Ewch i’r prif gynnwys

Effaith y boicot marcio ac asesu ar ein myfyrwyr sy'n graddio - 4/7/23

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Ynghyd â llawer o brifysgolion eraill yn y DU, mae Prifysgol Caerdydd yn profi aflonyddwch o ganlyniad i’r boicot marcio ac asesu a alwyd gan yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU). Mae effaith y gweithredu hwn wedi'i ganoli mewn rhai o'n Hysgolion Academaidd.

Rydym bellach wedi gallu asesu effaith y boicot. Bydd mwyafrif ein myfyrwyr blwyddyn olaf yn derbyn gradd ddosbarthedig (ee gradd 1af, 2:1, 2:2). Yn anffodus, bydd nifer o’n myfyrwyr yn cael gradd annosbarthedig am y tro. Ar gyfer nifer fach arall o fyfyrwyr eraill, ni allwn rhoi canlyniad ar gyfer eu gradd ar hyn o bryd.

Rydym yn boenus o ymwybodol bod y myfyrwyr hynny yr effeithir arnynt yn teimlo'n siomedig iawn, yn bryderus ac yn ofidus. Gwyddom fod y sefyllfa hon yn cael effaith sylweddol ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rydym ni hefyd wedi ein siomi o weld effaith yr anghydfod cenedlaethol hwn ar adeg pan ddylai ein myfyrwyr fod yn dathlu diwedd llwyddiannus eu profiad israddedig ac yn edrych ymlaen at eu camau nesaf.

Bydd ein seremonïau graddio a'n dathliadau yn mynd rhagddynt. Gobeithiwn y bydd holl fyfyrwyr y flwyddyn olaf yn teimlo y gallant ymuno â ni i nodi penllanw eu taith israddedig gyda ni. Bydd y rhai sy’n dymuno gohirio yn gallu ymuno â’n seremonïau yn 2024.

Byddwn yn gwneud popeth posibl i gael gwaith ein myfyrwyr wedi'i farcio cyn gynted â phosibl, gan gynnal safonau academaidd, a byddwn yn darparu marciau llawn a dosbarthiadau cyn gynted ag y gallwn.

Rydym yn cysylltu â chyflogwyr a phrifysgolion eraill i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod ein myfyrwyr yn gallu dechrau eu gyrfaoedd neu ymgymryd ag astudiaethau pellach.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y bydd myfyrwyr rhyngwladol yn gallu gwneud cais i ymestyn eu caniatâd fisa myfyriwr o’r tu mewn i’r DU tra eu bod yn aros am eu canlyniadau.

Gwyddom fod hwn yn gyfnod hynod o ofidus i’n myfyrwyr yr effeithir arnynt. Rydym yn anfon cyfathrebiadau pwrpasol i bob myfyriwr yr effeithir arnynt, ac rydym wedi cynyddu gallu yn ein gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr i roi cymorth iddynt.  Rydym yn annog myfyrwyr i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, sy'n galluogi mynediad at ystod eang o arbenigwyr mewn gyrfaoedd, cyllid, iechyd a lles.

Mae hwn yn anghydfod cenedlaethol. Ni all y Brifysgol ddatrys y materion hyn yn annibynnol. Rydym wedi ymrwymo i'r broses genedlaethol o ymgynghori ar y cyd ac i ddod o hyd i ateb fforddiadwy sy'n cydnabod cyfraniad gwerthfawr ein staff. Rydym yn parhau i weithio'n adeiladol gydag UCU Caerdydd ar faterion lleol lle gallwn wneud gwelliannau i'n staff.

Gobeithiwn y gellir dod i gasgliad i’r cyfnod hwn o weithredu diwydiannol, er budd pob aelod o’n cymuned.