Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac Undeb y Prifysgolion a Cholegau am USS

Mae Prifysgol Caerdydd a changen leol UCU (UCU Caerdydd) wedi gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar ddatganiad ar y cyd yn ymwneud â'r anghydfod USS presennol.  Mae hyn yn dilyn deialog adeiladol ar lefel leol rhwng Prifysgol Caerdydd ac UCU Caerdydd.

Rydym yn cydnabod bod newidiadau i gronni buddion pensiwn dros y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud USS yn bensiwn llai deniadol. Mae'r newidiadau hyn wedi effeithio'n anghymesur ar wahanol grwpiau o aelodau, ond bydd pob aelod wedi bod ar ei golled i ryw raddau. Ar yr un pryd, mae lefelau presennol buddion a chyfraniadau USS yn her i gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd.

Mae'n destun gofid nad yw’r Aelodau yn ymddiried mwyach yn nulliau llywodraethu a phrisio USS. Mae angen i USS fod yn gynllun pensiwn dibynadwy a gwerthfawr gan ei fod yn rhan bwysig o delerau ac amodau cyflogaeth Prifysgol Caerdydd. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gynorthwyo ymdrechion cenedlaethol i gyflawni hyn.

At hynny, mae'r Brifysgol ac UCU Caerdydd, drwy weithio mewn partneriaeth, yn galw ar y naill ochr i:

  1. Gydnabod y dylai dull Ymddiriedolwr USS o brisio asedau a rhwymedigaethau'r cynllun nesaf, yn ogystal â’i amseriad, fod yn gymharol ddarbodus ac yn seiliedig ar dystiolaeth er mwyn manteisio i'r eithaf ar unrhyw gynnydd posibl mewn gwerth.
  2. Sicrhau y dylid defnyddio unrhyw gynnydd mewn gwerth sy'n deillio o'r prisiad nesaf i wella buddion i aelodau.
  3. Parhau i gefnogi’r egwyddor o gynllun Buddiannau Diffiniedig.
  4. Cefnogi argymhellion JEP ar lywodraethu USS i roi mwy o gynrychiolaeth i randdeiliaid er mwyn i aelodau chwarae rhan fwy amlwg yn ei broses brisio. Bydd hyn yn cynnwys rhoi mewnbwn ar faterion fel rhagdybiaethau prisio a strategaethau sy'n ymwneud â buddsoddi a chyllido.
  5. Cydnabod pwysigrwydd cynnal a chyhoeddi canlyniadau Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb, gan gynnwys asesiadau ar draws y sector, ar bob newid pensiwn i'r cynllun ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a'u hystyried wrth ystyried unrhyw gynigion yn y dyfodol.

Rydym yn annog pawb o dan sylw i geisio meithrin ymddiriedaeth drwy drafod y broses brisio a chyfathrebu yn ei gylch mewn modd agored ac ar sail tystiolaeth.

Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o UUK a bydd yn defnyddio’i rôl i weithio'n galed i ategu'r pwyntiau a nodir uchod. Bydd UCU Caerdydd yn gwneud yr un peth yn rhinwedd ei rôl yn rhan o'r undeb cenedlaethol.