Ôl-raddedig a addysgir
Gallwch ddatblygu eich gwybodaeth, dwysáu eich dealltwriaeth a chyfoethogi eich sgiliau gyda’n cyrsiau ôl-raddedig a addysgir.
Ni yw un o’r darparwr mwyaf o gyrsiau meddygol ôl-raddedig a addysgir yn y DU. Mae’n rhaglenni ôl-raddedig a addysgir yn tueddu i fod yn hynod alwedigaethol, yn canolbwyntio ar gyfoethogi gyrfa a sail gwybodaeth gweithwyr iechyd proffesiynol parod, a phobl eraill mewn meysydd perthnasol. Eu nod yw rhoi gwell sgiliau academaidd i'n dysgwyr proffesiynol, a rhoi dealltwriaeth iddynt o'r sail dystiolaeth a all lywio ymarferion gwaith.
Rhaglenni
Rydym yn cynnig ystod eang o raglenni ôl-raddedig lefel meistr sy’n addas ar gyfer pob arddull dysgu. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau dysgu o bell / e-ddysgu a modiwlau annibynnol sy'n galluogi gweithwyr proffesiynol i ennill cymhwyster cydnabyddedig heb amharu ar eu gwaith.
Cwrs | Cymhwyster | Dull astudio |
---|---|---|
Biowybodeg ac Epidemioleg Enetig Cymhwysol | MSc | Amser llawn, rhan-amser |
Biowybodeg ac Genomeg Cymhwysol | MSc | Amser llawn, rhan-amser |
Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol | MSc | Amser llawn |
Dermatoleg Glinigol | MSc | Amser llawn |
Geriatreg Glinigol | MSc | Rhan-amser dysgu o bell |
Gofal Critigol | MSc | Rhan-amser dysgu o bell |
Ymarfer Diabetes | MSc | Rhan-amser dysgu o bell |
Cwnsela Genetig a Genomig | MSc | Rhan-amser dysgu o bell |
Meddygaeth Genomeg a Gofal Iechyd | MSc | Rhan-amser dysgu cyfunol |
Addysg Feddygol | PgCert, MSc | Amser llawn, rhan-amser, rhan-amser dysgu o bell |
Tocsicoleg Feddygol | PgCert, PgDip, MSc | Amser llawn, rhan-amser, rhan-amser dysgu o bell |
Rheoli Poen | MSc | Rhan-amser dysgu o bell |
Meddygaeth Lliniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol | MSc | Rhan-amser dysgu o bell |
Dermatoleg Ymarferol | PgDip, MSc | Amser llawn dysgu o bell, rhan-amser dysgu o bell |
Seiciatreg | MSc | Amser llawn dysgu o bell, rhan-amser dysgu o bell |
Iechyd Cyhoeddus | MPH | Amser llawn, rhan-amser |
MSc | Rhan-amser dysgu o bell |
Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.