Ewch i’r prif gynnwys

Graddio 2022 - 07/03/22

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Diolch am eich ebost ac am eich adborth yn mynegi eich pryderon ynghylch cynlluniau ar gyfer Graddio 2022.

Rydym yn cydnabod bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd a heriol i'n holl fyfyrwyr. Rydym hefyd yn cydnabod yr aflonyddwch y mae COVID-19 wedi'i gael ar eu profiadau o fod yn fyfyrwyr a'u bywydau bob dydd.

Gwyddom mai Graddio yw uchafbwynt taith academaidd ein myfyrwyr gyda ni. Mae'n ddathliad o'u hymdrechion ac yn gyfle i ffrindiau, teulu a staff academaidd ddod ynghyd i nodi a dathlu eich cyflawniadau.

Gwnaethom addewid i'n holl raddedigion y byddem yn cyflwyno digwyddiad Graddio wyneb yn wyneb cyn gynted ag y byddai'n ddiogel i wneud hynny. Diben y digwyddiad fyddai cydnabod myfyrwyr yr holl flynyddoedd hynny yr effeithiwyd arnynt. Fel y gallwch ei werthfawrogi, rwy’n siŵr, mae hyn yn gryn her o ran ystyriaethau logistaidd. Rydym yn wahanol o ran maint a graddfa i lawer o brifysgolion eraill, ac rydym wedi bod yn cynllunio'r digwyddiad hwn ar adeg o newidiadau cyson i gyfyngiadau COVID-19 Cymru a lefelau parhaus o ansicrwydd.

Nid oedd ein lleoliad blaenorol yn ddigon mawr nac yn addas, ac fe wnaethom ystyried yr holl opsiynau a oedd ar gael ar y campws ac o amgylch y ddinas. Dyna pam y gwnaethom y penderfyniad i gynnal tair blynedd o seremonïau Graddio yn Stadiwm Principality. Buom yn ymgynghori â myfyrwyr ynghylch y lleoliad ac roedd yr adborth yn gadarnhaol gan bawb. Mae'n caniatáu i ragor o ffrindiau a theulu fod yno; byddai’r niferoedd hyn wedi’u cyfyngu yn y lleoliad blaenorol. Mae hefyd yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd pe bai cyfyngiadau COVID-19 yn dychwelyd i Gymru.

Rydym wedi bod yn agored ac yn glir ynghylch y ffaith y bydd newidiadau i fformat ein seremonïau. Trafodwyd y fformat a'r amseru gyda chynrychiolwyr myfyrwyr drwy gydol y broses gynllunio. Mae niferoedd mor uchel yn golygu y byddai'n anodd cadw rhai elfennau o'n seremonïau traddodiadol, yn enwedig darllen enwau a chroesi’r llwyfan yn y seremoni ei hun. Mae'n cymryd o leiaf awr i ddarllen tua 350 o enwau; ond bydd miloedd o raddedigion ym mhob seremoni yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, rydym yn chwilio am ffyrdd o ymgorffori elfen bersonol ar gyfer pob myfyriwr graddedig yn ystod y diwrnod, er mwyn gwneud yn siŵr bod amser ar gyfer rhoi cydnabyddiaeth bersonol a dathlu. Gallwn eich sicrhau na wnaethom y penderfyniad hwn ar chwarae bach, a’n bod yn gwbl ymwybodol o'r angen am gydnabyddiaeth bersonol ac unigol.

Er hynny, mae'n bwysig pwysleisio ein bod dal wrthi’n cau pen y mwdwl ar union fformat y digwyddiad. Bydd eich adborth yn helpu i lywio hyn. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo o hyd i baratoi ar gyfer y digwyddiad Graddio ac rwy'n ddiolchgar i'r nifer fawr o aelodau staff sy'n gweithio'n eithriadol o galed i wneud i’r digwyddiad hwn ddigwydd. Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn cydnabod holl waith caled ac ymdrechion ein myfyrwyr.

Gallaf eich sicrhau y bydd digwyddiadau Graddio Caerdydd yn fwy ac yn well nag erioed o'r blaen; bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i dynnu lluniau unigol yn y Stadiwm, cerddoriaeth fyw ac adloniant yn rhan o’r diwrnod. Cynhelir digwyddiadau dathlu unigol ar lefel Ysgol hefyd o amgylch Parc Cathays cyn y digwyddiad ffurfiol yn Stadiwm Principality i roi’r cyfle i fyfyrwyr ddathlu gydag academyddion prifysgol a graddedigion eraill. Unwaith eto, bydd eich adborth yn helpu i lywio'r digwyddiadau hynny, a’n nod fydd rhoi rhagor o fanylion cyn bo hir.

Byddwn yn ysgrifennu eto at bob myfyriwr i'w gwahodd yn ffurfiol i'w seremonïau. Bydd rhagor o fanylion am yr union gynlluniau ar gyfer y diwrnod yn cael eu hamlinellu. Fel y dywedais, byddwn yn myfyrio ar eich adborth ac rwy'n ddiolchgar i chi am rannu eich pryderon a'ch barn â ni.

Rwyf wir yn gobeithio y gallaf edrych ymlaen at eich croesawu i'ch dathliad Graddio wyneb yn wyneb.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan 

Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr