Ewch i’r prif gynnwys

Llythyr agored oddi wrth yr Is-Ganghellor

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn rhannu’r ymdeimlad dwys o ddicter ac yn condemnio’r llofruddiaeth yn y ffordd gryfaf bosibl.

Mae llofruddiaeth George Floyd yn enghraifft arall o’r trais a’r gwahaniaethu y mae pobl dduon yn eu hwynebu’n ddyddiol.

Er mai yn yr Unol Daleithiau y digwyddodd hyn, mae’n gwbl amlwg ei fod wedi effeithio ar bobl dduon y wlad hon lawn cymaint. Rwyf yn deall i ba raddau mae hiliaeth a gwahaniaethu yn bodoli yn ein cymdeithas a sut mae’n amlygu ei hun yn ein holl sefydliadau.

Rwyf yn deall y boen, y dicter a’r rhwystredigaeth y bydd pobl dduon yn eu teimlo o ganlyniad i ddigwyddiadau digalon ac erchyll yr wythnos ddiwethaf.

Fel y nodwyd yn glir yn ein datganiad cyhoeddus, rydym yn benderfynol nad oes lle i hiliaeth a gwahaniaethu yn ein cymdeithas fodern.

Mae llofruddiaeth George Floyd, effaith anghymesur Covid-19 ar gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a’r achosion parhaus o anghyfiawnder wedi achosi poen a dioddefaint i gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Rhaid cydnabod hyn a mynd i’r afael â’r broblem.

Gallaf eich sicrhau bod Prifysgol Caerdydd yn benderfynol o fod yn rym sy’n cefnogi newid.

Rhaid i ni adnewyddu a chynyddu ein hymdrechion i gael gwared ar hiliaeth a mynd i’r afael â’r rhwystrau strwythurol sy’n bodoli o hyd i’n staff a’n myfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Mae rhywfaint o’r gwaith hwn yn cynnwys hwyluso sgyrsiau a thrafodaethau am hil. Mae cynnal y sgyrsiau a’r trafodaethau hyn wedi ein galluogi i feithrin amgylcheddau mwy cynhwysol ac rydym yn deall pa mor hanfodol yw gwrando ar brofiadau go iawn ein myfyrwyr a’n staff du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Er fy mod yn cydnabod ac yn deall eich teimladau cryfion, rwyf am eich sicrhau bod camau’n cael eu cymryd.

Er mor araf y mae pethau’n gwella ar un olwg, mae staff a myfyrwyr hynod ymroddgar a llawn cymhelliant ar draws y Brifysgol yn gwneud llawer iawn o waith i fynd i’r afael â sawl un o’r materion a godwyd gennych.

Un o fy nghyfrifoldebau personol i yw cadeirio’r Grŵp Amrywiaeth mewn Arweinyddiaeth sy’n ceisio cynyddu amrywiaeth ymhlith y rhai sy’n arwain ac yn gwneud penderfyniadau yn y Brifysgol. Yn rhan o’r gwaith hwn, rydym yn edrych ar yr hyn a allai fod yn rhwystro pobl rhag datblygu neu gael dyrchafiad.

Mae’r Grŵp Llywio Cydraddoldeb Hiliol yn edrych ar gydraddoldeb hiliol ar draws y Brifysgol. Ar hyn o bryd, mae’r Grŵp yn adolygu prosesau a gweithdrefnau sy’n ein rhwystro rhag recriwtio, cadw a dyrchafu staff a myfyrwyr amrywiol.

Mae’r Grŵp eisoes wedi cyflwyno argymhellion ar gyfer newid mewn meysydd amrywiol gan gynnwys cwestiynau recriwtio sy’n cynnwys ymrwymiad i amrywiaeth, hysbysebu mewn cyhoeddiadau amrywiol ac ymgysylltu â’r gymuned ehangach.

Ceir dau is-grŵp hefyd sy’n cynnwys staff a myfyrwyr sy’n adrodd yn ôl i’r Grŵp er mwyn i ni allu bod yn siŵr ein bod wedi ystyried amrediad addas o safbwyntiau.

Ar gyfer ein myfyrwyr, rydym wedi sefydlu grŵp du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i ystyried y materion sy’n cyfrannu at y bwlch mewn cyrhaeddiad. Maent yn paratoi cyfres o argymhellion i’w rhoi ar waith fydd yn cau’r bylchau hyn ac yn gwella deilliannau i fyfyrwyr yn y tymor hir. Y nod yw cefnogi amrywiaeth, hyrwyddo amgylchedd agored a chynhwysol, yn ogystal â chreu darlun cywir a defnyddiol o brofiadau myfyrwyr a staff du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Rydym hefyd am greu lle diogel lle gall holl aelodau o gymuned myfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ddod ynghyd i drin a thrafod llenyddiaeth ddiwylliannol amrywiol, gwrando ar ystod o siaradwyr a chymryd rhan mewn sgyrsiau bywiog. Un o’r ffyrdd yr ydym wedi ceisio gwneud hyn yw drwy greu clwb llyfrau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ac mae ein myfyrwyr wedi ei groesawu a’i gefnogi.

Ar ben hynny, rydym wedi sefydlu panel Trafod Cydraddoldeb Hiliol sy’n ceisio hyrwyddo newidiadau yn yr amgylchedd diwylliannol. Mae’n gwneud hyn drwy adlewyrchu profiadau amrywiol ein staff a’n myfyrwyr a chynnig lle diogel er mwyn cynnal trafodaethau hanfodol ynghylch hil.

Yn ôl yn 2017, fe wnaethom lansio ymgyrch #FiHefydYwCaerdydd, sef arddangosfa i gynyddu cyfathrebu ar draws diwylliannau a chenedlaethau. Mae’n ceisio codi ymwybyddiaeth o rai o’r anawsterau y mae myfyrwyr BME yn eu hwynebu a sut maent yn teimlo ac yn meddwl am eu bywydau bob dydd. Y nod yw creu balchder a meithrin diwylliant o oddefgarwch.

Yn bwysicach fyth, rydym am wneud yn siŵr bod ein myfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael y gefnogaeth gywir sydd ei hangen arnynt. Dyna pam yr ydym wedi buddsoddi mewn staff du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn ein Gwasanaeth Cefnogi a Lles Myfyrwyr.

Mae angen i fyfyrwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol hefyd deimlo eu bod yn gallu rhoi gwybod am achosion o hiliaeth a bod yn hyderus y caiff camau priodol eu cymryd. Mae rhoi gwybod am achosion drwy ein Tîm Ymateb i Ddatgeliadau yn un o’r ffyrdd sydd ganddynt i wneud hynny. Maent yn dîm o staff arbenigol yn y Brifysgol sydd wedi’u hyfforddi i ymateb i ddatgeliadau o drais a cham-drin.

Mae ein Panel Goruchwylio Cydraddoldeb Hiliol yn ail ddull yr ydym wedi’i roi ar waith. Cafodd ei sefydlu i godi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb hiliol, rhoi cyngor ar gysylltiadau rhwng staff a myfyrwyr, a rhoi rhagor o anogaeth iddynt roi gwybod am aflonyddu hiliol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rydym yn cefnogi myfyrwyr sydd wedi’u heffeithio gan aflonyddu, troseddau casineb a mathau eraill o ymddygiad annerbyniol.

Mae gan y Brifysgol weithdrefn gwynion ffurfiol hefyd. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu archwilio’n effeithiol, mae’nbwysig bod myfyrwyr yn cyflwyno cwynion yn ffurfiol er mwyn gallu eu harchwilio drwy sianeli priodol y Brifysgol.

Rwyf yn derbyn bod llawer iawn i’w wneud o hyd, ond rydym wedi ymrwymo i ymgorffori cydraddoldeb, ymwybyddiaeth a newid ym mhob agwedd ar ein gwaith, ac rwyf yn eich sicrhau ein bod yn ystyried yr ymrwymiad tymor hir hwn yn gwbl o ddifrif.

Mae’r digwyddiadau diweddar yn dangos pa mor ddwfn ac ofnadwy yw anghydraddoldeb a gwahaniaethu hiliol yn ein cymdeithas o hyd.

Rhaid i’n diben fel Prifysgol fod er budd cymdeithas.  A ninnau’n sefydliad addysgol, mae newid y cwricwlwm ac addysg yn hollbwysig. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 yn cynnwys camau i ddatblygu cwricwlwm cynhwysol fydd yn ailasesu’r amgylchedd dysgu a chynnwys rhaglenni. Drwy’r gwaith hwn, byddwn yn parhau i fynd i’r afael â gwahaniaethu, ac rydym yn benderfynol o gael gwared arno.

Yn gywir

Colin Riordan

Is-Ganghellor