Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad gan Bennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth – dydd Gwener, 20 Tachwedd, 2020

Meddai’r Athro Urfan Khaliq: “Nid oes unrhyw beth anoddach na cholli bywyd ifanc a’r holl botensial, addewid a dyfodol oedd i ddod. Cymuned yw Prifysgol Caerdydd: y myfyrwyr yw’r rheswm pam yr ydym yma, ac yn ystod eu hamser yn astudio yn y Brifysgol, rydym oll yn aelodau o’r un gymuned. Mae marwolaeth Megan wedi syfrdanu pob un ohonom, staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Fodd bynnag, ers ychydig fisoedd yn unig yr ydym wedi adnabod Megan. Ni fedrwn ddirnad y golled i’w theulu a’i ffrindiau. Rydym yn cydymdeimlo’n fawr â phob un ohonynt ac rydym yma i’w cefnogi ym mha bynnag ffordd bosibl.”