Prif Adeilad - 09/05/23
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
16:50: Mae'r Prif Adeilad wedi ail-agor i'n staff a'n myfyrwyr. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.
13:52: Nid ydym yn gwybod eto pa gemegyn oedd yn gollwng. Mae achosion fel hyn yn brin ofnadwy, ond pan fyddant yn digwydd, rydym yn gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch staff a myfyrwyr. Nid oes gennym fanylion pellach ar hyn o bryd [Ymateb i Wales Online].
12:39: Rydym wedi cael gwybod bod cemegion wedi’u gollwng yn Mhrif Adeilad y Brifysgol. Mae’r achos dan reolaeth, ond mae’r adeilad wedi’i wacáu ac ar gau dros dro. Mae’r gwasanaethau brys ar y safle ar hyn o bryd. Does dim anafiadau difrifol wedi’u hadrodd hyd yma. Mae’r parafeddygon yn gweithio gyda rhai fel mesur rhagofalus. Bydd y Brif Adeilad yn dal i fod ar gau nes y byddwn yn hyderus nad oes risg i iechyd a diogelwch.
Fe rannwn y diweddaraf â staff a myfyrwyr cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael.