Ewch i’r prif gynnwys

Trawsffurfio Caerdydd

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Heddiw mae Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi Trawsffurfio Caerdydd, rhaglen fydd yn galluogi’r Brifysgol i weithredu ei chynllun strategol uchelgeisiol, Y Ffordd Ymlaen 2018-23, a hynny mewn ffordd arloesol a chynaliadwy yn ariannol.

Mae'r rhaglen wedi'i threfnu'n ofalus, gam wrth gam, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ac er mwyn rheoli llwyth gwaith. Bydd hefyd yn cadw at amserlen Y Ffordd Ymlaen.

Mae'r Brifysgol wedi cadw ei huchelgais i fod ymhlith y 100 uchaf yn y byd a'r 20 prifysgol orau yn y DU, ac i gyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd ehangach.

Fodd bynnag, mae'n rhaid iddi gyflawni'r uchelgeisiau hyn mewn modd sy'n rhoi'r Brifysgol yn ôl mewn gwarged yn 2019/20. Roedd gan y Brifysgol ddiffyg o £22.8 miliwn yn 2017/18, ar ôl i wariant gynyddu 5.2%, gyda chynnydd o ddim ond 2.5% mewn incwm.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, "mae Trawsffurfio Caerdydd yn rhaglen newid sy'n ein galluogi i alinio gofynion ariannol â ffyrdd arloesol o addysgu, cynnal gwaith ymchwil, a chyflawni ein cenhadaeth ddinesig. Rydym yn cynnig cyrsiau newydd mewn meysydd lle ceir heriau byd-eang sy'n bwysig i Gymru, fel Gwyddor Data a Gwyddorau Amgylcheddol. Rydym hefyd yn cynnig creu Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Arferion Creadigol newydd i roi cyfleoedd newydd ar gyfer gweithio ar draws disgyblaethau. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein pobl ragorol, ac rydym am reoli'r rhaglen newid hon dros gyfnod o bum mlynedd fel y gallwn gynnal rhagoriaeth a'i datblygu ymhellach."

Mae nifer o bwysau o ran costau, a chost cyflogaeth yw'r mwyaf. Mae costau staff wedi bod yn codi'n gynt na'r incwm dros y tair blynedd diwethaf, ac erbyn hyn mae'r ffigurau hynny'n anghyson â chostau prifysgolion tebyg. Ar gyfer 2017/18, roedd costau staff yn 59.6% o'n cyfanswm incwm, sef y ganran uchaf yng Ngrŵp Russell.

Mae'r Brifysgol am wneud yn siŵr nad yw costau staff i’w gyfrif am fwy na 56% o'n hincwm erbyn 2022/23.

Mae'r Brifysgol yn bwriadu gostwng lefelau staff cyfredol 7%, neu 380 cyfwerth ag amser llawn, dros bum mlynedd. Mae modd cyflawni hyn o ystyried mai 6% yw ein trosiant staff blynyddol gwirfoddol ar gyfartaledd.

Nid oes unrhyw ddiswyddiadau gorfodol wedi cael eu cynnig i'r Cyngor ar hyn o bryd. Yn ddiweddar mae'r Brifysgol wedi cyflwyno rheolaethau recriwtio ac wedi lansio Cynllun Diswyddo Gwirfoddol, ac mae llawer wedi dangos diddordeb yn y cynllun. Fodd bynnag, ni all y Brifysgol warantu na fydd unrhyw ddiswyddo gorfodol yn y dyfodol.

Mae'r rhaglen yn cynnwys pum thema: newid sefydliadol, trawsffurfio gwasanaethau, addysg, ymchwil, ac ystadau.

Mae'r syniadau cychwynnol dan thema newid sefydliadol yn cynnwys:

  • Creu Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Ymarfer Creadigol newydd er mwyn cefnogi addysgu trawsddisgyblaethol
  • Adolygiad o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd er mwyn gwella sut rydym yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno pynciau perthynol i iechyd a nyrsio ledled Cymru
  • Cyd-leoli'r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg a'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol er mwyn rhoi strwythur unedig ar waith a gwneud defnydd mwy effeithiol o'r ystâd

Mae syniadau trawsffurfio gwasanaethau yn seiliedig ar greu un gwasanaeth proffesiynol hynod effeithiol ar draws y Brifysgol.

Nod y syniadau addysg yw ein galluogi i greu profiad cyson ac o ansawdd uchel i fyfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys cynigion am gyrsiau newydd fel:

  • cwricwlwm daearyddiaeth diwygiedig sy'n ychwanegu at arbenigedd daearyddiaeth a gwyddorau'r ddaear
  • creu cyrsiau newydd ym maes cyfrifiadureg, y biowyddorau, y gwyddorau amgylcheddol, a seicoleg.

Mae'r syniadau ymchwil yn ein galluogi i gynnal ein rhagoriaeth ymchwil a sicrhau twf cynaliadwy.

Bydd cynlluniau ystadau'n gwneud penderfyniadau am wahanol fannau sy'n cael eu defnyddio gennym i gefnogi ein huchelgais.

Bydd cyfnod ymgysylltu helaeth yn dechrau nawr.

Cafodd cynigion Trawsffurfio Caerdydd eu cymeradwyo gan y Cyngor ar 11 Chwefror. Dywedodd yr Athro Stuart Palmer, Cadeirydd y Cyngor, "Fel pob prifysgol, mae Prifysgol Caerdydd yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Mae'r Cyngor yn hyderus y bydd Trawsffurfio Caerdydd yn rhoi'r Brifysgol yn ôl mewn gwarged mewn modd sy'n tarfu cyn lleied â phosibl ar ein staff a myfyrwyr rhagorol.

"Rwy'n falch o weld bod Caerdydd yn parhau i fod yn sefydliad uchelgeisiol sy'n benderfynol o gyflawni'r nodau a bennwyd yn Y Ffordd Ymlaen, 2018-23."

-Diwedd-