Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg (BA)
- Meysydd pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth , Cymraeg
- Côd UCAS: QQ53
- Derbyniad nesaf: Medi 2024
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Wedi'i deilwra i chi
Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.
Profiad yn y diwydiant
Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.
Cymuned lewyrchus
Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.
Cysylltiadau’r Brifddinas
Lleoliad delfrydol gyda chysylltiadau â sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol, treftadaeth a chyfryngau i'ch helpu ar eich ffordd.
Mae Caerdydd yn aros amdanoch
Ymgollwch ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y brifddinas.
Drwy gyfuno Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Mae’r radd anrhydedd ar y cyd yn cynnig y cyfle i ddilyn cwrs astudio uwch, gan rannu eich modiwlau rhwng y Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg.
Mae’r cwrs Cymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei gyflwyno gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth academaidd ac ymarferol drylwyr o’r Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ysgrifenedig a llafar yn y Gymraeg, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern. Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen i chi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.
Mae’r cwricwlwm Llenyddiaeth Saesneg yn cynnig mynediad at holl rychwant llenyddiaeth Saesneg, o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid hyd at yr 21ain ganrif. Ond ni chyfyngir y cwricwlwm i’r gair printiedig - gan fod y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celfyddyd, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd yn ennyn ein chwilfrydedd, mae’n haddysgu ni’n adlewyrchu’r diddordebau hynny. Er nad yw’r cwrs Llenyddiaeth Saesneg yn cynnwys unrhyw fodiwlau gorfodol, byddwch yn ennill profiad o ystod eang o destunau llenyddol, cyfnodau, mudiadau a genres.
Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau ategol yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ddulliau academaidd.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth
Maes pwnc: Cymraeg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-ABB. Rhaid cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith, ac Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 ar Lefel Uwch mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg. Rhaid i chi hefyd feddu ar gymhwyster Cymraeg sy'n cyfateb i radd B ar lefel Safon Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
D mewn BTEC ym mhynciau'r Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol, ac yn graddio AB-BB mewn Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg Safon Uwch, ac Ysgrifennu Creadigol Safon Uwch, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,000 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,000 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £22,700 | Dim |
Blwyddyn dau | £22,700 | Dim |
Blwyddyn tri | £22,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, sy’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng y pynciau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024
Blwyddyn un
Byddwch yn cymryd 120 o gredydau gyda’i gilydd, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 credyd yn Gymraeg a 60 credyd mewn addysg.
Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un ar ddatblygu sgiliau allweddol (ieithyddol, dadansoddol, creadigol ac o ran cyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.
Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:
- Iaith ac Ystyr
- Awdur, Testun a Darllenydd
- Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
Ar gyfer y llwybr ail iaith y modiwlau craidd yw:
- Sgiliau iaith
- Sgiliau Astudio Llenyddiaeth
- Yr Iaith Gymraeg heddiw
Blwyddyn sylfaen yw blwyddyn 1 Llenyddiaeth Saesneg ac fe’i cynlluniwyd i roi i chi’r sgiliau i astudio ar lefel uwch a chael trosolwg o’r pwnc, er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau gwybodus o blith modiwlau blynyddoedd dau a thri.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Critical Reading and Critical Writing | SE2146 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sgiliau Astudio Llenyddiaeth | CY1513 | 20 Credydau |
Sgiliau Iaith | CY1515 | 20 Credydau |
Y Gymraeg Heddiw | CY1516 | 20 Credydau |
Iaith ac Ystyr | CY1600 | 20 Credydau |
Awdur, Testun a Darllenydd | CY1601 | 20 Credydau |
Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes | CY1602 | 20 Credydau |
Drama: Stage and Page | SE2139 | 20 Credydau |
Star-cross'd Lovers: the Politics of Desire | SE2140 | 20 Credydau |
Transforming Visions: Text and Image | SE2142 | 20 Credydau |
Creative Reading | SE2144 | 20 Credydau |
Creative Writing | SE2145 | 20 Credydau |
Transgressive Bodies in Medieval Literature | SE2147 | 20 Credydau |
Ways of Reading | SE2148 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg.
Ym mlwyddyn dau’r Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth a gafwyd ym mlwyddyn un. Ym mlwyddyn dau, mae elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn feunyddiol.
Ochr yn ochr â’r elfennau craidd hyn, mae’r cwrs Cymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, fel cynllunio iaith, sgriptio a chyfieithu.
Nid oes modiwlau gorfodol ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg yn yr ail flwyddyn. Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau sy’n seiliedig ar gyfnod, genre neu thema, a byddwch chi’n darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.
Gallai'r rhain gynnwys modiwlau fel Shakespeare a Drama’r Dadeni, y Nofel yn yr Oes Ramantaidd, Ffuglen a Barddoniaeth Gymraeg, yn ogystal â Ffyrdd o Ddarllen, De America mewn Llenyddiaeth a Ffilm neu Ysgrifennu Creadigol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Yr Iaith ar Waith | CY2205 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cymraeg Proffesiynol | CY2215 | 20 Credydau |
Myrddin a Merlin | CY2350 | 20 Credydau |
Rhyddiaith Ddiweddar | CY2410 | 20 Credydau |
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith | CY2610 | 20 Credydau |
Tu Hwnt i'r Tudalen | CY2702 | 20 Credydau |
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990 | CY2810 | 20 Credydau |
Caffael Iaith | CY2910 | 20 Credydau |
Style and Genre | SE1416 | 20 Credydau |
Medieval Arthurian Literature | SE2295 | 20 Credydau |
Modernist Fictions | SE2445 | 20 Credydau |
Children's Literature: Form and Function | SE2447 | 20 Credydau |
Introduction to Romantic Poetry | SE2450 | 20 Credydau |
African-American Literature | SE2451 | 20 Credydau |
Imaginary Journeys: More to Huxley | SE2457 | 20 Credydau |
Modernism and the City | SE2463 | 20 Credydau |
Gothic Fiction: The Romantic Age | SE2468 | 20 Credydau |
Social Politics and National Style: American Fiction and Form, 1920-1940 | SE2470 | 20 Credydau |
Seventeenth and Eighteenth Century Women Writers | SE2476 | 20 Credydau |
Girls | SE2482 | 20 Credydau |
Epic and Saga | SE2496 | 20 Credydau |
Second-generation Romantic Poets | SE2582 | 20 Credydau |
Gothic Fiction: The Victorians | SE2589 | 20 Credydau |
Scandal and Outrage: Controversial Literature of the Twentieth and Twenty-First Centuries | SE2613 | 20 Credydau |
Shakespeare's Worlds | SE2632 | 20 Credydau |
Victorian Worlds: Revolution, Disease, Deviance | SE2636 | 20 Credydau |
International Study Abroad (60 credits) Spring | SE6252 | 60 Credydau |
Blwyddyn tri
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg.
Erbyn y drydedd flwyddyn byddwch wedi cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genre a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn dadansoddi cyd-destunau a thestunau a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Felly byddwch mewn sefyllfa ardderchog i ddewis rhwng amrywiaeth mwy arbenigol fodiwlau Llenyddiaeth Saesneg sy'n ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod mewn perthynas ag awduron a thestunau yr ydych chi’n gyfarwydd â nhw, ac efallai rhai nad ydych chi’n gyfarwydd â nhw.
Yn Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:
- Blas ar Ymchwil
- Ymchwilio Estynedig
Mae gennych ddewis o draethawd neu brosiect 5,000 gair (20 credyd) neu 9,000 gair (40 credyd), i’w gwblhau o dan arweiniad aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu ddarparu arddangosfa effeithiol amdanoch i gyflogwyr posibl. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Myrddin a Merlin | CY3350 | 20 Credydau |
Rhyddiaith Ddiweddar | CY3410 | 20 Credydau |
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith | CY3610 | 20 Credydau |
Yr Ystafell Ddosbarth | CY3660 | 20 Credydau |
Tu Hwnt i'r Tudalen | CY3702 | 20 Credydau |
Cyfieithu Proffesiynol | CY3705 | 20 Credydau |
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990 | CY3810 | 20 Credydau |
Blas ar Ymchwil | CY3900 | 20 Credydau |
Ymchwilio Estynedig | CY3905 | 40 Credydau |
Caffael Iaith | CY3910 | 20 Credydau |
The Graphic Memoir | SE1409 | 20 Credydau |
Literature and Science | SE2471 | 20 Credydau |
Decadent Men, 1890s-1910s: Wilde to Forster | SE2498 | 20 Credydau |
Dissertation | SE2524 | 20 Credydau |
Modern Drama: Page, Stage, Screen | SE2551 | 20 Credydau |
Gender and Monstrosity: Late/Neo Victorian | SE2564 | 20 Credydau |
Writing Caribbean Slavery | SE2568 | 20 Credydau |
Utopia: Suffrage to Cyberpunk | SE2581 | 20 Credydau |
Postcolonial Theory | SE2593 | 20 Credydau |
Medieval Romance: Monsters and Magic | SE2599 | 20 Credydau |
John Milton | SE2608 | 20 Credydau |
The American Short Story | SE2609 | 20 Credydau |
Apocalypse Then and Now | SE2611 | 20 Credydau |
Representing Race in Contemporary America | SE2616 | 20 Credydau |
Visuality, Culture and Technology | SE2624 | 20 Credydau |
Activist Poetry: Protest, Dissent, Resistance | SE2627 | 20 Credydau |
Contemporary British Political Drama | SE2628 | 20 Credydau |
Visions of the Future: Climate Change & Fiction | SE2630 | 20 Credydau |
Encounters With Oil in Literature and Film | SE2631 | 20 Credydau |
Romantic Circles: Collaboration, Radicalism and Creativity 1770-1830 | SE2633 | 20 Credydau |
Medieval Misfits | SE2634 | 20 Credydau |
Shakespeare's Fractured Britain | SE2637 | 20 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hun. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.
Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn enwedig ar gyfer y myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr ail iaith).
Sut y caf fy nghefnogi?
Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.
Sut caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.
Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.
Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:
- deall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
- gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Rydym yn darparu profiad academaidd hynod foddhaol i’n myfyrwyr sy'n cynorthwyo eu datblygiad fel dinasyddion sy’n meddwl yn feirniadol ac sy’n ymwybodol yn ddiwylliannol, y mae eu sgiliau dadansoddol uchel, eu pwerau mynegiant a’u hunanddibyniaeth flaengar yn eu gwneud nhw’n hynod o ddeniadol i gyflogwyr.
Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn gallu bod yn gymhwyster hynod werthfawr ar gyfer rolau sy’n gofyn am siaradwyr dwyieithog. Mae llawer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd megis y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg ar bob lefel.
Mae gan raddedigion llenyddiaeth Saesneg sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.
Lleoliadau
Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn feunyddiol. Mae'r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.