adeiladol ar yr holl waith cwrs a farciwyd
  • Darparu goruchwyliwr priodol ar gyfer cam traethawd hir y rhaglen
  • Cydymffurfio â rheoliadau Prifysgol Caerdydd mewn perthynas â darparu rhaglenni astudio ôl-raddedig a addysgir

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddyrannu i chi i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Gallwch gysylltu â’ch tiwtor personol i drafod cynnydd ac i gael cyngor ac arweiniad fel bo angen.

Yn ystod cam y traethawd hir, byddwch hefyd yn cael goruchwyliwr prosiect i'ch cefnogi a'ch cynghori ar waith ymchwil ac ysgrifennu am bwnc penodol eich traethawd hir.

Rhwng y blociau astudio blynyddol, cefnogir myfyrwyr gyda sesiynau tiwtorial grŵp a phersonol ar-lein a thiwtorialau personol dros ebost neu’r ffôn. Hefyd, mae staff cymorth llyfrgell penodol ar gael ar gyfer dysgu o bell, i’ch helpu i sicrhau eich bod yn gallu cael gafael ar y cronfeydd data a’r cyfnodolion testun llawn angenrheidiol. Mae’r wybodaeth a’r adnoddau ar-lein yn cael eu diweddaru drwy’r amser i fyfyrwyr allu cael gafael arnyn nhw drwy amgylchedd dysgu rhithwir.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, cewch gyfle i ennill cyfoeth o sgiliau a galluoedd y gallwch eu defnyddio mewn unrhyw leoliad proffesiynol. Yn ogystal â gwell dealltwriaeth gysyniadol o wybodaeth, ystyriaethau a dulliau cyfredol, cewch y cyfle i ymarfer a datblygu galluoedd mewn dadansoddi beirniadol, defnyddio meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth ac wrth ddelio â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol.

Dylai eich astudiaethau hefyd eich helpu i ddatblygu eich gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau drwy eich galluogi i ddefnyddio tystiolaeth yn effeithiol a chyfleu cysyniadau pwysig i gydweithwyr ac eraill. Drwy'r elfennau sy'n canolbwyntio ar ymchwil, byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu a gwella sgiliau mewn agweddau fel adolygu a gwerthuso llenyddiaeth, dadansoddi beirniadol, dylunio ymchwil, methodolegau ymchwil, casglu data, dadansoddi data ac egwyddorion ymchwil.

Ar ôl cymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, dylech fod yn gallu:

  • Archwilio arferion cyfredol yn feirniadol a gwerthuso dulliau traddodiadol o reoli clwyfau
  • Dangos bod gennych wybodaeth am faterion dadleuol a chynhennus sy'n ymwneud ag iacháu clwyfau a thrwsio meinweoedd
  • Dangos dealltwriaeth o gysyniadau allweddol modern iacháu clwyfau drwy eu defnyddio mewn heriau o fewn eu hamgylchedd eu hunain
  • Dangos meistrolaeth ar faes ymarfer cymhleth ac arbenigol
  • Gwerthfawrogi budd gwaith tîm rhyngbroffesiynol drwy ddysgu ochr yn ochr ag eraill o wahanol broffesiynau
  • Dangos eich bod yn gallu meddwl yn annibynnol a chyfrannu drwy eich ymchwil eich hun at ddatblygu gwybodaeth a sylfaen dystiolaeth y proffesiwn
  • Adeiladu ar eu hanghenion dysgu gydol oes eu hunain
Our students will get various opportunities to present their work during their course. Pictured here, Programme Director, Samantha Holloway (centre) with two students presenting posters at a Wound Healing conference (Wounds UK Annual Conference 2017).

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen cyfrifiadur dibynadwy â mynediad cyflym at y we (ac amddiffyniad feirws a maleiswedd cyfredol) a meddalwedd priodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r rhaglen hon yn addas iawn ar gyfer y rhai sydd am gynyddu eu gwybodaeth am iacháu clwyfau er mwyn helpu i wella gofal cleifion.

Gallai cwblhau'r cwrs hwn eich helpu yn y meysydd canlynol:

  • Sicrhau rôl broffesiynol arbenigol
  • Ysgrifennu i’w gyhoeddi
  • Archwilio allanol ar gyfer sefydliadau academaidd eraill
  • Aelodaeth o bwyllgorau gweithredol cymdeithas gwella clwyfau

Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn cymryd cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Er nad ydym yn asesu sgiliau neu gymhwysedd clinigol wyneb yn wyneb (nid yw’r rhaglen hon felly’n disodli rhaglen hyfforddi arbenigol ffurfiol), bydd astudio ar y lefel hon yn helpu myfyrwyr llwyddiannus i ddangos nifer o sgiliau academaidd y dylid eu gwerthfawrogi’n fawr mewn perthynas â’u datblygiad a’u cynnydd gyrfaol.

Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chyfoethogi posibl ar wasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Felly, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo o ran cael rhagor o gyfrifoldebau, neu o bosib wrth geisio am swyddi rheoli, ymchwil, ysgolheigaidd neu arweinyddol.

Dewisais y cwrs oherwydd er bod gen i lawer o brofiad ymarferol wrth ddelio â chlwyfau, roeddwn i'n teimlo bod angen y wybodaeth ddamcaniaethol arnaf i ategu'r hyn yr oeddwn yn ei weld mewn ymarfer clinigol. Roedd enw da Prifysgol Caerdydd a gwaith hirsefydlog yr Uned Ymchwil Gwella Clwyfau yn apelio'n fawr ynghyd â maes llafur cynhwysfawr y cwrs. Roedd y cwrs yn heriol iawn gyda'r her o feistroli ysgrifennu academaidd. Fodd bynnag, roedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan y staff yn wych ac roeddwn yn gallu cyflawni ymhell y tu hwnt i'm disgwyliadau. Mae'r cwrs wedi bod yn brofiad cadarnhaol sy'n newid bywydau. Mae fy ngwaith clinigol wedi cael ei newid a'i wella. Rwyf wedi cyhoeddi sawl erthygl cyfnodolyn ac rwy'n darlithio ar gwrs ôl-raddedig yn Norwy. Y newid mwyaf fu'r datblygiad yn fy hyder ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar am hynny.
Vanessa Goulding, MSc Gwella Clwyfau a Thrwsio Meinweoedd, 2017

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Meddygaeth, Gofal iechyd


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.