Diweddariad ar drafodaethau rhwng y Brifysgol ac Undebau Llafur y campws
Datganiad ar y cyd gan Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, University and College Union, Unite a Unison.
Yn gynharach yr wythnos hon, cytunodd Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) i ohirio'r gweithredu diwydiannol a oedd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Iau, a hynny er mwyn i ni gyfarfod ar y cyd i drafod prosiect Ein Dyfodol Academaidd.
Cawson ni drafodaethau cadarnhaol ac adeiladol iawn, ac rydyn ni’n ddiolchgar i ACAS (y ‘Advisory, Conciliation and Arbitration Service’) am gadeirio’r cyfarfod. Mae cydweithwyr o UCU, Unite, Unison a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol i gyd wedi cadarnhau ein hawydd cryf i weithio ar y cyd er budd y staff, y myfyrwyr a chymuned ehangach y Brifysgol.
Os bydd aelodau UCU yn cytuno i atal yr holl weithredu diwydiannol o dan y mandad presennol ar gyfer 2025, mae'r Brifysgol yn gallu cadarnhau y bydd yn diystyru dileu swyddi gorfodol i'r holl staff sy'n gysylltiedig ag Ein Dyfodol Academaidd neu'r rhaglen drawsnewid ehangach cyn diwedd blwyddyn galendr 2025. Mae'r Brifysgol yn gallu gwneud hyn oherwydd nifer y ceisiadau am y Cynllun Dileu Swyddi Gwirfoddol sydd wedi dod i law hyd yma. Bydd yr UCU yn cynnal cyfarfod cyffredinol eithriadol yfory (dydd Iau, 1 Mai) i drafod y cynnig hwn gyda'u haelodau.
Mae cydweithwyr o'r Undebau Llafur wedi pwysleisio'r angen am eglurder i'r aelodau hynny sy'n dal i fod o fewn cwmpas y cynigion. Mae cwestiynau dilys wedi cael eu codi ynglŷn â chanlyniad y broses ymgynghori, a phryd y bydd y staff yn cael gwybod am y canlyniadau hynny. Rydyn ni wedi addo cyhoeddi amserlen dros dro yr wythnos nesaf, a fydd yn dangos beth sy'n digwydd rhwng diwedd yr ymgynghoriad a chyfarfod y Cyngor ar 17 Mehefin. Y cyfarfod Cyngor hwnnw yw'r pwynt lle gallwn ni roi diweddariad pendant ar gynlluniau a'r effaith y byddan nhw’n ei chael ar staff y mae eu swyddi o fewn cwmpas y cynigion.
Rydyn ni eisiau cydnabod yr effaith go iawn y mae prosiect Ein Dyfodol Academaidd wedi'i chael ar bobl, a lefel y pryder y mae’r gwasanaethau academaidd a phroffesiynol wedi’i deimlo’n gyffredinol. Unwaith eto rydyn ni wedi addo i weithio ar y cyd i asesu'r camau y gallwn ni eu cymryd i sicrhau ein bod yn gofalu am iechyd a lles ein staff.
Byddwn ni’n parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’r holl staff.
Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, University and College Union, Unite a Unison.