Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol (ILEP) - 04.05.2021
Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol (ILEP)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol newydd (ILEP), yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i roi’r gorau i fod yn rhan o gynllun Erasmus+.
Mae ILEP wedi’i chreu i alluogi dysgwyr a staff, ble bynnag y maent, ac sydd wedi ymrestru mewn sefydliad yng Nghymru, i barhau i elwa ar raglenni cyfnewid rhyngwladol tebyg i Erasmus+, nid yn unig yn Ewrop, ond hefyd y tu hwnt.
Bydd buddsoddiad o £65m gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynllun newydd hwn a gynhelir rhwng 2022 a 2026.
Gyda lwc, bydd tua 15,000 o bobl o Gymru yn cymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid tramor, a bydd 10,000 yn dod i astudio neu weithio yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd rhaglen ILEP ar gael ar gyfer dysgwyr a staff ar bob lefel yn y sectorau canlynol:
- · Addysg Uwch
- · Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, gan gynnwys Addysg Oedolion
- · Ysgolion
- · Gwaith Ieuenctid
Bydd sefydliadau yng Nghymru yn gallu cymryd rhan yng Nghynllun Turing Llywodraeth y DU hefyd, yn ogystal â pharhau i fanteisio ar gyfnewidiadau Erasmus+ yn 2021-22 a ohiriwyd y llynedd oherwydd y pandemig.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cytuno i ddatblygu’r rhaglen yn fanwl dros y flwyddyn nesaf.
Y Brifysgol fydd â rôl Gweithredwr y Rhaglen er mwyn sicrhau bod ILEP yn diwallu anghenion ar draws y sector addysg gyfan.
Bydd Bwrdd Cynghori’n cael ei sefydlu fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o: Lywodraeth Cymru; Prifysgolion Cymru; Colegau Cymru; Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol; Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; UCM Cymru; Senedd Ieuenctid Cymru; Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a'i olynydd.
Bydd gan y sefydliadau hyn rôl flaenllaw wrth sicrhau bod ceisiadau’n cael eu hannog a’u cefnogi ar draws pob sector a bod cyfleoedd yn cael eu hyrwyddo ledled Cymru.
Er mwyn bod yn gwbl agored, mae’r Brifysgol wedi cytuno i weithredu’r rhaglen ar ran Llywodraeth Cymru drwy is-gwmni y mae’r Llywodraeth yn berchen arno’n llwyr.
Mae’r Brifysgol yn awyddus i recriwtio Cyfarwyddwr dros dro ar gyfer y rhaglen ar hyn o bryd er mwyn ei sefydlu a sicrhau adnoddau ar ei chyfer.
Bydd gan Weithredwr y Rhaglen tua 18 mis ar ôl dechrau gweithio arni cyn i’r cyfnewidiadau ddechrau.
Bydd y gweithgareddau cyfnewid yn cychwyn ar ddechrau blwyddyn academaidd 2022-23. Bydd pedair blynedd lawn o weithgareddau cyfnewid. Bydd y rhain yn cael eu cynnal o flwyddyn academaidd 2022-23 tan 2025-26. Bydd arian yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau parhaus, adroddiadau terfynol ac er mwyn dod â phrosiectau i ben.
Rhagor o wybodaeth
Bydd gwefan bwrpasol yn cael ei chreu yn rhan o’r rhaglen fydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd.
Os oes gennych ymholiad brys, cysylltwch â communications@caerdydd.ac.uk.