Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddiadau llywodraethau Cymru a'r DU ynghylch graddau

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydym yn croesawu datganiad llywodraethau Cymru a'r DU am y penderfyniad i ddyfarnu graddau Safon Uwch, Safon UG, TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru yng Nghymru a Lloegr ar sail graddau’r Ysgol neu’r Coleg.

Os yw hyn wedi effeithio arnoch, byddwn yn cadw at ein cynnig o le yn 2020 (neu 2021 i’r rheiny sydd am ohirio mynediad) i’r holl ymgeiswyr a’n dewisodd ni’n gadarn, ac i’r rheiny a’n dewisodd fel eu dewis wrth gefn (os nad ydynt wedi bodloni amodau’r cynnig gan eu dewis cadarn na’u derbyn gan brifysgol eu dewis cadarn) y mae eu graddau’n bodloni amodau eu cynnig erbyn y terfynau amser canlynol:

7 Medi 2020 – i’r holl raglenni heblaw y rheiny a restrir isod.
31 Awst 2020 – ar gyfer rhaglenni yn ein Hysgolion Pensaernïaeth, Deintyddiaeth, Gwyddorau Gofal Iechyd, Meddygaeth a Fferylliaeth ar gyfer mynediad yn 2020. Ar ôl y dyddiad hwn a hyd at 7 Medi, byddwn yn dal i gadw at gynnig o le, ond efallai bydd ar gyfer mynediad yn 2021.

Nid oes gennym fynediad at y Graddau Asesiadau Canolfan. Cyn gynted â’ch bod yn cael cadarnhad swyddogol o’r graddau hyn,  cysylltwch â'r tîm Derbyn fel y gallwn eich cynghori.