Datganiadau’r cyfryngau
Gweithredu diwydiannol wedi'i atal
Datganiad ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, UCU, Unison ac Unite.
Yn dilyn cyfarfod cyffredinol brys ddoe (dydd Iau 1 Mai) rydym yn falch o gadarnhau bod Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) wedi cytuno i atal yr holl weithredu diwydiannol yn eu mandad presennol ar gyfer 2025. Mae hyn yn cynnwys y boicot marcio ac acesu.
Mae Bwrdd Gweithredol y Brifysgol hefyd wedi cytuno i ddiystyru dileu swyddi pob aelod o staff sy’n gysylltiedig â Dyfodol Academaidd a'r rhaglen drawsnewid ehangach yn ystod blwyddyn galendr 2025.
Cafwyd trafodaethau cadarnhaol ac adeiladol rhwng aelodau’r Bwrdd Gweithredol ac undebau llafur y campws yn gynharach yr wythnos hon. Rydym yn ddiolchgar i ACAS (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) am eu gwaith ymgysylltu.
Mae cydweithwyr o UCU, Unison a Unite a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi cadarnhau ein bod oll yn awyddus i weithio gyda’n gilydd er budd y staff, y myfyrwyr a chymuned ehangach y Brifysgol.
Bydd yr ymgynghoriad ar gynigion presennol Ein Dyfodol Academaidd yn dod i ben ar 6 Mai 2025. Mae’r Bwrdd Gweithredol wedi cytuno i ymestyn y cyfnod ymgynghori estynedig tan 30 Mehefin 2025 er mwyn cynnal trafodaethau a gwneud gwaith ymgysylltu pellach â'r Undebau Llafur. Bydd y rhain yn llywio'r cynigion terfynol ac yn cael eu cyflwyno ger bron y Cyngor ar 17 Mehefin.
Mae cydweithwyr yn yr undebau llafur wedi pwysleisio bod angen cynnig mwy o eglurder i aelodau o staff sy'n parhau i fod yn y grŵp a effeithir arno. Mae cwestiynau dilys wedi codi ynglŷn â chanlyniad y broses ymgynghori, a phryd y bydd y staff yn cael gwybod am y canlyniadau hynny.
Cyhoeddir amserlen dros dro cyn bo hir a fydd yn dangos beth fydd yn digwydd rhwng nawr a chyfarfod y Cyngor ar 17 Mehefin. Ar ôl y cyfarfod hwnnw o’r Cyngor, bydd modd inni roi diweddariad pendant ar y cynlluniau a'r effaith y byddant yn eu cael ar staff sydd yn y grŵp a effeithir gan y cynigion.
Mae’r Bwrdd Gweithredol yn cydnabod yr effaith ddynol hynod real y mae’r prosiect Dyfodol Academaidd wedi'i chael, a'r effaith ar staff academaidd ac yn y Gwasanaethau Proffesiynol, a myfyrwyr. Rydym wedi addo gweithio ar y cyd i asesu'r camau y gellir eu cymryd i sicrhau ein bod yn adeiladu ymddiriedaeth ac yn gofalu am iechyd a lles ein staff a myfyrwyr. Mae hyn yn golygu cynnwys yr undebau wrth lywio prosesau gwneud penderfyniadau yn y dyfodol, gan fynd tu hwnt i gynnal ymgynghoriadau ffurfiol sy'n ofynnol yn gyfreithiol.
Hoffai’r Bwrdd Gweithredol ddiolch i UCU, Unison ac Unite am ymgysylltu’n adeiladol â ni ac am y gefnogaeth maent wedi'i dangos i aelodau o staff drwy gydol yr ymgynghoriad ar Ein Dyfodol Academaidd.
Byddwn yn parhau i gynnig y wybodaeth ddiweddaraf i bob aelod o’r staff a myfyrwyr.
Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, University and College Union (UCU), Unison a Unite.