Ewch i’r prif gynnwys

Neges i Gadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Prifysgol Caerdydd o'r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr - 20.5.21

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Annwyl Joe,

Diolch am eich llythyr diweddar sy'n galw ar Brifysgol Caerdydd i fabwysiadu diffiniad gweithredol Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost (IHRA) o wrth-semitiaeth.

Fel y nodwyd yn eich llythyr, gwnaeth yr Is-Ganghellor argymell mabwysiadu diffiniad IHRA yn ddiweddar, ynghyd â'r eglurhad ychwanegol a gynigiwyd gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref.

Mae ein prosesau llywodraethu’n mynnu bod pwyllgorau priodol y Brifysgol yn trafod ac yn ystyried materion pwysig fel y rhain.

Cafodd y diffiniad ei drafod yn fanwl gan yr Is-bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a phenderfynwyd argymell mabwysiadu’r diffiniad, er nad oedd pawb ar yr is-bwyllgor yn cytuno â’r penderfyniad hwn. Ym mis Chwefror, ystyriodd y Senedd a ddylid mabwysiadu diffiniad IHRA o wrth-semitiaeth yn ogystal â diffiniad Grŵp Seneddol Hollbleidiol Mwslimiaid Prydain o Islamoffobia. Gan gydnabod y gall mabwysiadu diffiniadau penodol – hyd yn oed y rhai a gefnogir ar draws y sector – greu aneglurder mewn perthynas â'r union grwpiau y mae diffiniadau o'r fath yn ceisio eu gwarchod, argymhellodd y Senedd y dylem oedi a thrafod y mater hwn ymhellach.

Felly, aethpwyd ati fel sy’n briodol i gael barn Cyngor y Brifysgol ar y mater. Ystyriodd y Cyngor y mater yn drylwyr. Cytunodd â'r pwyntiau a wnaethpwyd yn y Senedd, a daeth i'r casgliad y gallai mabwysiadu diffiniadau dethol o grefydd neu hil benodol roi’r argraff anffodus eu bod yn eithrio grwpiau ffydd neu hiliau eraill nad oes diffiniadau wedi cael eu mabwysiadu ar eu cyfer. Osgoi sefyllfa a allai achosi gwrthdaro o’r fath oedd y brif ystyriaeth y tu ôl i benderfyniad y Cyngor i beidio â mabwysiadu'r naill ddiffiniad. Ar ben hynny, roedd y Cyngor yn glir bod polisïau presennol y Brifysgol, sy’n rhan o fframweithiau deddfwriaethol ehangach, yn gadarn.

Mae’r Brifysgol yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu ei holl fyfyrwyr a’i staff, ni waeth beth fo'u crefydd, hil neu gred. Rydym yn mynd i’r afael â phob math o wahaniaethu a hiliaeth ac yn addo parhau i werthuso effeithiolrwydd y polisïau hynny’n ofalus.

Mae'r Brifysgol eisoes yn cyfeirio at ddiffiniad IHRA mewn canllawiau ar fewnrwyd y staff a’r myfyrwyr ynghylch polisi’r sefydliad ar gyfer Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio, ac mae gwrth-semitiaeth wedi'i nodi'n benodol yn y canllawiau hyn fel ymddygiad cwbl annerbyniol. Mae ein Tîm Ymateb i Ddatgeliadau’n rhoi cymorth arbenigol i unrhyw fyfyriwr sy'n profi troseddau casineb, gan gynnwys y rhai ar sail crefydd, ac rydym yn mynd ati i atgoffa myfyrwyr yn rheolaidd bod y gwasanaeth hwn ar gael iddynt.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Yn gywir,

Claire Morgan

Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr