Ewch i’r prif gynnwys

Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall - 17/2/23

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Ni chyflwynodd Prifysgol Caerdydd wybodaeth yn rhan o rownd ddiwethaf Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. Dyna pam nad ydym ar y rhestr eleni.

Dyma benderfyniad gweithredol a wnaed ar adeg pan rydym yn diweddaru ein strwythurau a’n prosesau i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hyn wedi ein galluogi i bwyso a mesur lle rydym arni o ran cydraddoldeb LHDTC+ yn y sefydliad ac ystyried yr hyn y mae angen i ni ei wneud i gyflawni ein blaenoriaethau.

O ystyried yr amserlen bresennol, rydym yn dal i ystyried a yw’n bosibl i ni gyflwyno gwybodaeth yn rhan o’r rownd nesaf.

Rydym yn cydnabod y gwaith gwerthfawr y mae Stonewall yn ei wneud i’n helpu i ddatblygu polisïau ac arferion sy’n sicrhau bod y rhai sy’n perthyn i’n cymuned LHDTC+ yn gwybod bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae Prifysgol Caerdydd yn dal i fod yn un o Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall.  Mae ein hymrwymiad i’r gymuned LHDTC+ yn hirsefydlog ac yn anghyfnewidiadwy, ac rydym yn falch o gael ein cydnabod yn rheolaidd dros flynyddoedd lawer yn un o’r prif gyflogwyr yn y DU ar gyfer aelodau o’r gymuned LHDTC+.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau amgylchedd cynhwysol i ddysgwyr, myfyrwyr a staff LHDTC+.