Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen ddogfen BBC Three - 28/04/2021

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae'n ddrwg iawn gennym am y ddrama a gynhaliwyd o dan arweiniad myfyrwyr, a'r boen a'r gofid a achosodd i'n myfyrwyr a'n staff.

Rydym yn cydnabod i ni fethu â rhagweld dyfnder yr ymateb a'r teimlad ymhlith carfan y myfyrwyr meddygol.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu, ei reoli a’i ysgrifennu gan gymdeithas myfyrwyr. Nid oedd Prifysgol Caerdydd (na'r Ysgol Meddygaeth) yn gysylltiedig â threfnu na rheoli'r digwyddiad, ac ni wnaeth unrhyw un y#isuniracistmgynghori â ni ymlaen llaw na rhoi gwybod i ni am y cynnwys.

Ni wnaeth y Brifysgol geisio cuddio’r digwyddiad hiliol, homoffobig hwn oedd yn ymwneud â materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac aethom ati i gymryd camau ar unwaith i wahardd y rhai fu’n gysylltiedig rhag ymarfer yn glinigol. Fe wnaethom hefyd gynnal archwiliad ffurfiol ac arwain 32 o fyfyrwyr meddygol drwy ein gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer.

Ar ben hynny, fe gymerodd yr Is-Ganghellor y cam digynsail o gomisiynu panel arbenigol ac annibynnol i adolygu achosion o hiliaeth yn y sefydliad.

Roedd y panel yn cynnwys Prif Weithredwr Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, bargyfreithiwr, a Phrif Weithredwr yr Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb, a chafodd fynediad llawn at yr holl wybodaeth oedd ar gael yn ogystal â chefnogaeth i gyfweld staff a myfyrwyr.

Cyhoeddwyd yr adroddiad annibynnol oedd yn cynnwys cyfres o argymhellion. Derbyniwyd y rhain yn llawn a chafodd aelod staff penodol, oedd yn atebol i’r Dirprwy Is-Ganghellor, y cyfrifoldeb o arwain y broses o’u rhoi ar waith.

Ers hynny rydym wedi sefydlu ein Tîm Ymateb i Ddatgeliadau, tîm o staff arbenigol y Brifysgol sydd wedi'u hyfforddi i ymateb i ddatgeliadau o drais a cham-drin. Rydym hefyd wedi sefydlu ein Panel Goruchwylio Cydraddoldeb Hiliol, i godi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb hiliol, rhoi cyngor ar berthnasoedd rhwng staff a myfyrwyr, ac annog pawb i roi gwybod am achosion o aflonyddu hiliol.

Cyfeiriwyd at y gwaith hwn mewn adroddiad diweddar gan y Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) fel ymarfer gorau, ac mae wedi'i gynnwys yng nghanllaw newydd UUK fel astudiaeth achos ac yng 'Nghanllaw Adnoddau Cryfhau Cydraddoldeb Hiliol'.  Rydym wedi diweddaru ein Gweithdrefn Cwynion Myfyrwyr hefyd.

Mae'r materion sy'n ymwneud â hiliaeth a godwyd gan y digwyddiad yn cael eu cymryd yn gyfan gwbl o ddifrif, ac ar lefel uchaf y sefydliad, wrth i ni barhau i drawsnewid diwylliant ar draws y Brifysgol.