Ewch i’r prif gynnwys

Seiciatreg (MSc)

  • Hyd: 3 blynedd
  • Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol meddygol ac iechyd eraill sy’n dymuno meithrin gwybodaeth drylwyr o syniadau ac arferion cyfredol mewn seiciatreg.

cursor

Cynnwys addysgu rhyngweithiol

Y deunydd yn cynnwys e-gyflwyniadau newydd gan arbenigwyr pwnc, tiwtorialau byw, cyfweliadau arbenigol, grwpiau trafod a mynediad at eLyfrau.

screen

Rhaglen e-ddysgu hyblyg

Dysgu o bell, fformat ar-lein sy'n galluogi dysgu hyblyg yn eich pwysau.

notepad

Dysgu ar sail tystiolaeth

Addysgu ac asesiadau hyblyg wedi'u cynllunio i gyfoethogi sgiliau rhesymu clinigol ac ymchwil drwy eu cymhwyso i sefyllfaoedd go iawn.

globe

Cyfleoedd ymchwil pellach

Cyfleoedd i rwydweithio gyda staff ymchwil a chlinigol sy'n arwain y byd ym meysydd seiciatreg a meddygaeth seicolegol.

cursor

Dysgu'n canolbwyntio ar y myfyriwr

Cynnwys y cwrs wedi'i gynllunio i fodloni anghenion dysgu myfyrwyr, gyda modiwl traethawd hir yn caniatáu archwilio pellach neu faes diddordeb personol.

Mae seiciatreg yn faes meddygaeth hynod ddiddorol a phwysig. Oherwydd natur salwch seiciatrig (a all yn aml fod yn bresennol neu’n gydafiachedd â chyflyrau eraill a/neu effeithio ar y ffordd y mae pobl yn ymddwyn mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd), byddai gwell gwybodaeth am seiciatreg o fudd i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn meysydd sy'n atodol i seiciatreg a/neu sy'n debygol o ddod i gysylltiad â salwch seiciatrig yn rheolaidd.

  • Bydd y rhaglen o fudd i weithwyr proffesiynol o'r fath a hefyd i feddygon sy'n hyfforddi i fod yn seiciatryddion neu'n arbenigwyr seiciatrig.
  • Nod y rhaglen yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr am y canlynol:
  • Gwybodaeth fanwl am wyddoniaeth sylfaenol, nodweddion ac arwyddion/symptomau salwch seiciatrig.
  • Dealltwriaeth o sut mae salwch seiciatrig yn cael ei reoli a pha mor briodol yw cynlluniau rheoli penodol.
  • Y gallu i werthuso, cyfosod ac arfarnu’n feirniadol yr ymchwil sy'n ymwneud â salwch seiciatrig.
  • Annibyniaeth feirniadol ac uniondeb deallusol sy’n datblygu gan gyfeirio'n benodol at y maes seiciatreg.

Mae'r rhaglen yn gyflwyniad gwerthfawr a manwl i'r prif fathau o salwch seiciatrig. Fodd bynnag, nid yw ar unrhyw adeg yn rhoi'r hawl i unrhyw un sydd wedi cofrestru neu raddio ar y cwrs i alw eu hunain yn seiciatrydd nac yn seicolegydd nac i roi cyffuriau ar bresgripsiwn, na rheoli salwch seiciatrig fel arall (os nad oedden nhw’n gallu gwneud hynny o’r blaen yn unol â’u cofrestriad neu drwydded benodol i ymarfer).

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd 2:2 awr mewn pwnc perthnasol fel gwyddoniaeth fiolegol, gofal iechyd, meddygaeth, nyrsio, neu seicoleg a ddyfarnwyd gan sefydliad cydnabyddedig. Os yw eich tystysgrif gradd yn yr arfaeth, lanlwythwch unrhyw drawsgrifiadau neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Dau gyfeiriad sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen. Rhowch un geirda academaidd ac un cyfeiriad proffesiynol. Os gwnaethoch raddio o fewn y tair blynedd diwethaf, derbynnir dau gyfeiriad academaidd. Os gwnaethoch raddio fwy na thair blynedd yn ôl, derbynnir dau gyfeiriad proffesiynol. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r MSc rhan-amser hwn yn rhedeg dros dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn cymryd chwe modiwl 20 credyd gorfodol ac yn cwblhau traethawd ymchwil hir sy’n werth 60 credyd.

Fel myfyriwr rhan-amser, bydd disgwyl i chi neilltuo 10-16 awr yr wythnos i'ch astudiaethau. Mae hyn yn cynnwys amser a dreulir yn gwylio ac yn rhyngweithio â darlithoedd a fideos wedi'u recordio, yn edrych ar ddeunyddiau atodol, yn cymryd rhan mewn tiwtorialau ar-lein ac yn gweithio ar waith cwrs eich modiwl.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Byddwch yn cymryd tri modiwl 20 credyd gorfodol yn y flwyddyn gyntaf, fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer dwy flynedd nesaf eich Rhaglen gradd.

Blwyddyn dau

Byddwch yn astudio tri Modiwl 20 credyd gorfodol yn yr ail flwyddyn .

Blwyddyn tri

Byddwch yn dilyn un Modiwl 60 credyd gorfodol yn y drydedd flwyddyn sy'n cynnwys gwneud gwaith ymchwil ac ysgrifennu traethawd hir 20,000 o eiriau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Traethawd hirMET45460 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae'r cwrs yn cael ei ddysgu'n gyfan gwbl ar-lein, a bydd deunydd y cwrs yn cael ei ddarparu ar ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir. Y prif ddull addysgu yw drwy efelychu cyfweliadau â chleifion a thrafodaethau rhwng meddygon, yn seiliedig ar achosion clinigol. Dyma'r mannau cychwyn i chi gwestiynu eich dealltwriaeth bresennol ac ymestyn eich gwybodaeth a'ch sgiliau drwy ddysgu gweithredol a pharhaus.

Mae'r fideos hyn yn cael eu hategu gan ddarlithoedd ar-lein, dolenni i eLyfrau ac ystod o wefannau allanol.

Bydd tiwtorialau rhithwir a sesiynau cymorth byw eraill yn cael eu trefnu yn ystod pob modiwl a addysgir, gyda sesiynau byw yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio deunydd yn fanylach gyda darlithwyr a thiwtoriaid cyrsiau.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r asesiadau wedi'u cynllunio i sicrhau bod y deilliannau dysgu bwriadedig ar gyfer y cwrs yn cael eu cyflawni a byddant yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau clinigol ac ymchwil.

Mae'r aseiniadau gwaith cwrs a ddatblygir ar gyfer pob modiwl wedi'u cynllunio yn unol â'r ymchwil ddiweddaraf. Byddant yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i’w defnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol, ymchwil ac academaidd.

Yn ystod pob un o'r chwe modiwl a addysgir, bydd gennych dri aseiniad gwaith cwrs i'w cwblhau a'u cyflwyno ar ddiwedd pob modiwl.

Mae natur y gwaith cwrs yn amrywio rhwng modiwlau ond bydd yn cynnwys adroddiadau achos clinigol, traethodau academaidd, prosiectau grŵp (amlddisgyblaethol) a myfyrdodau personol.

Ar ôl cwblhau'r modiwlau a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i'r cam traethawd hir, lle bydd goruchwyliwr yn cael ei neilltuo i chi a bydd disgwyl i chi gyflwyno prosiect traethawd ymchwil hir 15,000 - 20,000 o eiriau.

Bydd eich perfformiad yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ddosbarthiad eich gradd drwy gydol y flwyddyn, fel yr aseswyd drwy'r gwaith cwrs a neilltuwyd yn ystod pob un o'r modiwlau a addysgir a'ch traethawd hir terfynol.

Mae pwysoliad y modiwlau a addysgir ynghyd a'r prosiect traethawd hir yn gyfartal, gyda'r chwe modiwl a addysgir wedi'u cyfuno yn cyfrannu 50% at eich dyfarniad terfynol a'r traethawd hir yn cyfrannu at y 50% sy'n weddill.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn cael ei gyflwyno’n gyfan gwbl ar ffurf dysgu o bell ar ein hamgylchedd dysgu rhithwir Dysgu Canolog, lle bydd myfyrwyr yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac asesiadau.

Mae wythnos gyntaf y cwrs yn cynnwys uned ragarweiniol. Bydd hyn yn mynd â chi drwy bob agwedd ar y cwrs ac mae’n cynnwys seicoleg sylfaenol, ffarmacoleg sylfaenol a seiciatreg sylfaenol i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Yn ystod yr wythnos hon mae tiwtorial ar-lein byw gyda Thiwtor y Cwrs. Y nod, unwaith eto, yw sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad i'r cwrs a deall sut mae'r cyfan yn gweithio.

Yn ogystal â thiwtorialau ar-lein a negeseuon ebost, byddwch yn cael eich cefnogi gan diwtor personol i gael cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Mae llawer o ddeunydd ar-lein a thaflenni a dolenni i eLyfrau ac adnoddau allanol ar y we. Bydd tiwtor grŵp yn cael ei neilltuo i chi, a’r tiwtor hwn fydd eich pwynt cyswllt cyntaf os bydd gennych unrhyw ymholiadau academaidd, ac os na fydd yn gallu rhoi ateb i chi, bydd yn cyfeirio eich ymholiadau at dîm y cwrs.

Mae modd cael trafodaeth un-i-un â thiwtor y cwrs dros ebost ar unrhyw adeg a dros Skype drwy drefnu ymlaen llaw. Bydd tiwtor y cwrs ar gael i ateb cwestiynau ar unrhyw agwedd ar y cwrs.

Bydd goruchwyliwr enwebedig yn cael ei neilltuo i chi pan fyddwch yn gweithio ar eich traethawd hir. Bydd y goruchwyliwr yn gohebu'n rheolaidd i drafod cynnydd, rhoi cyngor ac arweiniad, a rhoi adborth ysgrifenedig ar fersiynau drafft.

Byddwn hefyd yn eich cefnogi drwy:

  • ymateb i'ch ymholiadau
  • bod ar gael i’ch helpu ac i roi cyngor
  • rhoi adborth a marcio gwaith yn brydlon
  • darparu deunyddiau cwrs sy'n glir, yn briodol ac yn gywir
  • asesu gwaith cwrs yn gynhwysfawr ac yn gywir
  • monitro eich cynnydd gyda'r nod o'ch helpu i oresgyn unrhyw anawsterau
  • eich ysgogi i feddwl a dysgu!

Adborth Ffurfiannol

Mae adborth ffurfiannol yn adborth nad yw'n cyfrannu at gynnydd na phenderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod adborth ffurfiannol yw gwella eich dealltwriaeth a'ch dysgu cyn i chi gwblhau eich asesiad crynodol. Yn fwy penodol, mae adborth ffurfiannol yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • canfod eich cryfderau a’ch gwendidau a thargedu meysydd y mae angen gweithio arnyn nhw.
  • helpu staff i’ch cefnogi a rhoi sylw i'r problemau a ganfuwyd, gyda strategaethau wedi'u targedu ar gyfer gwella.

Adborth Crynodol

Adborth crynodol yw adborth sy'n cyfrannu at gynnydd neu benderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod asesiad crynodol yw dangos i ba raddau rydych chi wedi llwyddo i fodloni deilliannau dysgu bwriadedig Modiwl neu Raglen a bydd yn eich galluogi i nodi unrhyw gamau sydd eu hangen er mwyn gwella. Dylai'r holl adborth gysylltu'n uniongyrchol â meini prawf graddio / asesu'r Modiwl.

Bydd adborth cadarnhaol yn cael ei roi ar ôl cwblhau'r holl waith cwrs.

Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?

The Learning outcomes for this Programme describe what you will be able to do as a result of your study at Cardiff University. They will help you to understand what is expected of you and academic staff will focus on precisely what they want you to achieve within each Module. 

Knowledge & Understanding:

Students completing the Programme will demonstrate:

  1. An ability to explain basic science related to the presentation and management of mental illness including behavioural science, human development, neuroscience, genetics and psychopharmacology.

Intellectual Skills:

Students completing the Programme will demonstrate:

  1. An ability to explain the incidence/prevalence, aetiology, classification and progression of these illnesses.
  2. Recognition and evaluation of the signs and symptoms presented by a patient and determine the differential diagnoses and most likely illness.
  3. The ability to select the most appropriate management plan from a given range of possible options, both pharmacological and non-pharmacological, for these illnesses, justify their choice and explain the likely outcome.
  4. The ability to critically appraise psychiatry literature, including appraisal of statistical methods, related to all aspects of these illnesses. 
  5. The ability to synthesise and evaluate a wide range of research material of different quality and conclude what the true state of knowledge in a specific area is.

Transferable/Key Skills:

Students completing the Programme will demonstrate:

  1. The ability to successfully undertake academic medical writing and work independently to study a specific area of Psychiatry.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Oherwydd hyd y rhaglen hon, dim ond myfyrwyr sy'n dod o Gymru a'r UE sy'n bodloni’r gofynion preswylio (mae myfyrwyr sy'n dod o Loegr wedi'u heithrio) sy'n gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig. Rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer benthyciadau Llywodraeth y DU i Ôl-raddedigion.

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,725 Dim
Blwyddyn dau £5,725 Dim
Blwyddyn tri £1,908 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,450 £2,500
Blwyddyn dau £9,450 Dim
Blwyddyn tri £3,150 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen cyfrifiadur dibynadwy â mynediad cyflym at y we (ac amddiffyniad feirws a maleiswedd cyfredol) a meddalwedd priodol.”

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae'r rhaglen hon yn arbennig o addas i'r rhai sy'n dymuno cynyddu eu gwybodaeth am seiciatreg. Bydd y cwrs hwn yn ddefnyddiol i hyfforddeion clinigol seiciatrig yn y DU wrth astudio ar gyfer arholiadau MRCPsych.

Mae graddedigion y rhaglen wedi dweud eu bod wedi mynd ymlaen i wneud PhDs, hyfforddiant pellach i baratoi i fod yn seicolegwyr clinigol, ac amrywiaeth o swyddi sy'n berthnasol i seicoleg a seiciatreg.

Mae’r rhaglen MSc hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn cymryd cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Er nad ydym yn asesu sgiliau neu gymhwysedd clinigol wyneb yn wyneb (nid yw’r rhaglen hon felly’n disodli rhaglen hyfforddi arbenigol ffurfiol), bydd astudio ar y lefel hon yn helpu myfyrwyr llwyddiannus i ddangos sgiliau academaidd niferus y dylid eu gwerthfawrogi’n fawr mewn perthynas â’u datblygiad a’u cynnydd gyrfaol.

Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chyfoethogi posibl ar wasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Felly, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo o ran cael rhagor o gyfrifoldebau, neu o bosib wrth geisio am swyddi rheoli, ymchwil, ysgolheigaidd neu arwain.

Sylwch, nid yw cwblhau'r cwrs hwn yn eich cymhwyso i ymarfer seiciatreg neu alw’ch hun yn seiciatrydd yn y DU neu rywle arall (gan fod y corff rheoleiddio perthnasol yn dyfarnu'r gallu i ymarfer seiciatreg yn eich lleoliad).

Lleoliadau

Nid oes cyfleoedd ffurfiol i fynd ar leoliad neu astudio dramor fel rhan o'r rhaglen hon.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Meddygaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.