Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad i BBC Wales – dydd Mercher 18 Tachwedd, 2020

Rydym wir wedi ein synnu a’n tristáu gan farwolaeth druenus un o’n myfyrwyr. Rydym mewn cysylltiad â’u perthynas agosaf, yn meddwl amdanynt ac yn cydymdeimlo â nhw ar yr adeg arw a heriol hon. Mae ein gwasanaeth Cefnogi a Lles Myfyrwyr mewn cysylltiad â’r myfyrwyr hynny sydd wedi’u heffeithio fwyaf i gynnig cyngor a chefnogaeth. Mae amgylchiadau’r farwolaeth alaethus hon yn destun ymchwiliad gweithredol a pharhaus gan yr heddlu. Rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu De Cymru i’w cynorthwyo mewn unrhyw ffordd bosibl. Ar yr adeg hon, byddai’n amhriodol cynnig sylwadau pellach.