Ewch i’r prif gynnwys

Daeareg gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc)

  • Côd UCAS: F607
  • Derbyniad nesaf: Medi 2022
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn dramor

Blwyddyn Mynediad

Coastal rock

Pam astudio’r cwrs hwn

I ddod o hyd i atebion i rai o’r problemau mwyaf sy’n wynebu ein planed heddiw mae angen i ni ddeall hanes a phrosesau’r Ddaear. Mae daearegwyr yn defnyddio eu gwybodaeth am hinsoddau a pheryglon y gorffennol  i ddeall a mynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu o ganlyniad i faterion fel newid yn yr hinsawdd a thrychinebau naturiol.

Ar ein cwrs Daeareg byddwch yn dysgu sut mae creigiau a mwynau’n cael eu ffurfio, sut mae anifeiliaid yn esblygu dros amser daearegol, beth sy’n achosi daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd a sut mae gwyddor Daeareg yn effeithio ar ein bywydau heddiw. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn gwaith maes, cofnodi data, dadansoddi a gwneud penderfyniadau’n hyderus.

Rydym yn gwneud y gorau o'n lleoliad ac yn mynd ar deithiau maes rheolaidd yn Ne Cymru i archwilio sut mae daeareg yn effeithio ar dirweddau a diwydiant y rhanbarth. Bydd cyfleoedd hefyd i fynd ar deithiau tramor, ac yn y gorffennol rydym wedi bod i Sbaen a Chyprus.

Ar y rhaglen bedair blynedd hon, gallwch dreulio un flwyddyn academaidd yn astudio yn un o'n prifysgolion partner dramor. Mae astudio dramor yn gyfle gwych i brofi diwylliannau a safbwyntiau eraill, gan ddysgu'r gwahanol arddulliau ac ymagweddau at eich pwnc mewn gwlad arall ac archwilio amgylcheddau ffisegol, tirweddau ac arfordiroedd newydd. Byddwch yn cael cyfle i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd o bob cwr o'r byd. Hefyd, cewch gyfle i ddatblygu cyfoeth o sgiliau bywyd a chryfderau a fydd yn eich helpu i gystadlu mewn gweithle cynyddol fyd-eang, megis y gallu i addasu, dyfeisgarwch a gwytnwch.

Mae Prosiect Aildyfu Borneo yn eich galluogi i wrthbwyso’r carbon a gaiff ei allyrru wrth hedfan drwy wneud rhodd fforddiadwy i gefnogi ein prosiect plannu coed yng nghoedwig law Lower Kinabatangan, Sabah, Borneo.

Rydym wedi gweithio gyda diwydiant i ddylunio ein gradd fel eich bod yn graddio gyda’r sgiliau arbenigol y mae arnoch eu hangen i fod yn ddaearegydd proffesiynol.

Does dim angen i chi fod wedi astudio Daeareg eisoes gan y byddwch yn dechrau’r flwyddyn gyntaf gyda’r egwyddorion sylfaenol i sicrhau bod pawb ar yr un lefel.

globe

Year abroad

Learn while you travel and experience the landscapes or coastlines, education and culture of a different country with the opportunity to complete a year studying at a university abroad.

location

Fieldwork opportunities

We take regular field trips in the UK and overseas to help you develop strong fieldwork skills. The cost of compulsory field trips is included in the course fees.

building

Local connections

Based in the same building as the Welsh office of the British Geological Survey and next door to the National Museum of Wales.

mortarboard

No prior knowledge needed

You don’t need to have studied Geology to take this course. We start with the basics to bring everyone to the same level.

rosette

Professionally accredited

Accredited by the Geological Society, the professional body for geosciences in the UK.

Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Maes pwnc: Daeareg a'r geowyddorau

Gofynion mynediad

ABB-BBB (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BBC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Anifeiliaid, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Gwyddor Iechyd, TGCh, neu Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth HL) neu 31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth HL). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Mae costau gwaith maes eich modiwlau craidd wedi'u cynnwys ond bydd angen i chi gyfrannu at fwyd os yw'n cael ei ddarparu yn ystod y daith. Bydd angen i chi dalu am unrhyw fodiwlau gwaith maes dewisol. Bydd cost y teithiau hyn yn cael ei gapio ar swm a bennir gan yr ysgol. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol yn gymwys i wneud cais am Raglen Cymorth Ariannol Caerdydd i helpu gyda’r costau hyn.

Byddwch yn talu 15% o ffioedd arferol Prifysgol Caerdydd yn ystod eich blwyddyn astudio dramor. Bydd angen i chi hefyd dalu am eich costau byw tra byddwch chi dramor, a allai gynnwys costau yswiriant iechyd. Mae costau ychwanegol pellach yn cynnwys costau teithio a ffioedd gwneud cais am fisa. Mae cefnogaeth ariannol ar gael. O dan y system bresennol, mae myfyrwyr yn parhau i fod yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr ar gyfer lleoliadau tramor. Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang hefyd yn darparu bwrsariaeth i gynorthwyo gyda rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â lleoliad tramor.  Bydd manylion llawn yn cael eu cadarnhau pan fyddwch yn ystyried eich opsiynau blwyddyn astudio dramor.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn pedair blynedd. Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio modiwlau craidd ac yn cael sylfaen gref mewn daeareg. Ym mlwyddyn dau a phedwar mae modiwlau craidd a dewisol felly mae gennych rywfaint o hyblygrwydd i ddewis astudio'r meysydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Treulir blwyddyn tri yn astudio yn un o'n sefydliadau partner mewn gwlad arall.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2022/23. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2022

Blwyddyn un

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
World of Dynamic EnvironmentsEA130020 credydau
Exploring Planet EarthEA130120 credydau
GIS, Maps and Analytical SkillsEA130320 credydau
Earth Science FieldworkEA130420 credydau
Earth MaterialsEA130620 credydau
Life and Earth HistoryEA130720 credydau

Blwyddyn dau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Year of Study AbroadEA3300120 credydau

Blwyddyn pedwar

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Mapping training
Students undertake training in geological mapping on one of our overseas field trips.

Dysgu ac asesu

Rydym yn ysgol gyfeillgar ac anffurfiol a byddwch yn cael eich cefnogi a'ch dysgu gan arbenigwyr o safon ryngwladol sy'n ymwneud ag ymchwil ryngwladol flaengar.

Rydym yn defnyddio dull addysgu sy’n gymysgedd o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol, gan gynnwys: darlithoedd, gwaith yn y labordy, gwaith maes, tiwtorialau, gweithdai a seminarau. Fe'ch anogir hefyd i ddysgu'n annibynnol drwy gydol y cwrs. Rydym yn eich annog i feddwl yn greadigol ac i ddod i gasgliadau o ddata anghyflawn sy'n sgil sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr mewn sectorau fel yswiriant, peirianneg sifil ac ymgynghori.

Bydd sut y cewch eich dysgu yn ystod eich blwyddyn astudio dramor yn dibynnu ar y sefydliad cynnal.  Mae ein holl bartneriaid tramor o safon gymharol o leiaf â Phrifysgol Caerdydd ac mae'r bartneriaeth yn mynd trwy broses gymeradwyo drylwyr. Byddwch yn edrych yn fanwl ar ddulliau addysgu yn eich sefydliad cynnal ac yn trafod y rhain gyda Chyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol fel rhan o'ch proses ymgeisio a'ch cytundeb dysgu Astudio Dramor.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau'r cwrs, byddwch yn cael Tiwtor Personol y byddwch yn cwrdd â hwy’n rheolaidd ar gyfer tiwtorialau. Cynhelir tiwtorialau bob pythefnos yn y flwyddyn gyntaf ac yna bob mis ym mlynyddoedd dau a phedwar. Gall eich Tiwtor Personol gynnig cyngor ar faterion academaidd a phersonol. Ym mlwyddyn pedwar, byddwch hefyd yn cael goruchwyliwr ar gyfer eich prosiect traethawd hir.

Bydd cefnogaeth academaidd ar gyfer y flwyddyn astudio dramor yn cael ei darparu i chi yn ystod eich ail flwyddyn gan Gyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol a chyngor cynllunio gan gydweithwyr yn y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang. Rhoddir cyngor ynghylch dewis prifysgol, nodau'r flwyddyn, rheoliadau academaidd a dewis modiwl gan y Cyfarwyddwr Rhyngwladol, a fydd ar gael i drafod syniadau, pryderon a materion gyda chi.

Mae Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn gweithio'n agos â'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang i'ch helpu i wneud cais i'r brifysgol gynnal, i roi cyngor ar gyllid, fisâu a'r holl drefniadau ymarferol sy'n gysylltiedig ag astudio dramor. Bydd Cyfleoedd Byd-eang yn trefnu sesiwn cyn gadael ac yn darparu pecyn cyn gadael a fydd yn cynnwys arweiniad defnyddiol.  Bydd aelodau staff y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Bydd Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn cwrdd â chi i adolygu a chytuno ar eich cyrsiau dramor fel rhan o gadarnhau eich Cytundeb Dysgu Astudio Dramor.  Bydd hyn yn gyfle i chi i adolygu'r addysgu, y deilliannau dysgu a’r dulliau asesu yn y brifysgol bartner a byddwn yn sicrhau bod y rhain yn briodol i chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Os oes dulliau asesu sy'n newydd i chi, byddwn yn eich helpu i baratoi ar eu cyfer.

Un o ofynion y modiwl Blwyddyn Astudio Dramor yw eich bod yn cadw dyddiadur myfyriol ar-lein ac yn cwrdd i’w drafod yn fisol gyda'ch Tiwtor Personol.  Mae hyn yn arwain at gyfarfod misol strwythuredig a gofynnol gyda'ch Tiwtor Personol Prifysgol Caerdydd a fydd yn eich galluogi i adolygu cynnydd eich astudiaeth ac i godi a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon neu anghenion. Gallwch hefyd gysylltu â'ch Tiwtor Personol neu'r Cyfarwyddwr Rhyngwladol yn ôl yr angen.  Bydd gennych fynediad at adnoddau ar-lein llawn Prifysgol Caerdydd a'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr tra byddwch dramor.  Mae gwasanaethau cymorth cynhwysfawr Undeb y Myfyrwyr hefyd ar gael i chi gydol yr amser. 

Bydd Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn gweithio gyda chi a gyda'u cyswllt yn y Sefydliad Partner i ddatrys unrhyw broblemau gyda'r Sefydliad partner ei hun, gan dynnu ar gefnogaeth Global Opportunities lle mae partneriaethau Prifysgol gyfan, fel sy'n briodol.

Mae pob prifysgol bartner o statws tebyg i Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol Caerdydd, ac mae ganddynt fecanweithiau i ddarparu cymorth academaidd a bugeiliol, felly cewch gefnogaeth ychwanegol trwy drefniadau gofal academaidd a bugeiliol eich prifysgol gynnal.

Cyfleusterau

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Caiff darlithoedd eu recordio lle bynnag y bo’n bosibl fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Mae gan y wefan Dysgu Canolog hefyd fodiwl Cynllunio Datblygiad Personol sy’n eich helpu i asesu eich cynnydd yn rheolaidd ac i ddiwallu eich anghenion datblygu.

Gwasanaethau Cymorth

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Amrywiaeth

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy’n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anabledd, strwythur teuluol, rhywedd, cenedl, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gred arall, a chefndir economaidd-gymdeithasol. Darllenwch am ein hymrwymiad i egwyddorion Athena SWAN a’n statws Efydd https://www.cardiff.ac.uk/cy/earth-environmental-sciences/about-us/equality-diversity-and-inclusivity.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.  

Gellir gweld y Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i gaffael, integreiddio a syntheseiddio gwybodaeth i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth ym maes gwyddorau ddaear.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o strwythur y Ddaear, ei deunyddiau, ffurfiau bywyd a'i hadnoddau a'r prosesau sy'n ei siapio’n awr a thrwy amser daearegol.
  • Y gallu i esbonio rôl ac effaith gwyddorau daear wrth ddatrys heriau amgylcheddol yr 21ain ganrif megis newid yn yr hinsawdd, geoberyglon a chynaliadwyedd ynni, dŵr ac adnoddau naturiol eraill i gwrdd ag anghenion poblogaeth y byd.

Sgiliau Deallusol:

 Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Deall a gwerthuso’n feirniadol tystiolaeth sy'n seiliedig ar wyddoniaeth i asesu a llunio datrysiadau i broblemau aml-elfen cymhleth mewn gwyddorau daear.
  • Y gallu i gydosod a gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol ar amrywiaeth o raddfeydd (o ficrosgopig i blanedol) a chynhyrchu a dehongli setiau data mewn 2D, 3D a 4D.
  • Y gallu i werthuso ymchwil gyfredol yn y gwyddorau daear, gyda gwerthfawrogiad cymesurol o ansicrwydd a thrafodaeth a therfynau ar ddealltwriaeth.  Bydd hyn yn cynnwys pwyslais penodol ar ymchwil mewn sefydliad a gwlad arall yn ystod eich amser dramor.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

 Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i adnabod a dehongli creigiau, mwynau a ffosiliau i benderfynu ar eu perthnasoedd daearegol ac i ail-greu hanes unrhyw sampl / brigiad / rhanbarth penodol sy'n cael ei astudio.
  • Deall a chymhwyso'r dulliau a ddefnyddir i gaffael data geo-ofodol a chynrychioli data o'r fath mewn 2D a 3D gan ddefnyddio mapiau a phlatfformau digidol fel GIS.
  • Dadansoddi a phortreadu data rhifiadol mewn gwyddorau daear, gan gynnwys defnyddio meddalwedd briodol.
  • Datrys problemau sy'n cynnwys integreiddio a dadansoddi data gwyddor daear amrywiol ac yn aml yn anghyflawn a defnyddio methodolegau ansoddol a meintiol priodol.
  • Y gallu i ddylunio, gweithredu a chyflawni rhaglen ymchwil maes neu labordy yn ddiogel ac adrodd ar y canfyddiadau yn effeithiol yn ysgrifenedig.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Yr hyblygrwydd, gwytnwch meddwl agored a'r gallu i edrych ar bwnc o wahanol safbwyntiau, y gellir ei ennill yn y flwyddyn astudio dramor.
  • Y gallu i ddylunio, gweithredu a rheoli prosiect trwy draethawd hir annibynnol.
  • Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Cymhwyso'r dull gwyddonol, sgiliau rhifiadol a gofodol gan gynnwys delweddu i ddeall setiau data 3D (a 4D) a'u rhyngosod mewn gofod (ac amser).
  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth a chysyniadau yn effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig a gweledol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
  • Dealltwriaeth o fanteision rhwydweithio cyflogaeth a datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Datrys problemau, dibynadwyedd, teyrngarwch, ymddygiad cymdeithasol, pwyll, agwedd at ddysgu ac ymchwil, arweinyddiaeth, gwytnwch, gwneud penderfyniadau a rhesymu.
Students studying maps
Lectures and practical work complement extensive fieldwork opportunities on our Geology degree programme.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae daearegwyr yn chwarae rhan ganolog yn y gymdeithas heddiw. Mae angen daeareg arnom i ddod o hyd i ffynonellau dŵr, ynni a mwynau cynaliadwy, i ganfod a lliniaru peryglon, ac i asesu tir ar gyfer adeiladu ffyrdd neu adeiladau.

Gyda gradd daeareg gallwch ddewis gweithio mewn amrywiaeth o rolau gwahanol gan gynnwys daearegwr peirianneg, hydrogeolegydd, mwynolegydd neu ymgynghorydd amgylcheddol. Bydd gennych hefyd sgiliau cyflogadwy hanfodol y mae sectorau fel yswiriant, cyllid, addysg a chynllunio yn chwilio amdanynt.

Mae rhai o’n cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio i gyflogwyr pwysig fel yr Arolwg Daearegol Prydeinig, Asiantaeth yr Amgylchedd, Digirock, Boliden Mining, Network Rail, Balfour Beatty a’r cwmni ymgynghorol peirianneg a mwyngloddio Royal Haskoning DHV

Roedd 95% o'n graddedigion a raddiodd am y tro cyntaf mewn cyflogaeth, a/neu’n astudio ymhellach, i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu wneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg o Ddeilliannau Graddedigion 2017/18).

Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data.

Lleoliadau

Oes.  Mae cyfle i ymgymryd â lleoliad astudio yn y drydedd flwyddyn gyda sefydliad partner mewn gwlad arall.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cyfleoedd i astudio mewn prifysgolion yn UDA, Canada, Awstralia, Sweden a'r Iseldiroedd.  

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 35% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth