Ewch i’r prif gynnwys

Almaeneg a Llenyddiaeth Saesneg (BA)


Blwyddyn Mynediad

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Treuliwch flwyddyn dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd wrth i chi ddefnyddio a datblygu eich sgiliau iaith.

structure

Wedi'i deilwra i’ch gallu

Mae modd astudio ein holl ieithoedd ar lefel dechreuwr neu uwch ac nid oes angen cymhwyster Safon Uwch.

exit

Rhyddid i ddewis

Enillwch brofiad ar leoliad gwaith, gweithiwch fel cynorthwyydd dysgu neu dewiswch astudio yn ystod eich blwyddyn dramor.

book

Dysgu gan y gorau

Cewch elwa o gynnwys a arweinir gan ymchwil; a dysgu gan ysgolheigion ac awduron llenyddol byd-enwog.

building

Profiad yn y diwydiant

Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.

Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern a'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yw datblygu ac addysgu ein myfyrwyr i fod yn 'ddinasyddion byd-eang'.  Drwy astudio Almaeneg a Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol i weithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.  

Mae gan yr adran Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd enw da yn rhyngwladol am ei dulliau addysgu a'i gwaith ymchwil. Ond yn fwy na hyn – rydym yn ymfalchïo mewn meithrin amgylchedd cyfeillgar, personol a chefnogol i'n myfyrwyr. Ein nod yw bod y gorau a llwyddo ym mhopeth a wnawn.

Mae ein cwricwlwm yn cynnig mynediad at holl rychwant llenyddiaeth Saesneg, o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid hyd at yr unfed ganrif ar hugain. Ond ni chyfyngir y cwricwlwm i’r gair printiedig - gan fod y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celfyddyd, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd yn ennyn ein chwilfrydedd, mae’n haddysgu ni’n adlewyrchu’r  diddordebau hynny.

Nid oes modiwlau gorfodol ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd ar ôl y flwyddyn gyntaf. Fe gewch chi ddewis – ond hefyd rydym yn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth a fydd eu hangen arnoch chi i wneud penderfyniadau gwybodus o blith amrywiaeth o ddewisiadau, gan gynnwys ysgrifennu creadigol.

Yn ogystal â meithrin sgiliau iaith lefel uchel, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl sy'n cynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau Almaenig, a sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol, sy’n meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi mewn iaith dramor.

Mae'r Almaen yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Almaeneg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol y gymuned Ewropeaidd, ac mae’n iaith diwylliant a diplomyddiaeth ar lefel fyd-eang o hyd.

Rydym yn cynnig Almaeneg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yr Almaen yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad lle siaredir Almaeneg. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, fydd yn ysgogi menter a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig.

Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol. 

Fel myfyriwr cyd-anrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau ategol sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar. Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yr Almaen.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth

Maes pwnc: Ieithoedd modern a chyfieithu

  • academic-schoolYr Ysgol Ieithoedd Modern
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB. Rhaid i’r rhain gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg. Os oes gennych radd B mewn Almaeneg Safon Uwch bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.


Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 ar Lefel Uwch mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg. Os oes gennych radd 6 mewn Almaeneg Lefel Uwch bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Bagloriaeth Cymru

O 2023 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei hailenwi'n Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru. Bydd y cymhwyster hwn yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ogystal â gradd B mewn Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Ysgrifennu Creadigol ar Safon Uwch. Os oes gennych radd B mewn Almaeneg Safon Uwch yn ychwanegol at neu mewn cyfuniad â BTEC bydd gennych fynediad at lwybrau uwch ieithoedd.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Gofynion mynediad ychwanegol

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Mae proffil pob ymgeisydd yn cael ei ystyried fel darlun cyflawn, gan ystyried eich diddordeb yn y radd a pha mor addas yr ydych ar ei chyfer, fel y dangosir yn eich datganiad personol ac adroddiad y canolwr, yn ogystal â graddau a ragwelwyd ac a gyflawnwyd. Asesir eich gallu i gyflwyno dadl, tystiolaeth o chwilfrydedd deallusol a’ch brwdfrydedd a’ch ymrwymiad i astudio.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

FFfioedd am statws cartref

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae BA Almaeneg a Llenyddiaeth Saesneg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau iaith ar lefel uchel, ynghyd â’r sgiliau i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob blwyddyn o’r rhaglen byddwch yn astudio 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 o gredydau mewn Llenyddiaeth Saesneg a 60 o gredydau mewn Almaeneg. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yn yr Almaen neu mewn gwlad lle siaredir Almaeneg.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023

Blwyddyn un

Byddwch yn cyfuno 60 o gredydau mewn Almaeneg â 60 o gredydau mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Blwyddyn sylfaen yw eich blwyddyn gyntaf Llenyddiaeth Saesneg, ac fe’i cynlluniwyd i roi i chi’r sgiliau i astudio ar lefel uwch a chael trosolwg o’r pwnc, er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau gwybodus o blith modiwlau blynyddoedd dau a thri.

Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â chymhwyster Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Almaeneg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am Almaeneg. Mae Blwyddyn un yn cynnwys modiwl craidd 40 o gredydau mewn Almaeneg, ynghyd â modiwl trawswladol 20 o gredydau sy'n cyflwyno hanes, cymdeithas a diwylliant yr Almaen i chi o safbwynt byd-eang. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith, sy'n cyflwyno datblygiad yr Almaen fel cenedl i chi, gan archwilio beth oedd ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Mae hefyd yn archwilio perthynas yr Almaen â'r byd, gan eich galluogi i archwilio rôl yr Almaen y tu hwnt i'r ffiniau cenedlaethol. Bydd y modiwl yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau, byddwch unwaith eto yn astudio 60 o gredydau mewn Llenyddiaeth Saesneg a 60 o gredydau mewn Almaeneg.

Nid oes modiwlau Llenyddiaeth Saesneg gorfodol yn yr ail flwyddyn. Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau sy’n seiliedig ar gyfnod, genre neu thema, a byddwch chi’n darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.

Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Yn ogystal ag iaith, byddwch yn astudio 30 o gredydau yn edrych ar yr Almaen mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio amrywiaeth o bynciau’n fanwl - fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth, er enghraifft.

Y tu allan i'ch astudiaethau ffurfiol, byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Mentora Myfyrwyr, sydd wedi cael canmoliaeth uchel ac sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae disgyblion mewn ysgolion uwchradd dethol yn cael eu mentora gan ein myfyrwyr israddedig sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig. Mae’r myfyrwyr hyn yn mynd i'r ysgolion i fentora disgyblion mewn grwpiau bach o ddau neu dri dros gyfnod o bum wythnos.

Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon Iaith i Fyfyrwyr, sy'n gweithredu fel eiriolwyr ar gyfer dysgu ieithoedd. Yn dilyn hyfforddiant penodol, fel Llysgennad mae’n bosibl y cewch gyfle i siarad yn gyhoeddus mewn digwyddiadau, gan rannu eich profiad personol o ddysgu ieithoedd. Gallwch gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, megis sesiynau blasu iaith, cyflwyno a hyrwyddo’r flwyddyn dramor, cefnogi diwrnodau a digwyddiadau iaith mewn ysgolion, neu hybu ieithoedd modern mewn ffeiriau gyrfaoedd neu ddiwrnodau agored.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir eich trydedd flwyddyn yn yr Almaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Almaeneg. Bydd y flwyddyn dramor yn eich galluogi i feithrin eich sgiliau iaith, yn dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Almaenig ac yn datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.

Bydd eich dewisiadau’n cynnwys:

  • astudio yn un o'n prifysgolion partner;
  • gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy gynllun y British Council, neu
  • gweithio i sefydliad neu gwmni Almaenig.

Os byddwch yn dewis yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd yn yr Almaen, er enghraifft Berlin, Hamburg, Munich a Köln.

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y British Council fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r British Council yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Almaeneg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Almaeneg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol. Y mae hefyd yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 o gredydau mewn Almaeneg a 30 o gredydau mewn modiwl dewisol Almaeneg, yn ychwanegol at 60 o gredydau mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Erbyn hynny, byddwch wedi cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genre a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn dadansoddi cyd-destunau a thestunau a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Felly byddwch mewn sefyllfa ardderchog i ddewis rhwng amrywiaeth mwy arbenigol o fodiwlau sy'n ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod mewn perthynas ag awduron a thestunau yr ydych chi’n gyfarwydd â nhw, ac efallai rhai nad ydych chi’n gyfarwydd â nhw.

Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA mewn Almaeneg a Llenyddiaeth Saesneg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Rhoddir adborth ar eich gwaith yn aml ac mewn amrywiaeth eang o fformatau, a’i fwriad yw eich helpu chi i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysg, yn ogystal â rhoi arwyddion o sut y gallech wella eich perfformiad mewn arholiadau a gwaith cwrs.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl y cyfnod arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol.

Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, astudiaethau achos, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati).

Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor hyd at lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
  • Y gallu i ddarllen testunau’n fanwl ac yn feirniadol gyda dealltwriaeth glir o'r modd y mae ffurf, genre ac arddull yn llywio ystyr.
  • Dehongliadau annibynnol a gwybodus o destunau unigol.
  • Y gallu i lunio ac ysgrifennu dadansoddiadau llenyddol dadleugar clir, gramadegol, ac annibynnol.
  • Y gallu i gyfosod a chyflwyno amrywiaeth eang o ddeunyddiau.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes yr Almaen a gwledydd lle siaredir Almaeneg.
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn Saesneg ac Almaeneg, a hynny yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Sgiliau darllen beirniadol, ymchwil annibynnol ac ysgrifennu
  • Sgiliau dadansoddi llenyddol, darllen deongliadol a mynegiant ysgrifenedig.
  • Sgiliau dadansoddol a datblygu tuag at ddehongliad annibynnol a doeth o waith ymchwil.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Amlygu sgiliau wrth weithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Dadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol Ieithoedd Modern

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am swydd.

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.

Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn swydd a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Rydym yn darparu profiad academaidd hynod foddhaol i’n myfyrwyr sy'n cynorthwyo eu datblygiad fel dinasyddion sy’n meddwl yn feirniadol ac sy’n ymwybodol yn ddiwylliannol, y mae eu sgiliau dadansoddol uchel, eu pwerau mynegiant a’u hunanddibyniaeth flaengar yn eu gwneud nhw’n hynod o ddeniadol i gyflogwyr.

Mae gan raddedigion llenyddiaeth Saesneg sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cai

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2018/19 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2021.